'Dim ffrae' cyn llosgiadau angheuol mewn siop sglodion

  • Cyhoeddwyd
Geoffrey BranFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geoffrey Bran wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth

Mae dyn wedi gwadu dadlau gyda'i wraig cyn iddi gael ei llosgi gan olew berwedig, er iddo ddweud yn ystod cyfweliad gyda'r heddlu eu bod wedi cael dadl.

Bu farw Mavis Bran, 69, yn Ysbyty Treforys fis Hydref y llynedd, chwe diwrnod ar ôl cael ei hanafu yn siop sglodion Chipoteria, yn Hermon ger Caerfyrddin.

Mae Geoffrey Bran, 71, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.

Dywedodd wrth Lys Y Goron Abertawe bod ei wraig "mewn hwyliau da" ar fore'r diwrnod y cafodd ei hanafu - 23 Hydref 2018 - a bod "dim dadlau o gwbl trwy'r dydd".

Gofynnodd Paul Lewis QC ar ran ar erlyniad a fu dadl rhwng y ddau pan gafodd pysgod eu gadael i losgi, ac atebodd Mr Bran: "Na. Wnaethon ni siarad yn ôl yr arfer."

'Eitha grac'

Cyfeiriodd Mr Lewis at gyfweliad heddlu pan ddywedodd Mr Bran wrth dditectif bod y ddau wedi ffraeo dros y pysgod, gan ddweud bod ei wraig yn "eitha' grac".

Gofynnodd Mr Lewis: "Ar bwy roedd hi'n rhegi, Mr Bran?"

Atebodd y diffynnydd: "Wel, dim ond fi oedd yna, yndyfe."

Ffynhonnell y llun, Heno
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mavis Bran yn yr ysbyty chwe diwrnod ar ôl cael ei llosgi gan olew berwedig

Dywedodd Mr Bran nad oedd yn cofio pam bu'n rhaid canslo ymweliad criw teledu er mwyn recordio eitem am siop Chipoteria i S4C gan "nid fi oedd yn delio â'r peth".

"Oedd gan Mavis lygaid ddu bryd hynny?" gofynnodd Mr Lewis. "Dydw i ddim yn cofio," atebodd Mr Bran.

Gwadodd ei fod wedi achosi unrhyw anafiadau i'w wraig nac ymddwyn yn ymosodol tuag ati, ond dywedodd y byddai weithiau "yn ei rhoi hi mewn cadair".

Pan ofynnwyd iddo ymhelaethu ynghylch hynny, atebodd: "Dyna'r unig ffordd o gau ei cheg hi.

"Mae hi'n dechrau rhefru ac erbyn diwedd y diwrnod dydych chi ddim hyd yn oed yn gwybod am beth mae hi'n tantro. Y rhan fwyaf o'r amser byddwn ni'n cerdded i ffwrdd."

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd siop sglodion y cwpwl ger eu cartref yn Hermon

Gan gyfeirio at dystiolaeth ffrindiau i'r llys bod Mrs Bran yn ofni ei fod am ei lladd, gofynnodd Mr Lewis a oedd ganddi sail i feddwl hynny.

"Na," meddai Mr Bran. "Wnes i erioed ei bygwth. 'Sa'i erioed wedi bygwth neb yn fy mywyd."

Pan ofynnodd Mr Lewis ai'r achos felly oedd bod ei wraig wedi dweud "celwydd cas" amdano, atebodd "Ie".

"A wnewch chi byth gyfaddef i'r hyn wnaethoch chi'r diwrnod hwnnw?" gofynnodd Mr Lewis.

"Does dim byd i gyfaddef iddo oherwydd wnes i ddim byd," meddai Mr Bran.

Mae'r achos yn parhau.