Mwy o bobl ag anhwylderau bwyta yn gofyn am gymorth
- Cyhoeddwyd
Mae elusen anhwylderau bwyta Beat wedi gweld cynnydd o 35% yn nifer y bobl sy'n gofyn am gefnogaeth ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym fis diwethaf.
Mae'r elusen wedi cynyddu'r lefel o gymorth mewn ymateb i'r galw drwy sefydlu mwy o grwpiau ar-lein i bobl sy'n dioddef.
"Ry'n ni wedi gweld cynnydd digynsail yn nifer y bobl sy'n cysylltu â ni am gymorth a chefnogaeth," meddai Jo Whitfield, swyddog cenedlaethol Beat yng Nghymru.
"Ry'n ni wedi gweld cynnydd o 35% yn y galw am ein gwasanaethau cefnogol, gan gynnwys ein sgyrsiau personol ar-lein, ein grwpiau ar-lein a phobl yn cysylltu trwy ein gwefannau cymdeithasol."
Mae rhai o staff yr elusen hefyd wedi addasu eu dulliau o weithio, a bellach yn siarad â phobl dros y ffôn.
Ond mae'r elusen yn rhagweld y bydd yn colli tua thraean o'i chyllid dros y misoedd nesaf.
'Effaith enbyd'
Dywedodd Dr Menna Jones, sy'n arweinydd clinigol gwasanaeth i bobl gydag anhwylderau bwyta yng Nghaerdydd a'r Fro, bod y cyfyngiadau yn mynd i waethygu problemau pobl, "Mae'r cyfyngiadau presennol yn cael effaith enbyd ar nifer o'n cleifion ni," meddai.
"Rydyn ni'n gweld bod mwy ohonyn nhw yn gofyn am fwy o gefnogaeth yn ddyddiol.
"Mae'r teimlad presennol o fod allan o reolaeth yn ein bywyd a gweithgareddau yn achosi lot fawr o orbryder a gofid.
"Mae pobl yn troi at y gorbryder a gofid yn ystod cyfnodau o anhwylderau bwyta er mwyn ymdopi, felly mae'n achosi cynnydd yn y gofid a'r problemau mae pobl yn profi yn emosiynol ac yn gorfforol."
Stori Sioned
I Sioned Martha Davies, sy'n fyfyriwr 22 oed o Sir Gaerfyrddin, dyw'r ystadegau ddim yn syndod iddi.
Bedair blynedd yn ôl a hithau yn ei harddegau, roedd Sioned yn dioddef o anhwylder bwyta.
Mae hi bellach wedi gwella ond yn cydnabod bod y cyfyngiadau presennol yn heriol iawn.
"Mae e yn brofiad anodd, yn amlwg, dioddef gydag anhwylder bwyta, yn enwedig mewn cyfnod fel hwn oherwydd does gennych chi ddim byd i dynnu eich meddwl chi rhag cael y meddyliau ofnadwy 'ma," meddai.
"Chi wedi colli'r drefn ddyddiol oedd gyda chi i, efallai, helpu chi ymdopi gyda hwnna."
'Teimlo ar goll'
Er bod Sioned wedi gwella o'i anhwylder bwyta, mae hi'n parhau i brofi gor-bryder ac iselder.
"Fi'n credu bod pobl yn fwy tebygol o ailgydio yn eu harferion o anhwylder bwyta neu gwympo i gyfnod isel neu i gyfnod o or-bryder oherwydd eu bod nhw'n sownd yn y bwrlwm 'ma," meddai.
"Dw i ddim yn synnu bod 'na fwy o bobl yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n isel neu yn dioddef yn ystod y cyfnod yma oherwydd gan amlaf, mae gyda lot o bobl drefn, ac maen nhw'n hoffi cadw'r drefn yna.
"Fi'n credu os ydy rhywun yn gaeth i rywle sy'n fach ac yn colli arferion a threfn, maen nhw'n mynd i deimlo ar goll braidd."
Pryder am orfod chwynnu gwasanaethau
Mae Beat yn rhagweld ei bod yn mynd i golli tua thraean o'i chyllid dros y misoedd nesaf os yw'r cyfyngiadau yn cael yr effaith economaidd mae nifer yn ei ragweld.
"Ry'n ni wedi gweld gostyngiad arwyddocaol yn y cyllid ry'n ni yn ei dderbyn o weithgareddau i godi arian yn y gymuned," meddai Ms Whitfield.
"Ry'n ni'n rhagweld colled o draean yn ein hincwm dros y flwyddyn nesaf.
"Fe fydd hynny'n golygu y bydd rhaid, o bosib, edrych ar leihau'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl.
"Mewn ymateb i'r sefyllfa, rydym wedi gorfod gwneud ambell benderfyniad anodd fel corff.
"Mae tua thraean o'n staff ar gynllun saib o'r gwaith Llywodraeth Prydain ac mae'r staff arall, oni bai am bobl sydd yn gweithio ar y llinell gymorth, wedi colli 20% o'u horiau a chyflog."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Yn ôl Dr Jones byddai lleihau gwasanaethau Beat yn "golled enfawr".
"Mae gan Beat y gallu i gynnig y math o gefnogaeth dydyn ni ddim yn gallu darparu," meddai.
"Felly, fe fyddai'n cael effaith ddifrifol ar nifer o bobl sy'n ddibynnol ar y gwasanaeth."
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod trafferthion ariannol elusennau yn ystod y cyfnod hwn ac wedi cynnig £24m yn ychwanegol i'r sector.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020