Mark Drakeford: Ymestyn y cyfyngiadau yn 'ofyn mawr'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi rhybuddio ei bod yn "rhy gynnar" i wneud unrhyw newidiadau pellach ar y cyfyngiadau

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cydnabod fod ymestyn y cyfyngiadau ar adael adref yn cael effaith ar les meddyliol pobl.

Dywedodd Mark Drakeford y "dylen ni oll fod yn bryderus" am ba mor hir mae modd parhau gyda'r cyfnod clo.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y newidiadau bychan i'r rheolau yn helpu pobl i wneud "y pethau mwy rydyn ni'n gofyn ohonyn nhw".

O ddydd Llun bydd pobl yn cael ymarfer corff yn lleol fwy nag unwaith y dydd, tra bod caniatâd i ganolfannau garddio ailagor.

Dywedodd Mr Drakeford bod modd cymryd "y camau lleiaf" yn unig am y byddai cynnydd bychan yng nghyfradd trosglwyddo'r feirws yn golygu cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau.

'Cryfhau'r gallu i gadw at y cyfyngiadau'

Yn siarad ar BBC Radio 4 fore Sadwrn dywedodd Mr Drakeford: "Y dystiolaeth glywon ni gan wyddonwyr ymddygiad oedd, os ydych chi'n gallu cynnig ychydig mwy o ryddid i bobl, mae'n cryfhau eu gallu a'u parodrwydd i gadw at y cyfyngiadau.

"Felly wrth ganiatáu i bobl fynd allan i ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, wrth ailagor canolfannau garddio a chaniatáu i awdurdodau lleol ddechrau paratoi i ailagor llyfrgelloedd, yna mae'n helpu pobl i wneud y pethau mwy rydyn ni'n gofyn ohonyn nhw.

"Wrth gwrs, mae hyn yn ofyn mawr, ac fe ddylen ni oll fod yn bryderus am ba mor hir allwn ni ei gynnal, oherwydd mae niwed yn cael ei wneud i les meddyliol pobl."

Nos Sul bydd Boris Johnson yn cyhoeddi ei gynllun ar gyfer llacio'r cyfyngiadau yn Lloegr.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu y byddai'r rheolau yn y ddwy wlad yn debyg.

"Dydy ein rheolau newydd ni ddim yn dod i rym nes dydd Llun fel ein bod yn symud ar y cyd ar draws y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu mai dyna'r llwybr sy'n cael ei ffafrio," meddai.