Cyhoeddi manylion cau ffatri Ford ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae manylion y broses o gau ffatri geir Ford ym Mhen-y-bont wedi eu cyhoeddi.
Fe gyhoeddodd y cwmni'r llynedd fod y safle yn ne Cymru'n cau yn 2020 gyda 1,700 o bobl yn colli eu swyddi.
Cafodd tasglu ei sefydlu i helpu'r staff a'r gymuned ac fe wnaethon nhw gyfarfod ddydd Llun.
Mae tua 350 o weithwyr eisoes wedi gadael, gyda mwy i fynd ar ddechrau mis Mawrth.
Bydd gwaith cynhyrchu injan Dragon yn dod i ben ar ddiwedd Chwefror, gyda 150 o weithwyr yn gadael.
Bydd 300 o weithwyr eraill yn gadael ar ddiwedd Gorffennaf, gan adael 800 ar y safle tan y dyddiad cau ym mis Medi.
Dywedodd cadeirydd y tasglu, yr Athro Richard Parry-Jones, eu bod wedi derbyn mwy na 20 o ymholiadau ynglŷn â defnydd y safle yn y dyfodol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates fod gwaith sylweddol i'w wneud eto ond roedd yn cydnabod ymrwymiad Ford i'r tasglu.
Ym mis Medi'r llynedd, fe gyhoeddodd adain gynhyrchu cerbydau Ineos eu bod wedi dewis Pen-y-bont ar Ogwr fel eu safle i gynhyrchu car gyriant pedair olwyn newydd.
Cyhoeddodd y cwmni eu bod yn bwriadu creu 200 o swyddi i greu'r Grenadier, a hyd at 500 yn y tymor hir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019