Nick Ramsay: Cwyno fod rhai aelodau 'am ei niweidio'

  • Cyhoeddwyd
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nick Ramsay ei wahardd o'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad ddechrau Ionawr

Mae aelod cynulliad Ceidwadol blaenllaw wedi cyhuddo aelodau o'i blaid o gynnal "helfa" yn ei erbyn dros honiadau o ymddygiad amhriodol ar ei ran.

Fe wfftiodd Nick Ramsay honiadau oedd wedi eu derbyn gan BBC Cymru gan ffynonellau Ceidwadol fod cwynion wedi codi ar sawl achlysur wedi iddo fod yn yfed.

Dywedodd yr aelod cynulliad dros Fynwy fod rhai aelodau yn "ceisio ei niweidio" yn gyhoeddus, ac nid "oedd am dderbyn hyn bellach".

Gwaharddiad

Fe gafodd Mr Ramsay, sydd yn aelod dros Fynwy, ei wahardd o'i blaid a'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad yn dilyn cael ei arestio Ddydd Calan eleni, cyn cael ei ryddhau'n ddi-gyhuddiad.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen BBC Politics Wales, nid oedd Mr Ramsay am ddatgelu'r rheswm pam y cafodd ei arestio gan ychwanegu nad oedd "erioed wedi dadlau" yn erbyn ei waharddiad gwreiddiol o'r blaid, "ond roedd fy mhroblem tu hwnt i hynny...unwaith doedd na ddim cyhuddiadau na gweithredu, ni chafodd y gwaharddiad ei ollwng."

Aeth ati i ddechrau achos cyfreithiol yn erbyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, gan honni ei fod wedi mynd yn groes gyfansoddiad y blaid drwy ei wahardd.

Ddydd Iau fe ddaeth Nick Ramsay a'r achos cyfreithiol i ben wedi iddo ddod i gytundeb gyda Mr Davies a'i "ail-sefydlu'n llawn" i grŵp y blaid ym mae Caerdydd.

Dywedodd nad oedd "modd iddo fynd i drafod manylion y setliad gyda Paul" ond roedd y ddau "wedi sylweddoli, er lles y blaid ac er lles yr etholwyr yr ydym yn ei gynrychioli ei fod yn well dod i gytundeb cyfeillgar na mynd drwy achos llys llawn."

Cwynion

Yn dilyn cael ei arestio a'i ryddhau'n ddi-gyhuddiad, fe ddysgodd BBC Cymru ei fod yn destun sawl cwyn gan rai o aelodau lleol ei blaid am anerchiad yr oedd wedi ei wneud mewn cinio i Gymdeithas Ceidwadwyr Mynwy yng ngwanwyn 2018.

Roedd sawl ffynhonnell wedi dweud fod cwynion wedi ei cyflwyno i gomisiynydd safonau'r cynulliad am sylw amhriodol honedig yr oedd Mr Ramsay wedi ei wneud ar ddiwedd yr anerchiad.

Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Davies wythnos diwethaf ei bod yn "siom fod y mater wedi gorfod dod i gyfraith" yn y lle cyntaf

Fe honnodd un person ei fod wedi "cael ychydig yn fwy i'w yfed nag y dylai fod wedi ei gael".

Mae BBC Cymru yn deall fod y comisiynydd wedi penderfynu nad oedd Mr Ramsay wedi torri cod ymddygiad aelodau. Nid oedd swyddfa'r comisiynydd am wneud sylw.

Honiadau

Gofynnodd Politics Wales i Mr Ramsay os oedd yn gwadu'r honiadau. Dywedodd: "Wrth gwrs. Mae'n llwyth o nonsens.

"Mae na wahaniaeth rhwng cwynion, y gall unrhyw un ei wneud, a chwynion dilys. Roedd y swper dan sylw yn swper parti. Dywedodd llawer wrtha i ei fod yn gwbl iawn. Nid dim ond ffigwr cyhoeddus ydw i - rwy'n berson teuluol hefyd ac mae hyn wedi rhoi fy nheulu a fi dan lawer o straen.

"Mae gen i lawer o gefnogwyr yn lleol...ond i siarad yn agored mae llawer o bobl dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ceisio...ceisio fy niweidio'n gyhoeddus".

Ychwanegodd: "Dydw i ddim am dderbyn hyn dim mwy. Mae wedi bodoli ers amser hir ac rwyf i wedi cael digon."

Mae Nick Hackett-Pain, cadeirydd y blaid y lleol, wedi gwadu fod ymgyrch gan rai aelodau o gangen y blaid yn Sir Fynwy yn erbyn Mr Ramsay.

Cefnogaeth ACau Ceidwadol

Wedi iddo gael ei ail-sefydlu yn grŵp y Ceidwadwyr yn y cynulliad, dywedodd y byddai'n bosib i barhau yn yr un ffordd ag o'r blaen cyn iddo gael ei atal, ond fe dderbyniodd "y gall fod yn anodd".

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod os oedd ganddo gefnogaeth y mwyafrif o ACau.

"Dyma lle rwy'n credu yr ydym yn dod a hyn i derfyn, gan symud ymlaen gyda'n gilydd ac rwyf am i grŵp y Ceidwadwyr yn y cynulliad sylweddoli fy mod yno i frwydro ar eu rhan, rwy'n rhan o'r tîm.

Mae BBC Cymru wedi gofyn 'blaid Geidwadol yn y cynulliad am ymateb.

Bydd modd gweld y cyfweliad yn llawn ar raglen Politics Wales ar sianel BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul ac yna ar yr Iplayer.