Etholiad 2019: Barn y pleidiau ar wahanol bynciau
- Cyhoeddwyd
Ymhen 24 awr fe fydd y blychau pleidleisio'n agor - a dydd Mercher ydy'r diwrnod olaf o ymgyrchu gan y pleidiau i geisio denu cefnogaeth.
Ond pa bynciau sy'n parhau i fod yn destun dadlau rhwng y pleidiau - a sut fydd hynny'n effeithio ar y pleidleiswyr sydd, o bosib, heb benderfynu o hyd pa blaid i gefnogi?
Mae gohebwyr arbenigol BBC Cymru yn bwrw golwg dros rai o'r polisïau allai wneud gwahaniaeth ddydd Iau.
Asesiad Jenny Rees, Gohebydd Materion Cartref
Y gyfraith:
Fe fyddai pob plaid yn cynyddu niferoedd heddweision, gan ddychwelyd i'r lefel a oedd fwy na heb i'w weld yn 2010.
Mae yna lawer o drafod hefyd am fuddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid, er mwyn eu rhwystro rhag dilyn llwybr troseddol.
Tra bod y Ceidwadwyr yn canolbwyntio ar bolisïau dedfrydu llymach - yn enwedig ar gyfer troseddau difrifol - mae'r blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn ystyried edrych ar leihau'r niferoedd sy'n mynd i'r carchar am droseddau llai difrifol, gan ddiddymu dedfrydau byr.
Defnydd cyffuriau:
Mae'r mwyafrif o'r pleidiau yn unfrydol ar y pwnc yma - mae'r blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ystyried cynlluniau i leihau'r niwed yn hytrach na chosbi'r defnydd o gyffuriau, ac fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi'r gorau i garcharu pobl a fyddai'n cael eu dal gyda chyffuriau er budd personol.
Nid yw'r blaid Geidwadol yn cyfeirio'n benodol at y pwnc, ond maen nhw'n dweud y byddan nhw'n lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau ac i dorri'r cysylltiadau rhwng dibyniaeth a throsedd.
Asesiad Daniel Davies, Gohebydd Materion Cymdeithasol
Y drefn fudd-daliadau
Mae diwygio lles wedi hollti gwleidyddiaeth Prydain.
Mae llywodraeth y DU yn gwario £10bn y flwyddyn ar fudd-daliadau yng Nghymru, ac mae tua hanner hynny'n mynd ar bensiwn y wladwriaeth.
Mae llywodraethau dan arweiniad y Ceidwadwyr wedi ceisio torri'r bil tra hefyd foderneiddio cyfundrefn sy'n hynod gymhleth.
Eu hateb oedd cyflwyno'r Credyd Cynhwysol (Universal Credit). Mae'n disodli chwe budd-dal gydag un taliad misol. Os bydd y Ceidwadwyr yn ennill, byddan nhw'n parhau gyda'r cynllun hwn.
Ond mae eu maniffesto yn cydnabod beirniadaeth o'r polisi, gan ei fod yn addo "gwneud mwy i sicrhau bod y Credyd Cynhwysol yn gweithio i'r rhai sydd mwyaf agored i niwed".
Gwaredu'r holl drefn?
Yn ôl y blaid Lafur mae'r problemau cynddrwg fel nad yw newid pethau yn ddigon.
Fe fydden nhw'n dileu'r Credyd Cynhwysol, ond nid yw hi'n hollol glir beth fydden nhw'n ei gyflwyno'n ei le, nac ychwaith beth fyddai'n digwydd i'r mwy na 130,000 o bobl yng Nghymru sydd eisoes yn ei dderbyn.
Mae'n bosibl y byddai Llafur yn cyflwyno system debyg yn y pen draw - er y byddai hi'n system fwy hael ac, yn ôl Llafur, yn fwy tosturiol.
Ateb Plaid Cymru yw datganoli set gyfan o fudd-daliadau.
Maen nhw'n cyhuddo'r Ceidwadwyr o lusgo mwy o bobl i dlodi tra hefyd yn cyhuddo'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd o fethu ag amddiffyn y rhai mwyaf bregus.
Yn eu clymblaid gyda'r Torïaid, helpodd y Democratiaid Rhyddfrydol i lansio oes y cyni, ond maent yn beio'r Ceidwadwyr am ddylunio Credyd Cynhwysol.
Ychydig iawn o sôn sydd am Gredyd Cynhwysol sydd yn maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, y tu hwnt i addewidion i ddiwygio'r ffordd y mae'n gweithio.
Yn y cyfamser, dywed Plaid Brexit y dylid adolygu Credyd Cynhwysol.
Asesiad Owain Clarke, Gohebydd Iechyd
Mae arolygon barn ddirifedi yn dangos bod iechyd a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn flaenoriaeth i'r mwyafrif o bobl, felly er bod iechyd wedi'i ddatganoli mae'n anochel fel mater o bwys.
Bydd yn rhaid i bwy bynnag sy'n ffurfio llywodraeth nesaf y DU benderfynu faint o arian i'w roi i'r GIG yn Lloegr.
Po fwyaf o arian y mae San Steffan yn ei roi i'r GIG, a gwasanaethau cyhoeddus eraill fel ysgolion a chynghorau, yn Lloegr - po fwyaf o arian a ddaw i goffrau Llywodraeth Cymru.
Mae dadansoddiad gan BBC Cymru yn awgrymu bod gwahaniaeth sylweddol yn y radd y byddai Cymru yn elwa o ganlyniad i ymrwymiadau maniffesto'r DU o'r prif bleidiau.
