Mark Drakeford i gyhoeddi cynllun llacio'r cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford yn gwneud datganiad yn ddiweddarach ddydd Gwener

Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi "map ffordd goleuadau traffig" ddydd Gwener yn nodi sut y gallai'r wlad lacio'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu.

Gan bwysleisio'r angen i fod yn ofalus, bydd Mark Drakeford yn egluro sut y gallai cyfyngiadau ar fywyd o ddydd i ddydd, ysgolion a busnesau ddechrau cael eu codi.

Ond does dim disgwyl i Lywodraeth Cymru roi unrhyw ddyddiadau penodol.

Mae'n hanfodol "ein bod yn cydnabod nad argyfwng tymor byr yw hwn", bydd y prif weinidog yn dweud ddydd Gwener.

'Byw gyda'r afiechyd'

Yn ei gynhadledd i'r wasg bydd yn rhybuddio "y bydd yn rhaid i ni fyw gyda'r afiechyd yn ein cymdeithas, a cheisio rheoli ei ledaeniad a lliniaru ei effeithiau" nes bydd brechlynnau neu driniaethau effeithiol ar gael.

Mae'n debygol o fod yn wahanol i gynllun Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, sydd eisoes wedi gosod dyddiadau ar gyfer pryd y gallai gwahanol sectorau ailagor yn Lloegr.

Mae'r cyfyngiadau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu rheoli gan weinyddiaethau unigol y gwledydd - ond yn Lloegr mae'n nhw'n cael eu goruchwylio gan weinidogion y DU.

Mae gan Lywodraeth Cymru set wahanol o reolau ac mae wedi glynu wrth y neges "aros adref", gan wrthod slogan "aros yn wyliadwrus" Llywodraeth y DU a gafodd ei fabwysiadu'r penwythnos diwethaf.

Galwodd Ceidwadwyr Cymru am amserlen gyda thasgluoedd wedi'u sefydlu i weithredu ac olrhain cynnydd y map ffordd.

Dywedodd arweinydd Torïaidd y Senedd, Paul Davies: "Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw gobaith, uchelgais a gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol - rhywbeth y mae pobl Cymru yn gweiddi amdano."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Yr allwedd i leddfu cyfyngiadau yn ddiogel o hyd yw gweithredu rhaglen brofi ac olrhain gynhwysfawr a lleol.

"Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw newid gêr ar frys" ar y cynlluniau hynny, meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi dyddiadau posib i lacio'r cyfyngiadau ymhellach

Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill y gallai'r lockdown gael ei godi fesul cam trwy system goleuadau traffig.

Yn ystod y cam coch gellir codi cyfyngiadau mewn ffordd "ofalus a rheoledig". Yn y cam ambr, gellid codi cyfyngiadau pellach.

Os bydd y feirws yn cilio, o dan y cyfnod gwyrdd byddai bywyd yn edrych yn debycach i sut y gwnaeth cyn i'r pandemig ddechrau.

Mae disgwyl i gynlluniau gynnwys mwy o brofion, ynghyd ag olrhain achosion.

Cymru a Lloegr - beth sy'n wahanol?

Fe newidiodd y cyfyngiadau ychydig yng Nghymru ddydd Llun, gyda chanolfannau garddio yn cael agor a phobl yn gallu ymarfer corff yn yr awyr agored fwy nag unwaith y dydd.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi mynd ymhellach, gan ganiatáu i werthwyr tai ailagor ac annog pobl i fynd yn ôl i'r gwaith os na allan nhw weithio gartref.

Bellach gall pobl yn Lloegr hefyd yrru i wneud ymarfer corff, ond daeth rhybuddion gan Lywodraeth Cymru i beidio â gyrru yma er mwyn gwneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ciw mewn canolfan arddio yng Nghaerdydd ddydd Llun

Mae gan Gymru hefyd gyfreithiau gwahanol yn y gweithle, gan ddweud wrth gyflogwyr am gadw gweithwyr ddau fetr ar wahân.

Ni fydd ysgolion yn ailagor yng Nghymru ar 1 Mehefin - ond gall rhai disgyblion cynradd yn Lloegr ddychwelyd ar y dyddiad hwnnw.

Yr wythnos ddiwethaf cyfaddefodd Downing Street y gall Cymru a'r cenhedloedd datganoledig eraill symud "ar gyflymder ychydig yn wahanol".

Ond cafodd y ffordd y cyhoeddodd y prif weinidog y newidiadau yn Lloegr ddydd Sul ei feirniadu gan Mr Drakeford, a ddywedodd y gallai Boris Johnson "fod wedi gwneud mwy" i egluro bod y rhan fwyaf o'i gyhoeddiad yn berthnasol i Loegr yn unig.