Ateb y Galw: Yr actor a cherddor Iwan Fôn
- Cyhoeddwyd

Yr actor a cherddor Iwan Fôn sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Angharad Tomos yr wythnos diwethaf.
Mae Iwan yn gyfarwydd i rai fel Jason yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd, ond hefyd yn adnabyddus fel aelod o'r bandiau Y Reu a Kim Hon.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwara pêl-droed yn parc Carmel, oedd 'na gêm dda yno bryd hynny.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Fel llawer bachgen fy oed i, Britney Spears.

Roedd nifer yn hoffi'r 'All American Girl', Britney Spears
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwn i'm am erioed ond ges i gopsan yn actio fel James Bond o gwmpas y tŷ gan dyn golchi ffenestri wythnos dwytha'. Dwi'n cau cyrtans tro nesa'!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan gollodd Cymru yn erbyn De Affrica yn Cwpan y Byd. Oeddwn i, fel llawer un, yn gutted!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gormod. Ond dwi'n gobeithio fydd y flwyddyn newydd yn gyfle i gael gwared o rai ohonynt. Ella.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ar ben Moel Tryfan. Mae posib gweld pob man sydd yn bwysig ac yn annwyl i fi o'r copa.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Oedd headlineio Maes B yng Nghaerdydd yn noson 'na'i byth anghofio. Hen bryd cael y band nôl at ei gilydd dwi'n meddwl.

Roedd Y Reu yn un o fandiau cynllun y BBC i artistiaid - Gorwelion - yn 2015
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Poen yn din.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Hoff lyfr - Henry Rider Haggard, King Solomon's Mines. (Mae'r gân Beef gan Y Reu wedi'i ysbrydoli gan y llyfr yma.) Hwn oedd y llyfr cynta' i fi ymgolli yn llwyr tra'n ei ddarllen. Ewch i ddarllen o, da chi!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Barti Ddu, dychmygwch yr hanesion. A'r meddwi.

Bartholomew Roberts - neu Barti Ddu - y partner yfed delfrydol?
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i'n arfer chwara'r ffidl.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwledd enfawr a meddwi'n wirion bost efo teulu a ffrindia'.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff gân a pham?
Newid pob dydd, ond heddiw; Ghetto Brothers, Got this happy feeling. Dwi 'di bod mewn mŵd grêt ers gwrando arni bora 'ma!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail Taid, cinio dydd Sul Nain (Nain fi yn well na nain chdi) a hufen iâ mint choc chip i orffen, a bach o gaws 'fyd.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Owen Alun