Crwner yn gohirio rheithfarn yn achos marwolaeth sepsis

  • Cyhoeddwyd
Samantha BrousasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Samantha Brousas ar 23 Chwefror 2018

Mae crwner wedi gohirio'r cwest yn achos dynes 49 oed o Wrecsam a fu farw o sepsis er mwyn cael rhagor o amser i ystyried y canlyniad.

Bu farw Samantha Brousas, o ardal Gresffordd, fis Chwefror y llynedd, lai na 48 awr ar ôl cyrraedd uned frys Ysbyty Maelor Wrecsam a hynny ar ôl treulio'r ddwy awr gyntaf mewn ambiwlans tu allan i'r ysbyty.

Ar bedwerydd diwrnod y cwest, daeth i'r amlwg bod chwe adroddiad Atal Marwolaethau Yn Y Dyfodol wedi cael eu cyhoeddi gan grwneriaid yn dilyn achosion ble bu'n rhaid i ambiwlans giwio y tu allan i un o ysbytai'r gogledd.

Ond fe ddywedodd bargyfreithiwr ar ran bwrdd iechyd y gogledd a'r ymddiriedolaeth ambiwlans bod dim cysylltiad "clir ac uniongyrchol" rhwng y farwolaeth ag unrhyw fethiannau meddygol.

Mae'r gwrandawiad yn Rhuthun wedi clywed bod parafeddygon a merch Ms Brousas, Samantha, oedd yn fyfyrwraig feddygaeth ar y pryd, wedi amau bod sepsis arni.

Roedd hi wedi methu â chael gwared ar annwyd am rai wythnosau cyn i'w chyflwr waethygu gan achosi tymheredd uchel, trafferthion anadlu a salwch stumog.

Ym marn meddyg teulu ar Chwefror 20, 2018 roedd hi'n dioddef o lid y stumog a'r coluddion neu ffliw gastrig.

MaelorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest bod sawl cam wedi'u gweithredu i leihau nifer yr oriau sy'n cael eu colli wrth i griwiau ambiwlans orfod aros tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam

Mewn adroddiad annibynnol ar gais y crwner, roedd yr Athro Solomon Almond wedi dweud y byddai Ms Brousas "mwy na thebyg wedi goroesi" petai wedi cael ei chludo i'r ysbyty yn ystod y bore ar 21 Chwefror yn hytrach nag ar ôl 12:00.

Clywodd y gwrandawiad ddydd Llun bod sawl cam wedi'u gweithredu i fynd i'r afael â'r sefyllfa, a bod yna ostyngiad sylweddol yn nifer yr oriau sy'n cael eu colli wrth i griwiau ambiwlans orfod aros tu allan i Ysbyty Maelor.

Mae bellach yn bolisi i barafeddygon ragrybuddio ysbyty eu bod yn cludo claf sydd o bosib â sepsis - rhywbeth na ddigwyddodd yn achos Ms Brousas - ac mae yna welliannau o ran asesu a blaenoriaethu cleifion sy'n aros mewn ambiwlans.

'Methiannau yn y system'

Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr teulu Ms Brousas, Stephen Jones, ddydd Llun, dywedodd Dr Kate Clark, ymgynghorydd meddyginiaeth frys, bod crwneriaid wedi cyhoeddi chwe adroddiad atal marwolaethau, a bod dau o'r achosion hynny yn dilyn achosion yn 2018.

Dywedodd Mr Jones bod "cyflwr Sam wedi ei nodi ac eto wnaethpwyd dim, sy'n golygu bod yna fethiannau o fewn y system", gan alw am reithfarn naratif.

Ond awgrymodd Dan Rogers, bargyfreithiwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bod tystiolaeth yr Athro Almond yn arwyddocaol, gan alw am gofnodi marwolaeth trwy achosion naturiol.

"Dyw unrhyw fethiannau neu feirniadaeth y gallech chi eu canfod ddim yn glir ac yn uniongyrchol wedi achosi'r farwolaeth," meddai wth grwner cynorthwyol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, Joanne Lees.

Dywedodd Mrs Lees ei bod angen rhagor o amser i ystyried y dystiolaeth cyn dod i benderfyniad gan ohirio'r cwest tan 20 Rhagfyr.