Ond yn y pen draw, Llywodraeth Cymru fydd yn gwybod sut yn union i wario'r arian ychwanegol.
Asesiad Bethan Lewis, Gohebydd Addysg a Theulu
Er bod addysg wedi'i ddatganoli, mewn sawl ffordd bydd yr etholiad hwn yn cael effaith sylweddol ar brifysgolion yng Nghymru.
Brexit yw'r pwnc pwysicaf i addysg uwch, ac yn enwedig yr hyn sy'n disodli cyllid a chynlluniau Ewropeaidd fel Erasmus +.
Llywodraeth Cymru sy'n gwneud penderfyniadau ar ffioedd dysgu a chyllid myfyrwyr, ond yn y maes hwn mae unrhyw ddiwygiadau dramatig yn Lloegr yn debygol o ysgogi newidiadau yng Nghymru hefyd.
Os fydd ffioedd dysgu yn cael eu dileu, fel y mae rhai o'r pleidiau yn addo, byddai'n cael effaith uniongyrchol ar filoedd o fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio ym mhrifysgolion Lloegr.
Ac yn ymarferol ac yn wleidyddol byddai'n anodd i sefydliadau Cymru barhau i godi £9,000 pe bai addysg uwch yn costio llai neu hyd yn oed am ddim dros y ffin.
Asesiad Brian Meechan, Gohebydd Busnes
Brexit yw'r prif bwnc trafod yn y byd busnes yng Nghymru.
Mae 61% o allforion Cymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, gyda 14% yn cael ei werthu i Unol Daleithiau America a bron i 17% i weddill y byd.
Mae'r prif bleidiau'n cynnig dulliau gwahanol o fynd i'r afael â Brexit.
Mae 'na sôn am y fargen gyfredol, am ail-negodi, am gynnal refferendwm arall, gadael heb fargen neu ddiddymu Erthygl 50 a pheidio â gadael yr UE o gwbl.
Dim ond un rhan o'r broses Brexit yw trefnu sut rydyn ni'n gadael yr UE.
Mae'r berthynas fasnachu yn y dyfodol, y mae'n rhaid ei thrafod o hyd, yn hanfodol i fusnes Cymru.
Nid yw'n ymwneud â thariffau yn unig, mae rhwystrau eraill i fasnach fel rheoliadau - ac fe fydd cwmnïau am gael cadw'r rheiny i'r nifer lleiaf posib er mwyn sicrhau bod gwerthiant a chludo nwyddau yn digwydd mor llyfn â phosibl.
Asesiad Sarah Dickins, Gohebydd Economaidd
Adeiladu, buddsoddi neu'r ddau?
Mae cynyddu gwariant cyhoeddus wedi bod yn thema sydd wedi bod yn thema gyson yn addewidion yr holl bleidiau.
Mae eu cynlluniau ar lefelau gwariant, a gwariant cyfalaf, yn amrywio.
Byddan nhw hefyd yn mabwysiadu lefelau amrywiol o fenthyca.
Ond does dim un blaid yn dadlau o blaid parhau gyda'r cynlluniau cyni.
Mae'r pleidiau i gyd yn sôn am fuddsoddi mewn diwydiannau gwyrdd fel ffordd o leihau ein defnydd o garbon, brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a cheisio rhoi hwb i dwf economaidd swrth ar yr un pryd.
I edrych ar y manylion mae'r cynlluniau'n amrywio o insiwleiddio cartrefi, annog cerbydau trydan, ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg i leihau'r defnydd o garbon a phlannu miliynau o goed.
Asesiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau
Mae cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn faterion sydd wedi eu datganoli, ond San Steffan sydd â'r cyfrifoldeb am ddarlledu.
Mae consensws ymhlith maniffestos y blaid y dylai trwyddedau teledu gael eu rhoi am ddim i bobl dros 75 oed, gan wyrdroi penderfyniad a gyhoeddwyd gan y BBC ym mis Mehefin 2019.
Mae Plaid Brexit yn mynd gam ymhellach, gan nodi y byddai'n dileu'r ffi drwydded yn gyfan gwbl.
Asesiad Steffan Messenger, Gohebydd Amgylchedd
Bydd yr hyn sy'n digwydd gyda Brexit yn effeithio ar amgylchedd Cymru mewn pob math o ffyrdd.
Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar un o'r materion allweddol - cyllid i ffermwyr, sy'n rheoli mwy nag 80% o'n tirwedd.
Mae cymorthdaliadau'r UE yn rhan fawr o'u hincwm ar hyn o bryd.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol mae'r Ceidwadwyr wedi addo gwarantu cyllid ar yr un lefel â nawr tan 2024, dywedodd Llafur a'r Blaid Brexit y byddan nhw hefyd yn cynnal cymorthdaliadau a grantiau i ffermwyr.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd eisiau canslo Brexit, ond maen nhw'n dweud hefyd eu bod yn ffafrio lleihau taliadau i ffermydd mwy er mwyn rhoi mwy o arian i gefnogi'r amgylchedd.
Mae Plaid Cymru hefyd eisiau aros yn yr UE, ond mae'n dweud fod yn rhaid cynnal taliadau cymhorthdal uniongyrchol os ydyn ni'n gadael.
Mae'r pleidiau'n siarad llawer mwy am faterion gwyrdd yn gyffredinol yn yr etholiad hwn.
Efallai mai'r ardal a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar Gymru yw pa mor gyflym maen nhw am ddod â chyfraniad y DU i gynhesu byd-eang i ben trwy gyrraedd y nôd o dorri o 100% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019