Joe Brown: Cofio un o'r dringwyr gorau erioed

  • Cyhoeddwyd
Joe Brown
Disgrifiad o’r llun,

Joe Brown - ar Glogwyn Du'r Arddu yn yr 1960au

Rhoddwyd teyrngedau lu yr wythnos yma i'r dringwr eiconig Joe Brown ar ôl iddo farw yn yn ei gartref yng ngogledd Cymru.

Roedd y gŵr 89 oed yn fyd-enwog fel dringwr, a'i enw yn cael ei gysylltu efo Llanberis a'r mynyddoedd gerllaw am sawl rheswm.

line

Joe Brown, y dringwr

"Efallai'r dringwr creigiau gorau yn y byd", "arwr", "digymar" - rhai o'r teyrngedau o'r byd dringo ddaeth yn sgil marwolaeth Joe Brown, fu farw yn ei gartref yn Llanberis yn 89 oed.

Ar y graig, roedd yn arloeswr - yn gwthio ffiniau dringo yn yr 1950au a'r 1960au gan osod dringfeydd newydd heriol, ar sawl math o graig, yn cynnwys nifer yn Eryri. Fo hefyd oedd y cyntaf i ddringo trydydd mynydd ucha'r byd, Kanchenjunga yn yr Himalaia, yn 1955.

Oddi ar y graig, roedd yn arloeswr cymdeithasol - yn rhan o'r to ifanc dosbarth gweithiol wnaeth ddechrau dringo o ddifrif. Tan hynny, pobl ariangar a breintiedig oedd mynyddwyr fel rheol.

KanchenjungaFfynhonnell y llun, Anthony Asael/Art in All of Us
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joe Brown gyrraedd copa Kanchenjunga yn 1955

Un sydd wedi cyflawni un o'r dringfeydd wnaeth Joe Brown ei osod ydi'r darlledwr Dei Tomos, sy'n byw yn Nant Peris:

"Nes i ddringo 'Llithrig' ar Glogwyn Du'r Arddu efo Eric Jones, cyn ei fod o'n enwog a pan oeddwn i'n dipyn mwy ffit. Roedd o'n andros o anodd, a faswn i byth wedi gallu arwain.

"Roedd Joe yn gythraul caled. Mae straeon amdano pan oedd yn ifanc ac yn dechrau dringo yn defnyddio lein ddillad ei fam fel rhaff. Roedd o'n ddringwr a hanner.

"Roedd o'n foi iawn hefyd. Roedd o'r teip o foi, roedd pobl yn gwrando pan oedd o'n siarad.

"Roedd o'n gallu ynganu Clogwyn Du'r Arddu yn iawn hefyd - dim Cloggy fel mae rhwyun yn tueddu i'w glywed - ac mae o wedi rhoi nifer o enwau Cymraeg ar ei ddringfeydd.

Y mynyddwyr Joe Brown, Bill Baker a Pete MinksFfynhonnell y llun, Steve Burton
Disgrifiad o’r llun,

Joe Brown (chwith) gyda Bill Baker a Pete Minks yn 1979 tra'n paratoi am ymgyrch i ddringo Brammah II

"Roedd o'n rhan o ddechrau rhywbeth newydd mewn dringo, rhan o'r don newydd arloesol ddaeth ar ôl y rhyfel.

"Roedd yna ddringwyr da wedi bod yn yr 1920au a'r 1930au ond roedd nifer yn dweud bod popeth wedi ei wneud, doedd yna ddim byd newydd i'w wneud, ac yn sydyn reit roedd y don newydd yn dod ac efo golwg newydd ar bethau.

"'Prentis plymar o Fanceinion oedd o. Roedd lot fawr oedd yn dod o Fanceinion a Sheffield a dinasoedd tebyg, oedd yn gweithio mewn ffatrïoedd drwy'r wythnos a methu disgwyl i gael mynd allan i ddringo ar y penwythnosau. Roedden nhw'n mynd i'r ardaloedd oedd yn agosach i'r dinasoedd i ddechrau, ac wedyn yn mynd yn bellach - ac i Eryri."

Joe Brown, y siop

Siop Joe BrownFfynhonnell y llun, Eric Jones/Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Ar y Stryd Fawr ers degawdau... un o ddwy siop Joe Brown yn Llanberis

Os mai Clogwyn Du'r Arddu a Kanchenjunga sy'n dod i feddwl mynyddwyr wrth glywed yr enw Joe Brown, siop sy'n dod i feddwl pobl eraill.

Fe symudodd Joe Brown i Lanberis yn yr 1960au, pan oedd Chwarel Dinorwig dal i gynhyrchu llechi. Agorodd siop yno yn 1966 - ac un arall yng Nghapel Curig yn fuan wedyn.

Erbyn heddiw, tra bod y chwarel wedi cau mae'r siopau dal yn agored ac yn adlewyrchu'r newid yn yr ardal o'r diwydiannol i'r hamdden - ac mae dringfeydd eiconig Joe Brown yn dal i ddenu dringwyr at lethrau'r Wyddfa.

Meddai Dei Tomos: "Hwn oedd y siop fawr cyntaf yn arbenigo mewn gwerthu offer mynydda yn Llanberis.

"I genhedlaeth heddiw, y siop sy'n dod i feddwl wrth glywed yr enw Joe Brown - ond i genedlaethau eraill maen nhw dal i feddwl am y dringwr gan mai hwn oedd y dringwr creigiau, ac yn cael edmygedd anhygoel pan oedd o'n iau."

Joe Brown, y person

"Doedd o ddim yn licio'r limelight, a doedd o byth bron yn gwneud cyfweliadau."

Dyna farn Beth Holding, o Lanberis, sy'n ffrind teulu ers yr 1960au, pan oedd hi a'i chwaer yn chwarae gyda phlant Joe a Val Brown.

Er gwaetha'r clodfori - yn cynnwys y CBE a'r MBE am ei wasanaeth i ddringo a mynydda - doedd Joe Brown ddim yn hoffi trafod ei lwyddiannau, meddai.

Joe BrownFfynhonnell y llun, Ken Wilson

"Roedd o'n ddyn tawel iawn, yn cadw iddo fo ei hun ond efo hiwmor sych iawn a dipyn o gymeriad, ond doedd o ddim yn licio sylw am ei ddringo," meddai Beth.

"Yn ei dŷ roedd ganddo fo lun mawr wedi ei fframio o Kanchenjunga, y trydydd mynydd uchaf yn y byd, a phob un oedd ar yr expedition wedi ei arwyddo - ond dyna'r unig beth yn y tŷ oedd yn ymwneud efo dringo.

"Dwi'n cofio mynd draw amser cinio dydd Sul i fenthyg corkscrew ac roedd o wrthi'n mynd trwy 10,000 o sleids o luniau expeditions. Nes i holi os oedd ganddo fo un o fo a Zoe, ei ferch, yn dringo'r Old Man of Hoy (gafodd ei ddarlledu yn fyw gan y BBC yn 1984) .

"Wnaeth o ddweud 'na mae gen i un gwell' - a dangos un ohono fo yn Ne America efo'r mwydyn yma - pry genwair anferth, yr un mor dew â bys rhywun.

"Dyna oedd o eisiau dangos - dim lluniau ohono fo'n dringo."

line