Mam Conner Marshall i sefyll fel Comisiynydd Heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen 18 oed gafodd ei lofruddio yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu ym mis Mai.
Bu farw Conner Marshall mewn ymosodiad creulon ym mharc gwyliau Bae Trecco, Porthcawl ym mis Mawrth 2015.
Roedd y llofrudd David Braddon dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf pan ymosododd arno, ac fe gafodd ei garcharu am oes.
Mae mam Conner, Nadine Marshall, nawr yn bwriadu ceisio cael ei henwebu fel ymgeisydd yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.
'Llais i'r bobl'
Mae Mrs Marshall, sy'n dod o'r Barri, yn un o ddau berson sy'n ceisio am enwebiad Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad.
Dennis Clarke, cyfreithiwr a chynghorydd tref yn Y Barri, yw'r llall.
Dywedodd Mrs Marshall bod ganddi "ddealltwriaeth enfawr o sut mae trosedd yn gallu effeithio pob agwedd o'ch bywyd, a sut mae'n gallu chwalu teuluoedd".
Roedd hi'n awyddus i roi llais i bobl, meddai, a'u helpu i ddeall "fod gan bob un ohonom ddewis, a'n bod yn haeddu cymunedau mwy diogel".
"Rydym yn haeddu system gyfiawnder cryf sy'n delio â'r holl wahanol droseddau sy'n digwydd y dyddiau hyn," meddai.
Dywedodd y byddai'n ymgyrchu dros ddatganoli plismona, ac i Gymru gael ei threfn gyfreithiol ei hun.
A hithau wedi gweithio ym myd addysg cyn llofruddiaeth ei mab, wfftiodd Mrs Marshall yr awgrym bod ei diffyg profiad o blismona a'r gyfraith yn rhwystr iddi.
"Dwi ddim yn gweld hynny fel rhywbeth negyddol o gwbl," meddai.
"Dydy'r ffaith nad oes gen i gefndir cyfreithiol neu gefndir plismona ddim yn fy ngwneud i'n llai angerddol; a dweud y gwir, mae'n fy ngwneud i'n fwy penderfynol.
"Rydyn ni wedi gorfod gweld y gorau a'r gwaethaf o'r system gyfiawnder, a dwi'n credu fod cael rhywun sydd mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd go iawn yn rhywbeth positif."
Dywedodd y byddai Conner yn falch iawn o benderfyniad ei fam i roi ei henw ymlaen.
Bydd y pedwar rhanbarth heddlu yng Nghymru yn ethol comisiynydd ar 7 Mai.
Mae'r comisiynydd presennol De Cymru, Alun Michael, yn bwriadu sefyll eto ar ran y blaid Lafur, tra bod yr ymgeisydd annibynnol Mike Baker hefyd yn bwriadu ailsefyll.
Dydy'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi dewis eu hymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2020