Ymgais i achub llawysgrif wyddonol ganoloesol o bwys
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y DU wedi gosod gwaharddiad dros dro ar allforio llawysgrif bwysig o'r 15fed ganrif gan feddyg a seryddwr o Gymru.
Yn ôl arbenigwyr, mae'r llawysgrif gan Lewis o Gaerleon yn taflu goleuni newydd ar yr ymwybyddiaeth o wyddoniaeth yn y Canol Oesoedd.
Y pryder yw y gallai'r llawysgrif, sy'n werth £300,000, fynd dramor oni bai bod unigolyn neu sefydliad o'r DU yn barod i'w phrynu ar gyfer un o'r casgliadau cenedlaethol.
"Rwy'n gobeithio bydd modd dod o hyd i brynwr fel ein bod yn gallu cadw'r gwaith pwysig yma yn y DU," meddai'r Gweinidog Diwylliant, Caroline Dinenage.
Roedd gan Lewis o Gaerleon rôl hanfodol yn llys brenhinol y cyfnod, ac roedd yn feddyg personol i Harri VII.
Treuliodd gyfnod yn Nhŵr Llundain yn ystod teyrnasiad Richard III oherwydd ei gysylltiad agos â Thŷ Lancastr.
Rhodd bosib
Yn seryddwr medrus, roedd yn darogan eclipsau, gan gofnodi'i amcangyfrifon yn fanwl.
Fe drefnodd y llawysgrif, gan gomisiynu sgrifellwr proffesiynol, fel rhodd ar gyfer noddwr neu lyfrgell, er mwyn dangos ei orchestion gwyddonol.
Mae peth o'r cynnwys yn debyg i'r testun a thablau yn llyfr cofnodion personol Lewis, sy'n rhan o gasgliadau Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt.
Ond mae yna elfennau sy'n unigryw i'r llawysgrif, sydd â photensial i roi rhagor o wybodaeth ar astronomeg fathemategol diwedd y Canol Oesoedd.
Dywedodd Caroline Dinenage fod y gwaith yn "rhyfeddol" ac "yn rhan bwysig" o'r bont rhwng hen gredoau ac "ein dealltwriaeth wyddonol fodern o'r byd rydyn ni'n byw ynddo".
Daeth y gwaharddiad allforio ar sail cyngor pwyllgor o arbenigwyr a ddywedodd fod y llawysgrif yn dangos y symudiad o hen ddamcaniaethau seryddol i ddulliau mathemategol newydd.
'Haeddu mwy o gydnabyddiaeth'
"Cafodd y gyfrol yma, sydd wedi ei hysgrifennu'n gain a dal â'i rhwymiad hardd gwreiddiol, ei chreu i'w chyflwyno, o bosib i Harri VII," meddai aelod o'r pwyllgor, Peter Barber.
"Mewn cyfnod pan roedd seryddiaeth yn gyfystyr â sêr-ddewiniaeth, roedd yna oblygiadau gwleidyddol i sgiliau Lewis o Gaerleon.
"Fe allen nhw wedi cyfrannu at benderfyniad Richard III i'w gadw rhag newid trwy ei roi yn y Tŵr."
Mae'r llawysgrif yn nodi i ba raddau y cafodd ei broffwydoliaethau eclips eu gwireddu, ac yn cynnwys fersiynau llawn o ysgrifau ysgolheigion canoloesol oedd ond yn rhannol wybyddus hyd yn hyn.
"Byddai'n drueni mawr petai'r gyfrol yma gan ysgolor Cymreig cynnar sy'n haeddu mwy o gydnabyddiaeth, gyda'i chysylltiadau i ddiwylliant y llys, ei tharddiad nodedig a'i photensial ymchwil aruthrol, yn gadael y wlad."
Mae'r gwaharddiad mewn grym tan 12 Mehefin, ond fe allai gael ei estyn i fis Medi os bydd yna ymgais dilys i godi £300,000 i'w brynu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2017
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2015