Bachgen, 16, yn euog o ddynladdiad tafarnwr

  • Cyhoeddwyd
Mark WinchcombeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Winchcombe ei ddisgrifio gan ei weddw fel dyn "uchel ei barch yn y gymuned"

Mae bachgen 16 oed wedi ei gael yn euog o ddynladdiad tafarnwr yng Nghastell-nedd.

Bu farw Mark Winchcombe, 58, ar ôl cael ei daro gan "ddwrn ffyrnig" y tu allan i'r dafarn roedd yn ei rhedeg fis Medi'r llynedd.

Cafodd "anaf catastroffig i'w ymennydd" oriau ar ôl cael ei daro ger y Smiths Arms ym Mynachlog Nedd yn Sgiwen.

Roedd y diffynnydd, sydd ddim yn cael ei enwi oherwydd ei oed, wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad.

Ond yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, cafodd ei ganfod yn euog o ddynladdiad gan y rheithgor wedi bron i saith awr o drafod.

Clywodd y llys fod Mr Winchcombe a dau ddyn arall yn ceisio perswadio "gang o lanciau" i symud yn eu blaenau pan gafodd ei daro.

Roedd y bachgen wedi honni ei fod yn amddiffyn ei hun, ond cafodd ei ganfod yn euog gan ddyfarniad mwyafrifol.

Ni ddangosodd unrhyw emosiwn wedi'r dyfarniad, wrth i'r barnwr ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 20 Mawrth.