Sŵ Borth 'i gau am rai dyddiau' wedi beirniadaeth

  • Cyhoeddwyd
Wild Animal Kingdom
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y sw 28 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad

Mae sŵ yng Ngheredigion wedi dweud y byddan nhw ar gau "am rai dyddiau" yn dilyn beirniadaeth o'u trefniadau diogelwch wrth ymwneud â'u hanifeiliaid mwyaf peryglus.

Cafodd Borth Wild Animal Kingdom gyfarwyddyd i gau llociau eu hanifeiliaid mwyaf peryglus oherwydd "trefniadau annigonol" pe bai anifail peryglus yn dianc.

Dywedodd y cyngor sir fod angen trefniadau drylliau penodol - ond bod y sŵ wedi methu â gwneud hyn.

Maen nhw nawr wedi dweud y byddan nhw ar gau am gyfnod wrth iddyn nhw geisio gwneud y newidiadau sydd eu hangen.

Lyncs yn dianc

Nôl ym mis Tachwedd 2017 cafodd y sŵ ei wahardd rhag cadw anifeiliaid categori un am gyfnod ar ôl i lyncs lwyddo i ddianc.

Fe benderfynodd Cyngor Ceredigion ar y pryd fod bai ar y sŵ am beidio â dal Lilleth y lyncs cyn iddi roi'r cyhoedd mewn perygl.

Cafodd y lyncs ei difa yn ddiweddarach gan swyddog arbenigol.

Ar ôl adennill yr hawl i gadw anifeiliaid 'Categori 1', un o amodau'r drwydded oedd bod â "gallu drylliau boddhaol".

Roedd angen i'r busnes fod a thîm drylliau o dri aelod, a bod un ar ddyletswydd bod dydd.

Dywedodd y cyngor fod y sŵ wedi methu â chynnal yr amodau.

Ffynhonnell y llun, Sŵ Borth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna luniau o Lilleth ar gamera wedi iddi ddianc, ac roedd sawl ymdrech i'w dal

Mae gan Borth Wild Animal Kingdom 28 diwrnod i apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad.

Mae'r cyngor wedi ysgrifennu at weithredwyr y sŵ yn gofyn iddynt gau i'r cyhoedd ar sail wirfoddol nes i'r llys glywed y mater.

Yn ôl y cynghorydd Gareth Lloyd, aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am wasanaethau diogelu'r cyhoedd, roedd y "cyfarwyddyd diweddaraf wedi cael ei roi'n gyndyn".

"Mae staff y cyngor wedi gweithio'n agos gyda'r sŵ i'w helpu i gydymffurfio ag amodau eu trwydded," meddai.

"Diogelwch y cyhoedd a lles anifeiliaid fu ein blaenoriaethau erioed yn yr achos hwn, ac roedd y cyfarwyddyd i gau'r llociau Categori 1 yn seiliedig ar y blaenoriaethau hynny.

"Rydyn ni'n gweithio ar gynlluniau wrth gefn i ailgartrefu'r anifeiliaid Categori 1 gyda gweithredwyr sŵ trwyddedig os na fydd y cyfarwyddyd i gau'r llociau'n cael ei apelio'n llwyddiannus."

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook ddydd Mercher dywedodd y sŵ y byddan nhw "ar gau am rai dyddiau wrth i ni sortio'n tîm gynnau".

"Rydyn ni'n gobeithio datrys y mater yn gyflym fel bod modd i ni eich gweld chi i gyd eto yn fuan," meddai'r cwmni.