Ateb y Galw: Yr actor Wynford Ellis Owen

  • Cyhoeddwyd
wynford

Yr actor ac awdur Wynford Ellis Owen sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Lleuwen Steffan yr wythnos diwethaf.

Wynford yw sylfaenydd Stafell Fyw yng Nghaerdydd - canolfan sy'n helpu pobl â dibyniaeth - ac mae hefyd yn ymgynghorydd cwnsela arbenigol.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

O'n i 'di bod yng nghwmni hogia' mawr yn ystod diwrnod chwaraeon pentre' Llansannan, ers talwm. O'n i fawr o beth - rhyw bedair neu bump oed. Fy nhad yn dod i'n ôl i i fynd adra i gael swpar, a dyma fi'n d'eud 'wbath wrtho fo... a ges i fynd i ngwely heb swpar.

Bora wedyn, mi ges i'n nragio drwy'r pentre i'r ysgol, ac o flaen yr holl ysgol, fy nhad yn d'eud y drefn wrtha i, ac yn d'eud y drefn wrth bawb, ac nad oedden ni fod i regi!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Helen Preswylfa, o'dd yn byw dros y ffordd, ac o'n i'n chwara' lot efo hi yn yr ardd - dwi ddim 'di gweld hi ers hynny. 'Nathon ni adael Llansannan pan o'n i'n 7, ac wedyn Linda Halliday o'dd yn yr ysgol efo fi yn Llanllyfni. Mae hi'n gymeriad yn Porc Peis Bach.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffilm Porc Pei, sydd wedi ei seilio'n rhannol ar blentyndod Wynford, ei rhyddhau yn 1998, gyda chyfres Porc Peis Bach yn dilyn

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Public humiliation ydi'r peth gwaetha' 'de... Dwi'n meddwl ma'r un sy'n aros yn y cof fel dipyn o gamgymeriad - o'n i'n cyflwyno Nos Wener, rhaglen wleidyddol, materion cyfoes, ar HTV flynyddoedd yn ôl pan o'n i yn y coleg.

O'dd hi'n rhaglen fyw, ac un noson, torrodd yr autocue, a 'nath fy ymennydd jest rewi a methu cario 'mlaen. O'dd 'na ddistawrwydd llethol, ac o'dd o'n swnio i mi fel tragwyddoldeb... Dwi'n cofio cywilydd mawr ar y pryd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi newydd fod yn arwain encil yn Nhrefeca, a dwi'n credu do's 'na ddim yn rhoi mwy o bleser i mi na phobl yn dechra' gafael yn eu bywydau a g'neud yn dda, ac mae hynny bob amser yn cyffwrdd rhywbeth tu mewn i mi. Dwi'n crïo'n aml iawn.

Os dwi'n gweld unrhywun yn dangos tosturi dros eu cyd-ddynion, yna mae hynny'n dod â dagrau i'n llygaid i.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'm yn fflosio nannedd...

Weithiau, weithiau, fydda i'n cymryd fy hun ormod o ddifri', ond ti wastad yn mynd i drwbl o wneud hynny, a dwi wedi dysgu'n well rŵan.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Syr Wynff a Plwmsan - cymeriadau hoffus Wynford a Mici Plwm - yn diddanu plant Cymru yn yr 80au

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dinas Dinlle, heb os nac oni bai. Fan'na mae Duw yn byw. Fan'na fyddwn i'n mynd i ddysgu fy leins. Unrhyw esgus ga i, a i i gerdded yno. Mae o jest yn un o'r llefydd sbesial 'na.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Hwn ydi'r cwestiwn anodda', am y rheswm, pan dwi'n deffro bob dydd dwi'n d'eud wrtha fi fy hun mai dyma ddiwrnod gora' mywyd i, mae popeth am weithio allan, mae popeth am lifo'r rhwydd.

Faswn i'n d'eud fod pob diwrnod yn ddiwrnod gora mywyd i. Fedra i ddim dewis un.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi'n berffaith amherffaith!

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Llyfr Emlyn Williams, yr actor, Beyond Belief, lle mae o'n d'eud hanes y Moors Murders. Mae diweddglo pob un pennod yn frawychus, ac mae o'n ddramatig ac yn erchyll yn ei ddisgrifiadau.

Llyfr arall gafodd argraff arna i oedd Dr Christiaan Barnard, One Life - fo oedd yr un 'nath y trawsblaniad calon cynta', yn Ne Affrica. Mae o ddiddordeb mawr i mi, achos o'dd o'n llawfeddyg llwyddiannus, a mwya' sydyn, mi aeth yn seleb byd-eang, a mi 'nath hynny ei ddifetha' fo.

O ran ffilms, The Godfather, ac hefyd Porc Pei, achos bob tro ma' nhw'n chwara' hwnna, dwi'n cael pres!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

'Swn i'm yn cael diod, achos dwi ddim yn yfed, felly 'sa rhaid iddo fo fod yn ddiod meddal neu'n goffi decaf - efo Iesu Grist 'de. Mae gan i ddigon o gwestiynau i'w gofyn iddo fo, a 'sa fo'n gallu rhannu digon o brofiadau, dwi'n siŵr. A cha'l chocolate brownie yr un hefyd!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i'n popstar ar un adeg! O'n i mewn grŵp o'r enw Pavlov's Hounds. Pwy arall o'dd yn y grŵp oedd Twm Elias. O'ddan ni'n chwarae pan o'ddan ni'n yr ysgol ac yn cynnal cyngherddau yn neuadd Clynnog ac yn y neuadd yng Nghaernarfon. Fuon ni'n chwarae mewn hops yn y brifysgol hefyd. Asu, o'ddan ni'n cŵl!

Ddaeth o i ben ar ôl i ni adael yr ysgol. Mi ddylia fy ngyrfa fod wedi para'n hirach - ddyliwn i fod yn rhyw rock god - ond yn anffodus, do'dd hynny ddim i fod.

Disgrifiad o’r llun,

Twm Elis, y naturiaethwr, oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

'Swn i'm yn newid dim byd. Faswn i'n d'eud fy natganiadau cadarnhaol yn y bore, trio cael coffi decaf yn rhywle, a gwneud croeseiriau efo Meira, fy ngwraig. Wedyn, gwylio Newsnight, ac yna marw.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Lacrimosa, Mozart, achos un o'r cynyrchiadau 'nes i ei fwynhau fwya' oedd Amadeus. Mae o jest yn fy nghyffwrdd i.

Dwi hefyd yn hoffi Cân y Stafell Fyw, 'nath Sbardun ei sgwennu i ni, ac o'dd nifer o artistiaid wedi ei recordio fo - Elin Fflur, Bryn Fôn, Brigyn a Chôr Porthmadog.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawn cocktail, mae'n siŵr. Stêc sirloin wedyn. Ac yna - ma'n siŵr pam 'nes i briodi Meira - ei threiffl hi! Mae o jest yn wych. Mae'n rhaid fod yna rywbeth ynddo fo - dôs mawr o gariad dwi'n meddwl, sy'n g'neud gwahaniaeth!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dim un c'radur byw. Dwi wedi cymryd fy oes gyfan yn trio ffeindio pwy ydw i mewn gwirionedd. A dwi 'di ffeindio pwy ydi Wynford, a dwi'm isho bod yn neb arall - dwi'n hapus iawn yn fy nghroen fy hun.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Linda Brown

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw