Ateb y Galw: Yr actores Sian Beca
- Cyhoeddwyd
Yr actores Sian Beca sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan ei gŵr Martin Thomas yr wythnos diwethaf.
Mae Sian wedi ymddangos yn nwy opera sebon S4C - Rownd a Rownd a Pobol y Cwm - a hi oedd yn actio mam Deian a Loli yn y gyfres lwyddiannus i blant pan ymddangosodd ar ein sgrîn gyntaf yn 2016.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae gen i lot o atgofion da o fy mhlentyndod a dwi a fy chwaer yn lwcus ein bod wedi cael plentyndod hapus, cariadus a llawn anturiaethau. Ond un atgof sy'n glir yn fy nghof yw mynd gyda Tycu (Tad-cu) Whitland i gneua (casglu cnau). Roedd angen coes brwsh hir a hoelen wedi plygu ar ei dop fel bachyn i fedru cyrraedd a phlygu y canghennau uchel a thynnu i lawr.
Bydde ffeindio clwstwr o gnau neu 'cwlwm' o gnau, efallai cwlwm pump neu cwlwm chwech fel alwai Tycu arnynt, yn rhywbeth sbesial a thrît go iawn. Ac wrth gwrs roedd gan Tycu gyllell boced i fedru agor y cnau, byddai'n naddu top y gneuen yn ofalus a'i hollti'n ddau. Beth gwell na phicnic cnau ffres mas yng nghanol y coed cyll gyda Tycu!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Roedd gen i bach o soft spot am Jason Donovan yn ystod yr 80au a bron â marw ishe bod yn Kylie Minogue wrth ei ochr! Bydde dal ddim ots gyda fi fod yn Kylie i ddweud y gwir, mae hi dal yr un mor ffab a dydy Jason ddim yn rhy ddrwg chwaith!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan roeddwn tua wyth oed dwi'n cofio mynd gyda fy rhieni a fy chwaer i ymweld â hen ffrind ysgol Dad ar gyrion dre Aberteifi. Roeddent yn byw mewn tŷ gyda lawnt hir yn ymestyn mas tua'r afon a dyna lle fydde eu ci mawr Napoleon yn rhedeg a chwarae. Yn llawn hyder ac yn meddwl fy mod yn cŵl i gyd, er, ar y pryd doedd gen i ddim profiad o arfer gyda cŵn, mi alwais ar Napoleon i ddod ataf.
Drosodd a throsodd mi alwais yn chwifio un o'i degannau yn yr awyr. Fel mellten carlamodd e tuag ataf, ac yn ei ymdrech i ddal y tegan mi neidiodd fel merlen tuag ataf gan fy nhaflu i'r awyr. Hedfanais am y nôl dros wal fach isel a bwrw potiau blodau i bob man. Doedd Napoleon druan ddim callach ond anghofia i fyth y cywilydd wrth i bawb wylio o'r gegin a meibion ffrindiau fy rhieni, a oedd yn eu harddegau ar y pryd, yn pwffian chwerthin arna i.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n colli deigryn bob dydd yn cofio am Nel fy nghi bach a aeth o'r byd mis Tachwedd llynedd. Cyfnod trist ofnadwy i ni fel teulu.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mae gen i lawer o arferion bach drwg ond efallai un ohonynt ydy fy mod ddim yn hoffi unrhyw tameidion briwsion, fflwff na dim ar y llawr, yn enwedig llawr y gegin. Sydd o ganlyniad yn golygu fy mod yn hŵfroy llawr sawl gwaith y dydd! Diolch byth am yr hŵfyr cordless!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae gen i ddau hoff le yng Nghymru. Y dref rwyf yn byw ynddi nawr gyda fy nheulu bach, sef Caernarfon. Dwi wrth fy modd yn byw yma. Gallwn fynd i gerdded ar hyd y Foryd ac o gwmpas y dre a'u siopiau amrywiol. Mae'n brydferth ym mhob tymor yma.
Pentref bach arall sy'n agos at fy nghalon ydy Aberporth. Roeddem yn mynd i lan y môr yno yn ystod gwyliau'r haf blynyddoedd yn ôl, a nawr dwi'n mynd yno gyda Martin a'r plant ar ein gwyliau ni. Byddwn wrth ein bodd yn chwilio am grancod yn y pyllau dŵr a chroesi bysedd y gwelwn ddolffin neu forloi allan yn y Bae.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson gofynnodd Martin i mi ei briodi. Roeddem yn teithio Iwerddon ar y pryd yn ein campervan gyda Nel y ci. Roeddem wedi parcio yn Kinsale ac yno y buom am dridiau yn dathlu! A noson ein priodas wrth gwrs!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Mamol, hwyliog ac ifanc-fy-ysbryd. Hefyd dwi'n trio peidio cymryd fy hun o ddifri gormod!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fy hoff ffilm ydy The Goonies. Dwi'n gwybod ei bod hi'n amser Nadolig pan mae'r Goonies ar y teledu.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Glased o champagne mewn gwydr coctêl (fel y rhai enwog Babycham) gyda Marilyn Monroe. Bydden i wrth fy modd ei gweld hi a phrofi bywyd Hollywood yn ystod cyfnod y 50au a 60au!
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n aderyn y nos, ac wedi bod ers yn fy arddegau. Gallaf aros lan tan orie man y bore yn potchan a thacluso. Dwi ddim yn un am eistedd lawr lot, well gen i fod yn brysur ar fy nhraed tan fod rhaid i mi fynd i gysgu!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gorwedd o dan y sêr yn Aberporth (does dim llygredd golau am filltiroedd) gyda fy nheulu ar noson glir a gobeithio gweld seren wib.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Yr anthem genedlaethol. Mae'n rhoi gwefr i mi bob tro rwy'n ei chanu, yn enwedig ar ddechrau gêm rygbi!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Dwi wrth fy modd gyda garlleg, felly corgimwch mewn saws hufen a llwythi o garlleg a mymryn o tsili am gic bach! Crispy beef o'r bwyty Chinese lleol ac unrhywbeth siocled gwyn a mafon neu amrywiaeth o gaws Cymreig a chracyrs.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Peter Pan - i mi gael aros yn blentyn am byth!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Ruth Lloyd