Posib y bydd porthladdoedd rhydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe allai porthladdoedd rhydd, fyddai â rheolau trethi a thollau gwahanol, gael eu creu yng Nghymru dan gynlluniau gan Lywodraeth y DU.
Mae gweinidogion wedi lansio ymgynghoriad i greu hyd at 10 ardal o'r fath ledled y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart y gallai porthladd rhydd greu "cannoedd o swyddi" yng Nghymru.
Yn ôl y llywodraeth bydd union leoliadau'r porthladdoedd rhydd yn cael eu datgelu yn ddiweddarach eleni, gyda'r bwriad o'u hagor yn 2021.
'Rhyddhau ein potensial'
Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd penodol ble dydy rheolau trethi a thollau arferol y wlad ddim yn cael eu gweithredu.
Maen nhw'n galluogi i nwyddau cael eu mewnforio, eu creu a'u hallforio heb orfod talu'r trethi mewnforio arferol.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo gweithio'n agos gyda'r llywodraethau datganoledig fel y gall pedair gwlad y DU gael budd o'r cynlluniau.
"Bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn creu cannoedd o swyddi a hwyluso twf economaidd," meddai Mr Hart.
"Dyna pam rwyf yn annog busnesau i ymgysylltu â'n hymgynghoriad a'n helpu ni i ryddhau ein potensial o ran arloesi, buddsoddiad a thwf."
Wedi'r ymgynghoriad 10 wythnos bydd porthladdoedd awyr, môr a rheilffyrdd yn gallu gwneud cais i fod yn borthladd rhydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018