AC Ceidwadol yn ystyried camau cyfreithiol pellach

  • Cyhoeddwyd
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nick Ramsay ei wahardd o'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad ddechrau Ionawr

Mae AC Ceidwadol sydd wedi'i wahardd o'r blaid ar ôl cael ei arestio a'i ryddhau'n ddi-gyhuddiad yn ystyried camau cyfreithiol pellach yn ei herbyn.

Dywed cyfreithwyr ar ran Nick Ramsay, AC Mynwy, fod ei waharddiad o'r blaid yn anghyfreithlon.

Pe bai'n bwrw 'mlaen gydag achos, dyma fyddai'r ail waith iddo fynd i'r llys i herio ei waharddiad.

Mae'r Blaid Geidwadol wedi cael cais am sylw.

Daw hyn yn dilyn sylwadau gan aelod blaenllaw o gymdeithas leol y Ceidwadwyr ym Mynwy, a ddywedodd nad yw ymgyrchwyr wedi clywed gan Mr Ramsay ers iddo gael ei arestio.

Cafodd Mr Ramsay ei wahardd o'i blaid a'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad wedi iddo gael ei arestio ar Ddydd Calan, cyn cael ei ryddhau'n ddi-gyhuddiad.

Dywed Nick Hackett-Pain, sydd yn gadeirydd ar y gangen leol nad oedd Nick Ramsay wedi ymateb i gynigion am gefnogaeth gan y gymdeithas, ac roedd yn "siomedig" fod y gymdeithas wedi ei "hanwybyddu".

Dywedodd cyfreithiwr Mr Ramsay, Tim Gir, na fyddai'r AC yn "trafod gydag unrhyw un" tan y bydd yn cael clywed pam fod ei waharddiad o'r blaid yn ganolog yn parhau.

Ychwanegodd Mr Gir fod Mr Ramsay wedi derbyn cyngor y gall y gwaharddiad o'r blaid fod yn "anghyfreithlon", ac fe awgrymodd y gallai ddwyn achos cyfreithiol er mwyn herio'r penderfyniad.

Gwaharddiad

Cafodd Mr Ramsay ei wahardd o'i blaid a'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad wedi iddo gael ei arestio.

Er na chymrodd Heddlu Gwent unrhyw gamau pellach, parhau wnaeth y gwaharddiadau yn ei erbyn.

Aeth Mr Ramsay ag arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Paul Davies, i'r llys mewn ymgais i ymladd ei waharddiad fel aelod o'r grŵp Ceidwadol.

Daeth y ddau i gytundeb gan setlo'r mater ac fe gafodd Mr Ramsay ei ail-sefydlu fel aelod o'r grŵp - ond mae'n ymddangos nad yw hyn wedi cael unrhyw effaith ar ei waharddiad o'r blaid ei hun.

Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nick Ramsay wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Paul Davies mewn ymgais i ymladd ei waharddiad

Dywedodd Nick Hackett-Pain wrth BBC Cymru fod cymdeithas y Ceidwadwyr ym Mynwy wedi ysgrifennu at Mr Ramsay yn "cynnig cymorth a chefnogaeth".

"Wnaethon ni fyth dderbyn ymateb ganddo i'r llythyr yna," meddai.

"Fe ddes i ar ei draws un dydd a gofyn iddo ddod i gyfarfod swyddogion y gymdeithas leol. Fe wrthododd y cynnig. Does dim cyswllt arall wedi bod gydag e ers amser ei arestio."

Ychwanegodd Mr Hackett-Pain: "Rwy'n credu y dylai unrhyw wleidydd weithio gyda'i blaid yn lleol sydd wedi eu dewis ac ymgyrchu ar eu rhan.

"Mae'r ffaith ei fod wedi ein hanwybyddu hyd yn hyn dros y misoedd diwethaf yn siomedig."

Honiadau

Mewn cyfweliad diweddar gyda BBC Cymru fe gyhuddodd Mr Ramsay rhai aelodau o'i blaid o gynnal "helfa" yn ei erbyn dros honiadau o ymddygiad amhriodol.

Fe wfftiodd honiadau oedd wedi eu derbyn gan BBC Cymru gan ffynonellau Ceidwadol fod cwynion wedi codi ar sawl achlysur wedi iddo fod yn yfed.

Dywedodd Mr Hackett-Pain ei fod yn gobeithio nad oedd y sylwadau "wedi eu hanelu at y blaid Geidwadol yn lleol, achos fe fydda'r fath honiadau yn anwiredd".

Cafodd Mr Ramsay ei ail-ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr dros Fynwy y llynedd.

Dywedodd Mr Hackett-Pain nad oedd ymgais i'w ddad-ddewis: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r sefyllfa."

Ychwanegodd: "Os yw'n parhau i fod wedi ei wahardd am gyfnod amhenodol er enghraifft, yna fe fydd yn rhaid i ni ail-feddwl."

Dywedodd y Blaid Geidwadol ym mis Ionawr fod Mr Ramsay'n parhau i fod wedi ei wahardd o'r blaid cyn i ymchwiliad gael ei gynnal.