Y Cymro ddysgodd Taron Egerton i ganu'r piano fel Elton John

  • Cyhoeddwyd
RocketmanFfynhonnell y llun, Paramount Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Taron Egerton wrth y piano ar y set gyda'r cyfarwyddwr Dexter Fletcher

Mae'r actor o Aberystwyth Taron Egerton wedi ennill Golden Globe am ei bortread o Elton John yn y ffilm Rocketman, ond roedd gan Gymro arall ran i'w chwarae yn ei lwyddiant hefyd.

Y cerddor o Ferthyr Tudful, Michael L Roberts, wnaeth hyfforddi Taron i berfformio a tharo'r nodau cywir ar y piano yn ystod y ffilmio.

Mae nifer wedi canmol dawn canu Taron Egerton yn y ffilm a cheisio dyfalu a ydy o'n canu'r piano go iawn hefyd?

Ydy a nac ydy, meddai Michael L Roberts, oedd hefyd yn hyfforddwr llais a phiano ar y cynhyrchiad.

Doedd yr actor ddim yn canu'r offeryn cyn dechrau hyfforddi ar gyfer ei rôl fel Elton John ac felly roedd rhaid iddo ddysgu lle i roi ei ddwylo ar y piano er mwyn perfformio'r caneuon eiconig.

Ac fe wnaeth hynny mor dda nes ei fod yn gallu chwarae go iawn erbyn y diwedd, meddai Michael.

Ffynhonnell y llun, Diana Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael L Roberts yn hyfforddwr piano a llais ar Rocketman

"Y bwriad gwreiddiol oedd iddo edrych mor debyg â phosib i fel petai'n chwarae," meddai.

"Un o'r pethau sylfaenol i fi ydy fod rythm yn bradychu popeth, felly'r peth cynta' wnaethon ni oedd ei gael i mewn i rhythm canu piano Elton John.

"Wedyn pan ddechreuodd hynny ddigwydd, roedden ni'n treulio gymaint o amser gyda'n gilydd yn y cyfnod cyn-gynhyrchu, tua tair awr y dydd am chwech i wyth wythnos, nes iddo ddechrau gallu chwarae go iawn yn reit llwyddiannus.

"Mae wedi bod yn nodweddiadol wylaidd am ei allu i ganu'r piano ond mae yna fideo ar Instagram, dolen allanol ohono'n chwarae'r cyflwyniad i Your Song, sy'n profi pa mor dda roedd o wedi dod."

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan taron.egerton

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan taron.egerton

Er mai wedi ei ddybio mae llawer o'r gerddoriaeth rydyn ni'n ei gweld a'i chlywed ar y sgrîn mae dwylo Taron yn y llefydd iawn ar y piano ym mhob cân, meddai Michael.

Dawn gerddorol

Yn ôl Taron Egerton yr unig beth roedd wedi ei ddysgu ar y piano cyn hynny oedd London Bridge is Falling Down, gydag un bys, pan oedd yn blentyn - ond roedd ei ddawn gerddorol naturiol yn ei gwneud yn haws iddo ddysgu yn ôl Michael.

"Os na fedrwch chi ei glywed, fedrwch chi ddim ei chwarae," meddai Michael "a gan ei fod yn gallu canu, fy job gynta' i oedd cysylltu'r piano gyda'i lais, felly roedd ei law dde yn uniongyrchol gysylltiedig gyda'i lais ac felly roedd yn canu drwy'r offeryn yn hytrach na chwarae offeryn."

Hyfforddodd Michael fel pianydd jazz yn wreiddiol ac mae wedi gweithio yn y maes cerddoriaeth a pherfformio yn Llundain ers 15 mlynedd. Mae wedi hyfforddi actorion a chantorion o'r blaen ond dyma'r ffilm hir gyntaf iddo weithio arni.

Gwlad y gân?

Mae Taron Egerton wedi dweud fod ei fagwraeth yng Nghymru wedi chwarae rhan fawr yn ei brofiad o gwympo mewn cariad â cherddoriaeth a chanu - oes yna wirionedd yn yr ystrydeb fod Cymru yn genedl gerddorol, ym marn Michael?

"Mewn gair - oes! Dwi'n credu bod yna ymwybyddiaeth ddiwylliannol wych o'r cyfoeth sydd gan Gymru felly os oes gennych chi'r diddordeb lleiaf mewn trwytho eich hun yn hynny neu unrhyw duedd tuag ato, yna mae'n anochel fod y sentiment hwnnw o berfformio a cherddoriaeth yn y gwaed, yn yr enaid, yng Nghymru, ac yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth."

Ffynhonnell y llun, Paramount
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Michael fod dwylo Taron Egerton "yn y llefydd iawn" ar y piano er efallai nad fo rydych chi'n ei glywed yn chwarae yn y ffilm!

Wedi ei eni a'i fagu yn Merthyr yn fab i athro oedd yn ymddiddori mewn barddoniaeth a drama a mam oedd yn gantores, mae'n amlwg fod y celfyddydau a pherfformio yn sicr yng ngwaed Michael L Roberts.

Dechreuodd ganu'r piano yn bedair oed ac erbyn iddo fod yn wyth roedd yn cyfeilio i'w fam a'i chwaer. Enillodd radd mewn cerddoriaeth jazz o Brifysgol Leeds cyn mynd i weithio i Lundain.

"Roedd fy nhad yn athro Saesneg a'i fam yntau hefyd, Saesneg a drama oedd pwnc y ddau ac felly o oed ifanc fe gefais fy magu gyda barddoniaeth, ac yn naturiol fel Cymro, roedd Dylan Thomas yn rhan fawr o hynny a pherfformiadau Richard Burton o'i waith hefyd."

Mae Michael bellach yn cael ei ddenu nôl at yr elfen yma o ddrama a pherfformio ac yn 2019 cafodd ganiatâd gan deulu Dylan Thomas i recordio detholiad o waith y bardd yn y record The Air That Drew Away. Cafodd ei wahodd i'w berfformio yn Abaty Westminster.

'Rhoi yn ôl' i Gymru

Mae Dylan Thomas, Richard Burton, Anthony Hopkins a Tom Jones i gyd yn arwyr Cymreig i Michael ond mae'n gwybod bod angen cefnogaeth a chysylltiadau ar unrhyw un er mwyn llwyddo, a dyna pam ei fod yn un o arloeswyr y mudiad Global Welsh.

Cafodd y mudiad ei sefydlu er mwyn hybu Cymru, rhoi cyfleoedd i Gymry sydd ar wasgar dros y byd, a gwella'r cysylltiadau rhwng cymunedau Cymreig dramor.

Mae hefyd eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Gymru.

Fel rhan o'r rôl gyda'r mudiad mae Michael yn gobeithio sefydlu llysgenhadaeth ar gyfer y celfyddydau perfformio.

"O ganlyniad i'r amrywiol gymunedau Cymreig dros y byd mae amryw o hubs wedi eu sefydlu felly rydw i wedi ymuno gyda hubGlobal Welsh Llundain a gyda'r arweinydd Jason Smith, rydyn ni'n creu canolbwynt i'r celfyddydau perfformio ac fe hoffwn i wahodd unrhyw un sy'n ymwneud â'r celfyddydau perfformio yng Nghymru i ymuno â'r rhestr bostio pan fydd yn barod.

Y syniad ydy "mynd â Chymru at y byd a rhoi rhywbeth yn ôl i Gymru," meddai Michael.

"Rydw i eisiau bod mewn sefyllfa lle galla' i wneud yn siŵr fod unrhyw un arall sydd, fel fi, eisiau cadw eu diddordeb a'u talent yn fyw, yn cael gymaint o gyfleoedd a phosib i wneud hynny."

Hefyd o ddiddordeb: