Ysbytai Cymru yn delio â llygod, morgrug a chwain

  • Cyhoeddwyd
difa plâu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wariodd un bwrdd iechyd tua £94,000 ar wasanaethau difa plâu mewn pum mlynedd

Carthion mewn theatr, pryfed mewn ward geni a llygod mewn man chwarae - dyma rai o'r rhesymau pam bod gwasanaethau difa plâu wedi cael eu galw i ysbytai Cymru yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Ond yr hyn oedd yn gyfrifol am y mwyafrif o'r galwadau oedd chwilod duon (cockroaches), gwenyn, morgrug, malwod a chynrhon.

Fe wariodd un bwrdd iechyd tua £94,000 ar wasanaethau difa plâu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae costau byrddau iechyd yn amrywiol a dim ond rhai byrddau iechyd ymatebodd i gais rhyddid gwybodaeth (FOI).

O'r rheini, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a dalodd y mwyaf i'w contractwyr - £93,987 dros gyfnod o bum mlynedd gan wneud galwadau dros 200 o weithiau am broblem morgrug.

Dywed y bwrdd bod eu costau yn uwch am eu bod yn rheoli mwy o safleoedd.

Pest control graphic
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbytai Cymru wedi galw ar wasanaethau i ddelio gyda chwilod du, malwod, gwenyn, cynrhon, morgrug a llygod

Yr ysbyty a alwodd y gwasanaethau arbenigol amlaf oedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg - mwy na 130 o weithiau - lle cafwyd hyd i garthion yn y theatr, chwain mewn cofnod meddygol, pryfed ar ward geni a llygod yn y man chwarae.

Yn 2016, cafodd swyddogion eu galw wedi i bry cop ffug gael ei ganfod ar dir yr ysbyty.

Fe gododd y nifer o weithiau y cafodd swyddogion eu galw i Gwm Taf o 59 yn 2014 i 95 yn 2018.

Dywed Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod wedi newid y ffordd o gadw data yn 2017 ond eu bod wedi galw'r gwasanaethau 36 o weithiau yn 2018 i ddelio gyda materion yn Ysbyty Llandochau ym Mhenarth - ymhlith y materion roedd llygod, morgrug, gwenyn, chwilod a phryfed.

Ym Mhowys fe gynyddodd y galwadau o 16 yn 2015 i 78 yn 2019 - ar gost o £41,216 - ymhlith y rhesymau roedd llygod bach, llygod mawr, morgrug, pryfed, chwain a gwenyn.

'Ardal wledig'

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd bod "ardal wledig y bwrdd iechyd yn gyfrifol am alw gwasanaethau difa plâu - er enghraifft yn haf 2019 roedd yna fwy o wenyn na'r blynyddoedd cynt".

Yng ngogledd Cymru, cafodd y gwasanaethau eu galw 453 o weithiau rhwng 2014 a Mawrth 2019 gyda'r mwyafrif o achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam - yn eu plith gwylanod a cholomennod.

Fe gododd nifer o alwadau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o 31 yn 2014 i 110 yn 2018.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nad oedden nhw'n cofnodi nifer y galwadau oherwydd natur eu cytundeb ond ers 2014 maen nhw wedi gwario £52,249 ar wasanaethau arbenigol i ddelio gyda phlâu.

Dyw byrddau iechyd Hywel Dda ac Aneurin Bevan ddim wedi darparu data.