Croesawu siarter i wella rheolaeth prifysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
GraddedigionFfynhonnell y llun, michaeljung
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r siarter a'r ddogfen gweithredu'n amlygu ymroddiad i newid, medd uwch reolwyr prifysgolion Cymru

Mae siarter wedi cael ei chyhoeddi i newid y ffordd mae prifysgolion Cymru'n cael eu llywodraethu mewn ymateb i adolygiad annibynnol.

Mae Prifysgolion Cymru hefyd wedi cyhoeddi dogfen yn ymrwymo i weithredu argymhellion yr adolygiad yn dilyn "heriau" mewn rhai sefydliadau addysg yng Nghymru a gweddill y DU.

Nod y ddwy ddogfen yw sicrhau bod y safonau llywodraethu uchaf yn cael eu cynnal, adnabod arferion gorau trwy'r sector addysg uwch a sicrhau diwylliant iach a thryloyw ar lefel ystafelloedd bwrdd.

Mae'r camau - fydd yn cael eu mabwysiadu gan holl brifysgolion Cymru a'u monitro gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) - wedi cael eu croesawu gan undebau addysg.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Gadeiryddion ac Is-Ganghellorion prifysgolion Cymru a'i gynnal rhwng Gorffennaf a Rhagfyr y llynedd.

Edrychodd ar nifer o ffactorau gan cynnwys ymddiriedaeth, atebolrwydd a thryloywder.

Mae'n dweud bod angen i gorff llywodraethu pob prifysgol:

  • gael darlun clir o ddiwylliant y sefydliad;

  • sicrhau bod pawb sydd ynghlwm â'r sefydliad - staff, myfyrwyr a phartneriaid strategol yn arbennig - mewn sefyllfa i gyfrannu at brif strategaethau'r brifysgol;

  • annog diwylliant o herio a thrafod trwy'r corff cyfan.

Mae'n argymell cyfyngu am ba hyd y gall rhywun wasanaethu fel cadeirydd cyngor prifysgol, a mesurau i gryfhau goruchwyliaeth mewn cyfnod ble mae yna fwy o ffocws erbyn hyn ar ochr fusnes o fewn y sector addysg uwch.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolaeth Prifysgol Abertawe wedi dod dan y lach yn y misoedd diwethaf yn sgil ffrae dros gynlluniau datblygu, gan gynnwys Pentref Llesiant Llanelli

Dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, Yr Athro Julie Lydon bod yr adolygiad "manwl a thrylwyr... wedi rhoi argymhellion clir i'r sector i fod ar flaen y gad yn nhermau llywodraethu da".

"Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith yma'n heriol i'r sector ond gyda'r newid yn y tirlun addysg uwch ar draws y DU, dyma'r ffordd gywir ymlaen i sicrhau fod ein systemau llywodraethu'n ffit i'r dyfodol," ychwanegodd.

Yn ôl prif weithredwr HEFCW, Dr David Blaney, mae'n "hanfodol" bod cyrff llywodraethu'n sicrhau "lefel briodol o brofi a herio'u pwyllgorau gwaith, a bydd yr ymroddiad yma yn siŵr o wella safonau llywodraethu ym mhrifysgolion Cymru".

Dywedodd Margaret Phelan, cynrychiolydd Cymru Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) ei bod yn "credu y bydd aelodau'r undeb yng Nghymru yn croesawu'r adroddiad yma".

Dywed Dan Beard o undeb Unsain Cymru eu bod "yn edrych ymlaen at weld ymroddiadau'r siarter llywodraethu yma'n cael eu gweithredu cyn gynted â phosib" ar ôl "i'n haelodau ddadlau bod angen i lywodraethiant prifysgolion fod yn fwy tryloyw, atebol ac effeithiol".