'Sbel cyn i ysgolion ddychwelyd i sut oedden nhw'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jeremy Miles bod "angen cyfnod o baratoi ar gyfer ysgolion" cyn y bydd modd eu hailagor

Mae cwnsler cyffredinol Cymru wedi dweud y bydd hi'n "sbel cyn bod ysgolion yn mynd 'nôl i weithredu" fel yr oedden nhw cyn y pandemig.

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru bore Gwener, fe ddywedodd Jeremy Miles y byddai Llywodraeth Cymru yn "cynyddu nifer y plant sy'n mynd i'n hysgolion ni pan fydd hynny'n saff i wneud".

Yn ôl Mr Miles mae'r gweinidog addysg, Kirsty Williams, "ar fin cyhoeddi dogfen sy'n esbonio i bobl beth yw'r pethau sydd angen eu penderfynu".

Mae'r ddogfen honno, meddai, yn sôn am "gydweithio gydag athrawon a rhieni a chynghorau lleol".

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fydd ysgolion yn ailagor yng Nghymru ar 1 Mehefin.

Bydd rhai disgyblion cynradd yn Lloegr yn cael ddychwelyd ar y dyddiad hwnnw, yn dilyn cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU, Boris Johnson ddydd Sul.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn cyhoeddi "map ffordd goleuadau traffig" yn ddiweddarach ddydd Gwener yn nodi sut y gallai'r wlad lacio'r cyfyngiadau ar ein bywydau.

Pan ofynnwyd iddo am wersi ar-lein fe ddywedodd Mr Miles bod y llywodraeth "wedi buddsoddi mewn adnoddau digidol i sicrhau bod cyfle i gefnogi plant adre' i gynnal rhywfaint o'r gwersi ysgol yna".

"Ond dyna un o'r aberthau ma' pobl yn 'neud yn y cyfnod yma," meddai.

"Ni wir yn sicr o hynny fel llywodraeth bod angen cefnogi plant i allu 'neud y gorau gallan nhw yn y tŷ."

'Ennyn hyder rhieni'

Ychwanegodd: "Dyw e ddim yn rhwydd i bobl, a dyw e ddim yn rhwydd i rieni hefyd i allu cymryd y cyfrifoldeb pellach hynny yn y cartref.

"Ma' trafodaethau yn digwydd gydag ysgolion a rhieni eisoes er mwyn sicrhau bod yr adnoddau digidol hynny ar gael, a bod pobl yn deall ffordd ma' defnyddio nhw.

"Ond dyw e ddim, wrth gwrs, yn 'neud lan am y cyfle i fod yn yr ystafell ddosbarth.

"Ond fe fydd hi'n sbel cyn bod ysgolion yn mynd 'nôl i weithredu fel oedden nhw - ma' angen gwneud hynny mewn ffordd sy'n raddol, a hefyd mewn ffordd sy'n ennyn hyder rhieni bod e'n saff i ddanfon plant 'nôl i'r ysgolion mewn rhifau mawr."