Bachgen 16 oed dan glo am ddynladdiad tafarnwr

  • Cyhoeddwyd
Drew JonesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae bachgen 16 oed wedi cael ei anfon i ganolfan troseddwyr ifanc am ddynladdiad tafarnwr 58 oed yng Nghastell-nedd.

Mae'n bosib bellach, wedi i waharddiad gael ei godi, i gyhoeddi mai Drew Jones o Waunceirch yw'r diffynnydd a gafwyd yn euog o achosi marwolaeth Mark Winchcombe.

Bu farw yn yr ysbyty o anaf i'r ymennydd o ganlyniad dwrn nerthol yn ystod ffrae tu allan i'r dafarn roedd yn ei rhedeg, y Smiths Arms ym Mynachlog Nedd yn Sgiwen.

Dywedodd gweddw Mr Winchcombe, Christine, bod marwolaeth ei gŵr fis Medi diwethaf wedi chwalu ei theulu.

Roedd Mr Winchcombe a dau ddyn arall yn ceisio symud gang o bobl ifanc tu allan i'r dafarn pan gafodd ei daro.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Winchcombe o "anaf catastroffig i'w ymennydd" oriau ar ôl cael ei daro

Clywodd Llys y Goron Abertawe yn ystod yr achos fod y diffynnydd a'i ffrindiau wedi cymryd cocên yn ystod noson "allan ar strydoedd Castell-nedd".

Roedd Jones wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad.

Mewn datganiad i'r llys cyn y ddedfryd, dywedodd Mrs Winchcombe ei bod wedi colli ei chartref a'i busnes ers marwolaeth ei gŵr.

"Roedd llawer o bobl yn caru Mark, roedd wastad ar gael i help unrhyw un," meddai.

"Nid yn unig wnes i golli gŵr, fe gollais i fy ffrind gorau a'r dyn roeddwn yn gallu troi ato ynghylch unrhyw beth.

"Roedd yn gwneud i fi a fy mab deimlo'n ddiogel. Roedd yn ddyn serchus a hael, a ro'n i'n rhagweld fy nyfodol cyfan gyda Mark."

Wedi'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Darren George o Heddlu De Cymru fod Mr Winchcombe yn berson "amlwg, poblogaidd ac uchel ei barch o fewn y gymuned" a bod yr ymosodiad wedi ysgwyd yr ardal leol.