Arwyddion i rybuddio teithwyr o Loegr rhag dod i Gymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd arwyddion yn cael eu gosod ar y ffyrdd rhwng Cymru a Lloegr i atgoffa gyrwyr nad oes gan bobl hawl i deithio o'u cartrefi er mwyn gwneud ymarfer corff yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod penaethiaid heddlu wedi mynegi pryder y gallai nifer y ceir sy'n teithio i Gymru gynyddu, o ganlyniad i gyhoeddiad Boris Johnson nos Sul.
Ymhlith y cyfyngiadau sydd wedi'u llacio yn Lloegr, bydd hawl gan bobl i deithio yn y car i fynd am dro.
Ond yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Llun, fe wnaeth Mr Drakeford pwysleisio y byddai gan yr heddlu yng Nghymru hawl i roi dirwyon i'r gyrwyr hynny oedd yn croesi'r ffin am resymau hamdden.
"Dyw teithio i Gymru ddim yn gwneud ymarfer corff yn lleol," meddai
"Rwyf am ei gwneud yn glir - yng Nghymru, cyfraith Cymru sy'n rheoli."
Ychwanegodd nad oedd y neges o "aros adref er mwyn achub bywydau" wedi newid.
Yn ogystal ag arwyddion ar y ffyrdd, dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru'n gosod hysbysebion mewn papurau lleol dros y ffin yn egluro'r sefyllfa yma.
Ond dywedodd nad oedd hi'n "ymarferol" gosod cyfyngiadau ar deithio dros y ffin, ac nad oedd hynny wedi codi yn ei sgyrsiau â'r heddlu.
Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau pum marwolaeth arall o ganlyniad i Covid-19, gan ddod â'r cyfanswm i 1,116.
Mae 124 person arall hefyd wedi cael prawf positif am yr haint, gyda'r cyfanswm swyddogol yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach wedi cyrraedd 11,468 - er bod y gwir nifer yn debygol o fod llawer yn uwch.
Neges 'ddim digon clir'
Ychwanegodd y gallai Mr Johnson "fod wedi gwneud mwy" i esbonio fod y rhan fwyaf o'i gyhoeddiad nos Sul yn berthnasol i Loegr yn unig.
"Rydw i'n cydymdeimlo gyda'r rheiny sydd ddim wedi clywed y neges yn ddigon eglur oherwydd y modd gafodd ei chyhoeddi," meddai.
"Y peth cyntaf bydd yn heddlu yn ei wneud yw egluro [i yrwyr] nad yw'r hyn maen nhw'n ei wneud yn cyd-fynd â'r gyfraith.
"Fe fydd y rhan fwyaf o bobl wrth glywed hyn yn ymateb yn gyfrifol... ond pan nad ydynt yn ymddwyn yn y modd y dylen nhw, yna bydd dirwyon yn opsiwn."
Mynegodd Mr Drakeford bryder y gallai methiant i drosglwyddo'r neges yn ddigonol arwain at hyd yn oed mwy o bobl yn gadael eu tai dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Dywedodd fod pob un o brif gwnstabliaid lluoedd heddlu Cymru eisoes wedi dweud wrtho fod "cynnydd mewn gweithgarwch wedi bod dros benwythnos Gŵyl y Banc".
Roedd hyn, meddai, yn dilyn "adroddiadau mewn sawl un o bapurau newydd y DU [yn gynharach yn yr wythnos] y byddai'r cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio'n sylweddol yn fuan".
Ychwanegodd bod yr heddlu hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o drais yn ymwneud ag alcohol yn dilyn dathliadau Diwrnod VE ddydd Gwener, yn ogystal â mwy o draffig ar y ffyrdd.
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Wrth gyfeirio at y cyfyngiadau a'r posibilrwydd o'u llacio yn y dyfodol, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "anodd" dweud a fydd Cymru'n dilyn trywydd Lloegr a chyhoeddi cynllun o'r ffordd i adael y cyfnod cloi gam wrth gam.
"Beth fyddwn ni'n ei wneud yw parhau i farnu ein syniadau gyda phobl yng Nghymru am yr agweddau hynny o fywyd y gallwn ddychwelyd iddyn nhw, a'r syniad o sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â phryd fydd yr amser yn iawn i godi'r cyfyngiadau hynny."
Dywedodd y byddai'n darparu mwy o wybodaeth yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020
- Cyhoeddwyd10 Mai 2020
- Cyhoeddwyd9 Mai 2020