Coronafeirws: 13 achos newydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 13 achos newydd o coronafeirws - gyda'r cyfanswm yma bellach yn 38.
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Ymateb ymlediad coronafeirws ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod yr achosion diweddaraf yn yr ardaloedd sirol canlynol:
Pedwar achos yn Sir Caerffili;
Dau yn Sir Abertawe;
Un yn Ynys Môn;
Un yn Sir Caerdydd;
Un yn Sir Gaerfyrddin;
Un yn Sir Fynwy;
Un yn Sir y Fflint;
Un yn Sir Casnewydd;
Un yn Sir Powys.
Hyd at 12 Mawrth, mae 945 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf am goronafeirws.
"Gallwn gadarnhau fod 13 achos newydd wedi profi'n bositif am Novel Coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm o achosion sydd wedi eu cadarnhau i 38," meddai Dr Howe fore Gwener.
"Mae'r broses o adnabod a chysylltu gyda chysylltiadau agos yr achosion newydd wedi dechrau, ac rydym yn cymryd y camau priodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
"Mae'r holl gleifion yn cael eu rheoli mewn lleoliad clinigol pwrpasol yn seiliedig ar asesiad ymgynghorydd ag arbenigedd mewn afiechydon heintus.
"Ni fydd manylion pellach am yr unigolion hyn yn cael eu rhyddhau, ac rydym yn gofyn i'r rhai sydd yn gohebu ar y sefyllfa i barchu cyfrinachedd cleifion."
Ychwanegodd: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n gweithio gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y GIG yn ehangach yng Nghymru ac eraill gan ein bod wedi dechrau ar y cymal o geisio oedi ymlediad yr haint fel rhan o Gynllun Gweithredu Coronafeirws y DU.
"Nid yw hyn bellach yn ymgais i gyfyngu'r haint, mor belled ag sydd bosib, i arafu ei ymlediad."
Ychwanegodd y datganiad: "Symptomau mwyaf cyffredin Novel Coronfeirws (Covid-19) yw tagu cyson neu/a thymheredd uchel.
"I'r rhan fwyaf fe fydd Novel Coronafeirws yn haint eithaf ysgafn. Os ydych yn dangos symptomau coronafeirws, pa bynnag mor ysgafn, arhoswch adref a pheidiwch â gadael y tŷ am saith niwrnod o'r amser y dechreuodd y symptomau. Bydd hyn yn gymorth i eraill yn eich cymuned tra eich bod yn heintus."
Cau canolfannau dydd
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd canolfannau dydd yr awdurdod yn cau am y tro.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Oherwydd y bygythiad parhaus y bydd haint coronafeirws yn ymledu ac yn sgil y ffaith bod y sawl sy'n mynychu Canolfannau Dydd y Cyngor yn fregus, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau'r gwasanaethau dydd am y tro.
"Bu'r penderfyniad... yn un anodd ond yn un y bu'n rhaid ei wneud. Ein prif flaenoriaeth yw iechyd a diogelwch defnyddwyr ein gwasanaeth ac iechyd a diogelwch ein staff ac nid ydym am eu rhoi mewn perygl diangen.
"Rydym yn dymuno sicrhau defnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd y bydd y gwasanaeth arferol yn ailgychwyn cyn gynted ag y bydd modd gwneud hynny.
"Os nododd ei asesiad bod anghenion unigolyn yn rhai tyngedfennol, yna bydd y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw yn parhau i dderbyn y cymorth priodol i'w alluogi i ymdopi gartref yn ystod y cyfnod hwn.
"Bydd y gwasanaeth dydd yn cau ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 13 Mawrth 2020, ac yn parhau ar gau hyd nes y bernir ei bod yn ddiogel ei ailagor."
Cau meddygfa
Yn y cyfamser mae meddygfa ym Mhowys wedi cyhoeddi mai dim ond achosion brys fydd yn cael sylw yno ddydd Gwener, gan fod achos o coronafeirws wedi ei ganfod yn "ardal y practis".
Dywedodd Practis Meddygol Llanidloes y dylai pobl sydd yn dangos symptomau'r ffliw hunan ynysu am saith niwrnod.
Nid yw'n eglur os yw'r achos dan sylw yn ardal y feddygfa yr un achos â'r achos sydd ar restr achosion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ardal Sir Powys.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed i drin y bobl hynny sydd wedi cael cadarnhad o coronafeirws tra hefyd yn delio gyda threfn gyffredin a gofal iechyd brys poblogaeth Cymru.
"Mae ein staff yn gwneud swydd ffantastig ac rydym yn diolch iddyn nhw am eu gwaith caled."
Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd mae'r GIG yn parhau i ddarparu gofal brys a gofal wedi ei gynllunio o flaen llaw ond wrth i fwy o bobl dderbyn diagnosis o goronafeirws a'r galw ar ysbytai'n cynyddu, bydd rhaid i ni ystyried cwtogi ar weithgareddau oedd wedi eu cynllunio, gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol.
"Byddwn yn sicrhau fod pawb yn cael gwybod."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn "cymryd camau ar unwaith" i ymestyn oriau cyflenwi i archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd er mwyn sicrhau bod modd i'r diwydiant bwyd ymateb i alw uwch gan ddefnyddwyr yn ystod cyfnod coronafeirws.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020