Gyrru lori trwy'r argyfwng i gadw nwyddau ar y silffoedd
- Cyhoeddwyd
Mae siopa am fwyd yn gur pen i bawb ar hyn o bryd - ond o leia' does na'm rhaid i'r rhan fwyaf gael hyd i le parcio i lori 45 troedfedd cyn gallu prynu peint o lefrith.
Dyna'r sefyllfa i Tomos Williams, o Ben Llŷn, un o'r gyrwyr loriau sydd wedi bod yn gweithio drwy'r argyfwng i wneud yn siŵr bod nwyddau yn parhau ar silffoedd siopau yng Nghymru a thu hwnt.
Ac am wyth wythnos bu'r gŵr 26 oed yn gaeth i'w gerbyd - yn bwyta, cysgu, ymlacio a gweithio yno, er mwyn osgoi mynd adref i bentref Trefor a lleihau'r risg o ledu'r coronafeirws.
Ar ôl ychydig o ddyddiau o seibiant yn nôl yng Nghymru, roedd Tomos yn ôl ar y lôn ac yn siarad efo Cymru Fyw o'i lori yn Widnes tra'n disgwyl galwad i ddweud wrtho ble roedd y 'job nesaf'.
Er bod y ffyrdd yn wag ar hyn o bryd ac yn gwneud ei waith yn haws, meddai, mae byw o ddydd i ddydd yn anodd gan fod cymaint o gyfleusterau ar gau:
"Mae'r services i gyd wedi cau ar hyn o bryd, neu o leia' 80% ohonyn nhw, felly dwi methu cael cawod, does dim toiledau yn agored ac alla i ddim cael bwyd.
"Mae gen i ffrij yn y lori a microwave - felly tydi o ddim mor ddrwg i fi a rhai o'r hogia sydd heb hynna hyd 'noed. Dwi ddim yn byta'n iach - ready meals i gyd. Dwi'n trio mynd i'r supermarket ond 'mond hyn a hyn alla i gario achos tydi o ddim fel ffrij yn y tŷ - mond digon am dri neu bedwar diwrnod, ac alla i ddim mynd unrhywle efo'r lori achos does 'na ddim lle.
"Ro'n i yn ochrau Rugby, ac yn gwybod am rywle lle'r oedd digon o le i fi barcio'r lori, felly neshi fynd yno, ond ro'n i'n ciwio wedyn am awr a chwarter i fynd i mewn i'r siop.
"Roedd gwaith yn mynd yn boncers efo fi ar y ffôn - neshi ddeud tydi'r lori methu mynd heb ddisel a dwi methu mynd heb fwyd."
Mae'n anodd iddo gynllunio o flaen llaw gan nad ydi o'n gwybod ble fydd o'n mynd o un diwrnod i'r llall - a tydi o ddim bob tro'n adnabod yr ardal.
"Ro'n i yn yr Almaen bythefnos yn ôl, ac yno am wythnos ond dim ond hyn a hyn o fwyd o ni'n gallu mynd drosodd efo fi. Ro'n i'n byw ar diniau o soup," meddai.
Gan ei fod yn gweithio i gwmni Gwyddelig, mae'n mynd nôl a mlaen i Ddulyn yn aml ac mae'n gallu defnyddio'r cawodydd a thoiledau ar y fferi. Ond ar ôl cyfnod o groesi drosodd yn ddyddiol, fe all fynd am wythnos heb fynd yn agos at y gwch - sy'n golygu dim cawod a chwilio am le chwech pan mae natur yn galw.
Dros y ddau fis diwethaf mae Tomos wedi bod yn cario bob math o lwythi - o bethau angenrheidiol fel bwyd, moddion a chyfarpar diogelu i'r byd iechyd (PPE) i bethau dipyn llai pwysig.
"Roedd gen i lwyth o gerfluniau pren diwrnod o'r blaen," meddai.
"Mae pobl dal eisiau stwff, ond tydi nhw ddim yn poeni sut mae'n cyrraedd yna, a ddim yn meddwl am y bobl sy'n gweithio i gael y pethau iddyn nhw.
"Dwi methu mynd o Dublin i Lundain mewn diwrnod - dwi'n byw yn y lori. Tydi o ddim fel mod i'n gallu mynd adra a chael shower a gweld y teulu. Bechod fasa'r llywodraeth ddim wedi meddwl am hynny a gwella pethau i ni sy'n dal i weithio, ond dyna ni."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Gan fod Tomos, sy'n gyrru lori ers 2011, yn gweithio i gwmni o Iwerddon fyddai o ddim yn gymwys o dan gynllun 'ar gennad' (furlough) y llywodraeth.
Ond mae'n falch hefyd ei fod yn gallu gweithio. Bu i ffwrdd o'r gwaith am naw mis ar ôl damwain erchyll wrth lwytho'r lori yn 2013. Fe wnaeth ei dad godi arian i'r Ambiwlans Awyr, wnaeth achub bywyd ei fab, drwy gerdded i fyny'r Wyddfa bob wythnos am flwyddyn gron.
Mae Tomos yn ôl wrth y llyw ers ambell flwyddyn bellach ac yn gyrru'r lori ar draws Prydain, Iwerddon, Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a'r Almaen.
"Dwi wrth fy modd, faswn i ddim yn newid o," meddai.
"Dwi'n cael mynd i lefydd gwahanol - llefydd faswn i heb weld fel arall.
"Mae bob dim wedi bod mewn lori. Bob dim sgen ti - dillad ti'n gwisgo, dy ffôn, y gadair ti'n ista ynddo fo - bob dim."
Hefyd o ddiddordeb: