Costio mwy i barcio ym maes Tŷ Pawb yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Ty PawbFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Dyw maes parcio Tŷ Pawb ddim wedi'i gynnwys yn y meysydd parcio am ddim yn y prynhawn

Mae disgwyl i daliadau parcio ym maes parcio marchnad a chanolfan hamdden Wrecsam gynyddu er mwyn codi arian i'r cyngor sir.

Er mwyn parcio ym maes parcio Tŷ Pawb am gyfnod o rhwng awr a thair, ma disgwyl y bydd pobl yn gorfod talu 20c yn fwy ac felly bydd y tâl yn cynyddu i £2.

Bydd y gost o barcio am ddiwrnod cyfan yn codi 50c i £3.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Wrecsam yn ystyried galluogi pobl i barcio am ddim yn y rhan fwyaf o feysydd parcio y dre ar ôl 14:00 ond dyw hwn ddim yn un ohonyn nhw.

Yn ôl Hugh Jones sy'n aelod o gabinet Wrecsam, mae Tŷ Pawb yn brosiect masnachol a mae'n rhaid iddo ddenu yr incwm mwyaf posib.

Fe agorodd y ganolfan, a arferai gael ei hadnabod fel Marchnad y Bobl, yn 2018 wedi gwaith ailwampio a gostiodd £4.5m.

'Effaith bositif'

Dywedodd y Cynghorydd Jones, sy'n arwain y grŵp Ceidwadol: "Mae Tŷ Pawb yn elfen allweddol o ganol Wrecsam ac mae wedi dod â bywyd newydd i'r dre.

"Ry'n wedi buddsoddi yn y maes parcio wrth ddarparu pwyntiau gwefru trydan, offer mynediad a gadael newydd ac ry'n wedi sicrhau graddfa feddiannaeth uchel.

"Ry'n yn credu ein bod yn medru cyflwyno y taliadau parcio newydd er mwyn cynnal yr incwm sy'n ein galluogi i gael gwell mynediad i fewn ac allan o Tŷ Pawb."

Fe ddaw'r cynnydd mewn costau parcio er gwaetha'r ffaith bod y ganolfan gelf wedi wynebu nifer o heriau ers agor - gan gynnwys adroddiad archwilio a oedd yn nodi bod "gwendidau difrifol" mewn gweithdrefnau ariannol.

Yn ogystal mae masnachwyr wedi beirniadu'r ffordd y mae'r ganolfan yn cael ei rhedeg.

Ond mae Hugh Jones yn credu bod Tŷ Pawb wedi cael effaith bositif ar Wrecsam.