Cyfraith newydd yn atal taro plant yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
taro

Bydd hi'n anghyfreithlon i riant daro plentyn yng Nghymru o 2022 ymlaen.

Bydd y gyfraith newydd - Deddf Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol) 2020 - yn dod i rym ar ôl i'r bil dderbyn cydsyniad Brenhinol ddydd Gwener.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gyfraith newydd yn "gwarchod hawliau" plant yma.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn selio'r bil yn swyddogol ddydd Gwener, gyda'r gyfraith yn dod i rym ar 21 Mawrth, 2022.

'Cam hanesyddol'

Dywedodd y dirprwy weinidog ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Julie Morgan: "Does dim rheswm byth i daro plentyn - efallai bod hynny wedi cael ei ystyried yn briodol yn y gorffennol ond nid yw'n dderbyniol mwyach.

"Mae ein plant ni'n haeddu cael eu trin gyda'r un parch ac urddas ag oedolion.

"Er bod selio'r Bil wedi cael ei wneud tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd achosion o Covid-19, rydyn ni'n falch o fod wedi cymryd y cam hanesyddol hwn i helpu i warchod plant a'u hawliau.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgyrchu dros y ddeddfwriaeth hon a'i chefnogi."

Fe wnaeth Senedd yr Alban ei gwneud hi'n anghyfreithlon i rieni daro plant ym mis Hydref y llynedd. Daw'r gwaharddiad yna i rym ym mis Tachwedd.

Nid oes cynlluniau i gymryd yr un cam yng Ngogledd Iwerddon na Lloegr.

Sut bydd y gwaharddiad yn cael ei orfodi?

Bydd erlyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan yr heddlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl tua 38 o erlyniadau yn y bum mlynedd gyntaf.

Mae eu ffigyrau yn seiliedig ar brofiad Seland Newydd, lle cafodd 'smacio' ei wahardd yn 2007.

Cred y gwasanaeth erlyn y bydd y nifer yn llai.

Gallai'r heddlu benderfynu rhoi rhybudd i rywun yn lle mynd â nhw i'r llys.

Gallent hefyd gynnig rhoi datrysiad cymunedol i rywun.

Ni fyddai hynny yn mynd ar gofnod troseddol, ond dan rai amgylchiadau fe allai gael ei ddatgelu pan fod pobl yn ceisio am rai swyddi.

Beth yw'r diffiniad cyfreithiol o daro plentyn?

Does dim diffiniad cyfreithiol o daro - a dyw Llywodraeth Cymru ddim yn bwriadu creu un, er mwyn osgoi ymyrryd gyda hawl rhieni i gyffwrdd â'u plant.

Byddai dim newid i hawl rhiant i rwystro plentyn rhag rhedeg i'r ffordd neu eu gorfodi i wisgo o ganlyniad i'r ddeddf hon, meddai'r llywodraeth.

Ar hyn o bryd, gall unrhyw un sy'n cael ei erlyn am ymosodiad ar blentyn ddadlau eu bod nhw'n defnyddio "cosb resymol".

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron taw dim ond os oes gan y dioddefwr anafiadau dros dro sy'n achosi dim mwy nag i'r croen gochi y mae modd defnyddio'r amddiffyniad.

Mae'r mesur yn dileu'r amddiffyniad hwnnw yn llwyr.