Carchar am oes am lofruddio wedi ffrae mewn tafarn
- Cyhoeddwyd

Bu Mark Bloomfield yn gweithio am gyfnod fel cynorthwyydd arbennig i'r Fam Theresa
Mae arbenigwr judo a ju jitsu wnaeth lofruddio dyn arall yn dilyn ffrae mewn tafarn wedi cael dedfryd o garchar am oes.
Cafodd Mark Bloomfield, 54 oed ac oedd yn gweithio yn y sector elusennol, ei ganfod gydag anafiadau difrifol y tu allan i dafarn y Full Moon ar Stryd Fawr Abertawe ym mis Gorffennaf.
Roedd wedi cael dwy ergyd "ffyrnig i'w wyneb" a bu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Ddydd Iau fe gymerodd y rheithgor llai nag awr i gytuno ar eu dyfarniad ar gyfer Colin Payne.
Bydd yn treulio o leiaf 15 mlynedd dan glo.

Bydd Colin Payne yn treulio o leiaf 15 mlynedd dan glo
Roedd yr amddiffyniad wedi honni bod Mr Bloomfield wedi ymddwyn yn "afreolus" cyn yr ymosodiad ac "wedi gwneud ystum" gyda'i ddyrnau tuag at Payne.
Ond dywedodd yr erlyniad mai "ymosodiad anghyfreithlon" oedd yr hyn ddigwyddodd ac nad oedd Payne, 61, yn amddiffyn ei hun.
Roedd lluniau CCTV hefyd yn dangos bod Payne wedi gafael yn Mr Bloomfield gerfydd ei wddf a'i daflu i'r llawr a'i fod wedi ei ddilyn tu allan i'r dafarn cyn ei daro i'r llawr eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd15 Awst 2019