Dim dyddiad penodol i blant ddychwelyd i'r ysgol eto

  • Cyhoeddwyd
Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad Kirsty Williams mewn fideo brynhawn Gwener

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen sy'n datgan sut fydd yn ystyried y cam nesaf i ysgolion, mewn ymateb i bandemig Covid-19.

Ond dywed y gweinidog addysg, Kirsty Williams y byddai pennu dyddiad ar pa bryd fydd plant yn dychwelyd i'r ysgol "cyn bod gennym ni fwy o dystiolaeth, mwy o hyder a mwy o reolaeth dros y feirws yn beth anghywir i'w wneud".

Mae Ms Williams wedi disgrifio'r ddogfen fel un sy'n "datgan ein ffordd o feddwl ar hyn o bryd" ar gyfer sut bydd gweithrediadau ysgolion, lleoliadau addysg eraill a darparwyr gofal plant yn newid er mwyn caniatáu cadw pellter cymdeithasol a ffactorau eraill.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y camau nesaf posib i'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu.

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion wedi bod ar gau ers dechrau'r pandemig, gyda rhai ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda "gwyddonwyr, arbenigwyr iechyd y cyhoedd, athrawon, darparwyr addysg, undebau llafur ac awdurdodau lleol i ystyried yr opsiynau ar gyfer y cam nesaf i ysgolion a lleoliadau gyda heriau tebyg, fel darparwyr gofal plant a cholegau addysg bellach".

Dywedodd Kirsty Williams: "Ni fyddai unrhyw beth yn fy ngwneud i'n hapusach na gweld ein hystafelloedd dosbarth yn llawn eto.

"Ond rydw i eisiau dweud yn glir nad yw'r fframwaith hwn - ac na fyddaf i - yn pennu dyddiad mympwyol ar gyfer pryd bydd rhagor o ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol.

"Byddai pennu dyddiad cyn bod gennym ni fwy o dystiolaeth, mwy o hyder a mwy o reolaeth dros y feirws yn beth anghywir i'w wneud.

"Nid un penderfyniad fydd hwn, ond cyfres o benderfyniadau dros amser yn cynyddu, neu os bydd angen, yn cyfyngu ar weithrediad."

Newidiadau 'cymhleth'

Ychwanegodd: "Bydd y newidiadau hyn yn gymhleth, gyda llawer o ystyriaethau gwahanol. Rwyf am i'r ddogfen waith annog adborth a thrafodaeth ehangach.

"Rwy'n rhannu hyn heddiw i fod mor dryloyw â phosibl. Rwy' am i bawb wybod hyd a lled y materion sy'n gysylltiedig â'r cam nesaf.

"Pan fyddwn ni'n barod i symud i'r cam nesaf, byddaf yn sicrhau bod digon o amser i baratoi ac i'r staff wneud unrhyw hyfforddiant angenrheidiol."

Ymateb undeb

Wrth ymateb i ddogfen fframwaith y llywodraeth, dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru: "Mae'n galonogol i glywed y gweinidog addysg Kirsty Williams yn dweud yn bendant na fydd hi'n gosod dyddiad mympwyol ar gyfer dychwelyd i'r ysgol cyn fod gennym fwy o dystiolaeth, hyder a rheolaeth dros y feirws.

"Byddai gwneud unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar ffactorau eraill yn anghyfrifol ac fe allai gael effaith niweidiol ar blant, staff ysgolion, teuluoedd a chymunedau ehangach.

"Mae'r fframwaith hwn yn cynnwys y ffactorau hanfodol sydd angen eu trafod cyn y gall plant ddychwelyd i'r ysgol, yn cynnwys y dystiolaeth feddygol a gwyddonol sydd yn sail i benderfyniadau a hefyd y goblygiadau ymarferol fel sut bydd modd cynnal ymbellhau cymdeithasol, disgwyliadau ar ysgolion a sut fydd ysgolion yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses.

"Mae NAHT Cymru wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau fod pryderon gwirioneddol y proffesiwn yn cael eu hystyried. Yr unig ffordd i sicrhau fod pawb yn dychwelyd i'r ysgol mewn modd llwyddiannus a chynaliadwy yw i ennyn cefnogaeth y proffesiwn. Hebddo, fe fydd hyder y cyhoedd mewn unrhyw gynllun yn chwalu.

"Mae Llywodraeth Cymru yn gwrando arnom ni ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau fod gennym lwybr diogel wedi ei gefnogi ar gyfer y cam nesaf o addysgu."

Mae modd lawrlwytho cynllun y gweinidog addysg yn llawn yma., dolen allanol