Cau parc chwarae oherwydd baw ci yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Arwydd dim baw ciFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parc wedi gorfod cau tan ei fod yn cael ei lanhau

Mae ardal chwarae yn ystâd Dyffryn yng Nghasnewydd wedi gorfod cau i'r cyhoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â baw ci sydd wedi cael ei adael ar lawr ac offerynnau chwarae'r parc.

Dywedodd staff Cyngor Dinas Casnewydd, sydd yn delio gyda'r digwyddiad, nad oedden nhw wedi dod ar draws ymddygiad mor "erchyll" o'r blaen a'u bod nhw wedi rhoi gwybod i'r heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae gwneud hyn i ardal chwarae plant yn hollol annerbyniol.

"Mae'r ardal chwarae gyfan wedi cael ei ddifwyno ac mae e wedi gorfod cael ei gau er mwyn i ni allu glanhau'r lle'n drwyadl."

Mae'r cyngor yn apelio am wybodaeth ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am y digwyddiad ac wedi gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.