Achos llofruddiaeth: Olew 'ddim wedi ei arllwys' dros ddynes

  • Cyhoeddwyd
Mavis BranFfynhonnell y llun, Heno
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mavis Bran chwe diwrnod wedi iddi gael llosgiadau yn y siop sglodion

Clywodd achos llofruddiaeth gwraig a fu farw ar ôl dioddef llosgiadau gydag olew poeth, nad oedd yn debygol fod yr olew wedi cael ei arllwys dros ei phen.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, dywedodd Dr Deryk James - y patholegydd wnaeth archwiliad post mortem ar Mavis Bran - mai tu blaen ei chorff oedd yn dangos olion o losgi gan olew poeth.

"Dyw hynny ddim yn gydnaws a bod olew poeth wedi ei dollti dros ei phen," meddai.

Mae Geoffrey Bran, 71, yn gwadu llofruddio'i wraig, 69, ar 23 Hydref y llynedd.

Eglurhad rhesymol

Mae Mr Bran yn gwadu ei fod wedi gwthio neu daflu offer coginio oedd yn dal olew berwedig dros ei wraig yn y Chipoteria yn Hermon, Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Mrs Bran yn yr ysbyty chwe diwrnod ar ôl y digwyddiad.

Ar ran yr amddiffyniad, gofynnodd Christopher Clee QC, i Dr James, a oedd hi'n bosib bod Mrs Bran wedi tynnu'r olew drosti ei hun.

Atebodd y patholegydd bod hynny'n eglurhad hollol resymol ond byddai arbenigwr llosgiadau yn gallu ateb hynny'n well.

Disgrifiad o’r llun,

Geoffrey Bran yn cyrraedd Llys y Goron Abertawe

Yn gynharach dywedodd dau dyst bod Mavis Bran yn poeni fod ei gŵr yn mynd i'w lladd hi.

Dywedodd Cerys Elias Davies bod Mrs Bran ofn ei gŵr a'i bod hi wedi ymddiried ynddi bod "Geoff yn gas" a bod y berthynas yn dirywio.

Roedd Mavis wedi dweud wrthi bod ei phriodas gyntaf wedi bod yn un llawn trais a'i bod hi "yn mynd trwy'r un peth eto". 

"Roedd o mor gas, roedd hi'n ofni am ei bywyd," meddai Mrs Davies.

Llygad ddu

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mrs Davies wedi trefnu i raglen S4C Heno ffilmio'r siop gan ei bod hi'n meddwl mai'r Chipoteria oedd "y siop sglodion orau yn Sir Gâr". 

Dywedod Mrs Davies bod Mavis wedi ei ffonio ar 17 Medi yn dweud bod yn rhaid canslo ffilmio gydag S4C "gan fod ganddi lygad ddu".

Pan ofynnodd Mrs Davies wrthi: "Fedri di ddim ei guddio 'da cholur?"

"Dyw Geoff ddim yn fodlon i mi ei wneud e," oedd ateb Mrs Bran.

Yn ôl Mrs Davies aeth Mavis ymlaen i ddweud wrthi: "Cerys, mae gennai ofn Geoff, a dwi'n meddwl ei fod e am fy f*****g lladd i."

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd ar y siop sglodion ger Hermon yn dilyn y digwyddiad

Dywedodd tyst arall ddydd Mercher - Johnny Patterson - fod Mrs Bran wedi dweud wrtho bod ei gŵr yn gas wrthi.

"Mi ddywedodd bod ganddi ofn, ac roedd hynny'n destun pryder i mi.

"Ddywedodd hi ddim ei fod o yn ei tharo hi na dim byd fel yna, ond roedd hi yn poeni ei fod yn datblygu problemau seicolegol," meddai.

Y ddau yn 'colli tymer'

Ddydd Mawrth fe glywodd y rheithgor gan Caroline Morgan, ffrind i'r pâr, oedd wedi gweithio gyda nhw yn y Chipoteria ac wedi eu 'nabod ers dros 20 mlynedd.

Dywedodd hi fod perthynas y ddau fel petai wedi dirywio, a bod Mavis Bran wedi ei ffonio hi yn ei dagrau ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth gan ddweud ei fod yn "troi yn gas".

"Roedd hi wedi dweud ei bod hi ofn ei fod e'n mynd i'w lladd hi," meddai.

Roedd y ddau yn gallu colli tymer, meddai, ac roedden nhw "wastad yn cwympo mas, rhegi a gweiddi ar ei gilydd".

Mae Geoffrey Bran yn gwadu llofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.