Coronafeirws: Sefyllfa Gwent 'yn debyg i batrwm Yr Eidal'

  • Cyhoeddwyd
Dr Sarah AitkenFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Sarah Aitken fod sefyllfa Gwent yn ymdebygu un Yr Eidal

Mae bwrdd iechyd yn ne Cymru sy'n profi "clwstwr" o achosion coronafeirws wedi rhybuddio bod yr ardal yn gweld "yr un patrwm ag a welwyd yn yr Eidal".

Cyhoeddodd Dr Sarah Aitken, cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, y neges mewn fideo ar-lein, dolen allanol.

Erbyn dydd Iau, roedd gan yr ardal 358 o achosion wedi'u cadarnhau o Covid-19 - bron i hanner cyfanswm yr achosion yng Nghymru, a mwy na dwywaith nifer unrhyw ardal arall.

Bellach mae 741 o bobl wedi derbyn profion positif am yr haint yng Nghymru - cynnydd o 113 o ddydd Mercher, gyda chwe marwolaeth newydd wedi'u cadarnhau.

Mae cyfanswm y marwolaethau yn 28 bellach.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, mai'r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu profi am y feirws oedd yr eglurhad dros y ffigwr uchel.

Mae bron i hanner yr holl achosion drwy Gymru'n deillio o ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

'Sefyllfa gymhleth'

Dywedodd Dr Atherton bod y sefyllfa'n "gymhleth", ac awgrymodd y gallai agosatrwydd yr ardal at y ffin rhwng Cymru a Lloegr fod yn ffactor hefyd, gan mai Llundain yw canolbwynt y pandemig yn y DU.

Dywedodd hefyd ei fod i'w ddisgwyl bod rhai ardaloedd yn gweld cynnydd sydyn cyn tawelu eto wrth i'r feirws ledaenu ar draws Cymru.

"Ond ar y cyfan, y profi yw e," meddai.

Ychwanegodd Dr Atherton y byddai'n rhaid aros i weld effaith y cyfyngiadau newydd ar symudiad pobl ar ymlediad y feirws.

Bydd nifer yr achosion yn dechrau gostwng "mewn cwpl o wythnosau," meddai.

Ond rhybuddiodd hefyd bod disgwyl o hyd i 80% o'r boblogaeth ddal y feirws, ac y byddai'n gyfnod "heriol" i'r gwasanaeth iechyd.

Ffynhonnell y llun, Robin Drayton/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ydy ysbyty mwyaf Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Mae'r bwrdd iechyd yn cwmpasu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a de Powys.

Erbyn dydd Iau roedd 7,503 wedi marw yn yr Eidal ar ôl cael coronafeirws - y ffigwr uchaf o holl wledydd y byd.

Yn y fideo gafodd ei gyhoeddi ar-lein, dywedodd Dr Aitken: "Yng Ngwent, rydym yn gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o coronafeirws yn ein holl gymunedau a chynnydd dyddiol yn nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty a nifer y bobl sy'n yn marw o'r feirws.

"Mae'r patrwm rydyn ni'n ei weld yng Ngwent yr un patrwm ag a welwyd yn yr Eidal, lle mae eu system gofal iechyd bellach wedi'i gorlethu.

"Heb ymdrech enfawr gan bob un ohonom, rydym yn anelu am y foment yng Ngwent lle bydd ein GIG yn cael ei lethu hefyd.

"Ni fydd gennym ddigon o welyau ysbyty i bawb sydd angen peiriannau anadlu achub bywyd a gofal dwys."

Anogodd bobl i aros gartref i roi "amser hanfodol" i'r bwrdd iechyd ddod â mwy o feddygon a nyrsys i'r gweithlu, yn ogystal ag awyryddion ychwanegol a gwelyau gofal dwys.

Cymru yn hŷn, yn fwy sâl a thlotach

Fe wnaeth gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething gydnabod fod "clwstwr penodol yn ardal Gwent".

Ond dywedodd mai ei "bryder mwyaf" ydy'r effaith ar Gymru gyfan gan ein bod ni'n "nodweddiadol yn hŷn, yn sâl gyda mwy o heriau iechyd ac yn dlotach" na gweddill y DU.

"Fy mhryder yw bod pobl yn gwrando ar y cyngor oherwydd fel arall gallem o bosib weld effaith fwy yng Nghymru na rhannau eraill o'r DU," meddai.

Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 150 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion sydd wedi'u cadarnhau i 628.

Nifer yr achosion fesul bwrdd iechyd yw:

  • 309 yn Aneurin Bevan;

  • 22 yn Betsi Cadwaladr;

  • 125 yng Nghaerdydd a'r Fro;

  • 42 yn Cwm Taf;

  • 38 yn Hywel Dda;

  • 14 yn Powys;

  • 70 ym Mae Abertawe.