Sut mae delio â miloedd o deithwyr ar gyfer gêm rygbi?
- Cyhoeddwyd
Y tu ôl i ddrws wedi'i farcio'n 'breifat' ar blatfform rhif tri ac i fyny rhes gul o risiau, mae ystafell reoli Gorsaf Ganolog Caerdydd.
Dyma lle mae staff Trafnidiaeth Cymru'n cadw llygad ar bopeth sy'n digwydd yn yr orsaf ac o'i chwmpas.
Ym mhen pella'r swyddfa mae wal o sgriniau'n dangos y sefyllfa ar y cledrau a'r platfformau islaw.
Am 10 o'r gloch ar y bore Iau hwn mae'r sefyllfa'n dawel a di-gynnwrf.
Ond ddydd Sadwrn bydd yr olygfa'n wahanol iawn wrth i hyd at 35,000 o gefnogwyr gyrraedd yr orsaf ar gyfer y gêm rygbi fawr rhwng Cymru a'r Alban ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ac yn yr ystafell hon y bydd yr awdurdodau'n cydlynu'r cyfan.
Gwirfoddolwyr yn helpu
"Bydd pob un o'n trenau allan mewn gwasanaeth," meddai Bethan Jelfs, cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru.
"Rydyn ni'n brofiadol iawn yn y maes yma."
Bydd tua 70 o wirfoddolwyr rheilffordd ychwanegol a 120 o staff rheoli torf yn ymuno'n y gwaith ddydd Sadwrn.
"Rydyn ni'n gweithio ar y cynllun yn gyson ac yn ychwanegu ato, ac yn ceisio helpu cwsmeriaid i ymgyfarwyddo â'r system," meddai Ms Jelfs.
"Mae'n dod yn fwy fwy poblogaidd i bobl ddefnyddio'r rheilffordd i ddod i ddigwyddiadau yng Nghaerdydd felly mae'n rhaid i ni barhau i addasu ein cynlluniau i gadw i fyny â disgwyliadau cwsmeriaid."
Chafodd y disgwyliadau hynny mo'u cyflawni yn 2015 pan feirniadwyd yn hallt y profiad "annerbyniol" a wynebodd miloedd o gefnogwyr y tu allan i Orsaf Ganolog Caerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Bu'n rhaid i deithwyr aros am hyd at bedair awr am drên yn dilyn y ddwy gêm gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm, fel y'i gelwid bryd hynny.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, a gymerodd yr awenau yn 2018, mae gwersi wedi'u dysgu.
Ac eto'n anochel nos Sadwrn bydd llinell o bobl y tu allan i'r orsaf yn aros i fynd ar eu trên adref.
"Rydyn ni'n deall rhwystredigaethau cwsmeriaid oherwydd bod gan bobl ddisgwyliad o gyrraedd yr orsaf ac o weld eu trên yn barod ar eu cyfer.
"Pan rydyn ni'n delio â 35,000 o bobl mae'n rhaid i ni allu rheoli'r llif drwy'r orsaf.
"Yn syml, nid yw wedi'i hadeiladu ar gyfer nifer fawr o bobl."
Coronafeirws yn her newydd
Dywed Ms Jelfs fod gwybodaeth ar gael i gefnogwyr wrth iddyn nhw giwio.
"Rydyn ni'n ceisio tawelu meddwl ein cwsmeriaid, eu cadw i symud, ac ar y cyfan dydyn nhw ddim yn aros yn yr ardal honno am amser hir iawn cyn i ni eu cael i mewn i'r orsaf."
Ar ôl gorfod delio â "nifer o ddigwyddiadau llifogydd" dros yr wythnosau diwethaf, mae coronafeirws yn her newydd y penwythnos hwn.
"O ystyried bod y penderfyniad wedi'i wneud i'r gêm fynd yn ei blaen roedd yn rhaid i ni gynllunio yn unol â hynny er mwyn cael pobl i symud yn ddiogel.
"Rydyn ni'n cymryd cyngor gan yr awdurdodau iechyd cyhoeddus ac yn cymryd yr arweiniad oddi yno."
Dywed Trafnidiaeth Cymru fod glanhau ychwanegol yn digwydd ar drenau ac mewn gorsafoedd i helpu i ddiogelu teithwyr.
Yn y cyfamser y cyngor i deithwyr yw cynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser ar gyfer eu taith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020