Pryderon lleol am fwg 'erchyll' o dân ffatri Kronospan
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion sy'n byw ger ffatri lle mae tân yn mudlosgi, gan orchuddio'r ardal mewn cwmwl o fwg, yn dweud eu bod yn pryderu am eu hiechyd.
Mae diffoddwyr yn parhau i daclo'r tân ar safle Kronospan yn Y Waun, Wrecsam - y trydydd gwaith mewn llai na thair blynedd iddyn nhw gael digwyddiad o'r fath ar y safle.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 02:15 fore Llun, wedi i'r fflamau gynnau ger wal goed.
Un sydd wedi dioddef effeithiau'r mwg ydy Sharon Briscoe, a ddywedodd: "Mae wedi bod yn ofnadwy - yn gwbl erchyll. Fe ddechreuodd pethau i mi ddydd Llun.
"Roeddwn i wedi bod yn Wrecsam ac ar y ffordd yn ôl roeddwn i'n meddwl fod problem gyda fy nghar - roeddwn i'n meddwl fod yr injan ar dân.
"Fe es i oddi ar y ffordd a mynd i mewn i'r Tesco lleol yn Cefn Mawr, rhyw bedair milltir i lawr y ffordd ac roedd yr arogl yn y siop yn ofnadwy. Felly fe nes i sylweddoli mai nid problem gyda'r car oedd yn gyfrifol."
Ychwanegodd: "Dim ond pan nes i gyrraedd adref fe 'nes i sylweddoli fod yr arogl yn dod o'r Waun. Roedd na fwg gwyn yn dod o Kronospan erbyn hynny, sydd yn digwydd yn eithaf aml.
"Fe ddaeth y drewdod yn y tŷ yn gryfach ac yn gryfach ac erbyn 22:00 roeddwn yn pryderu o ddifrif am fy iechyd.
"Erbyn 23:10 roeddwn i'n teimlo fel fy mod yn tagu - doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn bod - roedd blas cemegol arno. Mae'r blas drwy'r tŷ ac yn y car ers deuddydd wedi bod yn erchyll."
'Dal i fudlosgi a mygu'
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Baines o Gyngor Tref Y Waun fod pryder yn lleol am yr effaith y mae'r mwg yn ei gael ar iechyd trigolion.
"Rydym wedi cael tân difrifol ar safle Kronospan sydd wedi bod yn llosgi ers 72 awr bellach. Mae'n dal i fudlosgi a mygu.
"Mae na bryder ymysg pobl leol fod deunyddiau fel MDF yn y ffatri sy'n wenwynig os yn llosgi.
"Erbyn hyn rydym mewn sefyllfa lle maen nhw'n monitro'r aer, ond mae hyn dri diwrnod yn rhy hwyr i'r trigolion yma.
"Ar gyfartaledd rydym yn cael un tân mawr yma bob blwyddyn ac mae pobl yn teimlo rhwystredigaeth. Mae diffyg cyfathrebu cyffredinol wedi bod."
Ychwanegodd: "Doeddwn i heb weld datganiad gan Kronospan tan tua 48 awr wedi i bobl anadlu mwg - gyda phobl yn dweud fod eu tai a'u ceir yn drewi a doedd dim gwybodaeth gan Kronospan."
Wrth ymddiheuro i drigolion Y Waun ac ymateb i bryderon am ddiogelwch, dywedodd Chris Ryan o gwmni Kronospan: "Rwy'n deall y feirniadaeth, ond rydym wedi rhyddhau nifer o ddatganiadau yn ystod yr wythnos, mewn cytundeb gyda'r Gwasanaeth Tân, fel ffordd o geisio rhoi gwybod i'r trigolion beth sy'n digwydd, a hefyd wedi cydweithio gyda swyddfa diogelu'r cyhoedd Cyngor Wrecsam.
"Felly rydym yn credu ein bod wedi cyfathrebu'n dda ac mae'n rhaid i bobl gadw mewn cof y ffaith fod y sefyllfa yn un oedd yn newid yn sydyn.
Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim am weld unrhyw dân ar y safle. Rydym wedi buddsoddi llawer yn y blynyddoedd diwethaf - tua £200m i wneud y ffatri'n un gwbl fodern, gan wella systemau diogelu rhag tanau, a diogelu swyddi ein gweithwyr at y dyfodol."
Cyfarfod cyhoeddus
Nos Iau, fe ddaeth tua 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus brys yn Y Waun i drafod y sefyllfa.
Yn dilyn y cyfarfod dywedodd y cynghorydd Jacke Allen, dirprwy gadeirydd Cyngor Tref Y Waun, fod pobl yn flin fod monitro annibynnol yn dod i ben unwaith bydd y tân wedi ei ddiffodd.
Ychwanegodd fod pobl yn teimlo nad oedd atebion wedi eu rhoi.
"Byddwn wedi hoffi agwedd mwy positif o Kronospan. Mae'n debyg byddwn wedi hoffi clywed gwell ymateb gan Gyngor Wrecsam.
"Dyw hi ddim fel petai pobl yn cymryd cyfrifoldeb, roeddwn yn siomedig."
Dywedodd Ian Jones, pennaeth adran Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Wrecsam: "Y brif neges oedd sicrhau'r gymuned, ein bod yno i ateb pryderon wrth symud ymlaen, mae naw o asiantaethau yma (yn y cyfarfod) er mwyn deall y pryderon sydd wedi eu codi."
Gwaned cais i Kronospan am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2017