Covid: Starmer yn galw am undod rhwng gwledydd y DU

  • Cyhoeddwyd
Sir Keir Starmer
Disgrifiad o’r llun,

Syr Keir Starmer: Gall y sefyllfa roi straen ar berthynas gwledydd y DU

Dyw'r gwahanol ymateb i Covid-19 oddi wrth pedair gwlad y DU "ddim yn mynd i helpu datrys" argyfwng corofeirws, yn ôl Syr Keir Starmer.

Mae'r arweinydd Llafur yn rhoi'r bai ar brif weinidog y DU Boris Johnson am y sefyllfa sydd wedi gweld gwahaniaethau yn datblygu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ynglŷn â llacio cyfyngiadau.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, mae "yna lawer yn fwy yn debyg nag sydd yna o wahaniaethau yn y modd mae gwahanol wledydd y DU yn gweithredu."

Dywedodd Syr Keir hefyd fod ei alwad am "ffederaliaeth radicalaidd" led led y DU wedi ei "atgyfnerthu" yn ystod cyfnod y pandemig.

Yn ystod y ras ar gyfer arweinyddiaeth Llafur, roedd Sir Keir wedi dweud mai'r ffordd ymlaen oedd i ddaganoli mwy o bwerau i Senedd Cymru gan ddod â "pwerau yn agosach i'r bobl."

Ar raglen Politics Wales BBC Cymru cafodd yr arweinydd llafur ei holi a fyddai undod y DU yn wannach wedi'r pademig.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad oedd ymgynghoriad ynglŷn â newid y slogan

Dywedodd: "Rwy'n gobeithio y byddant yn fwy cryf, oherwydd rwy'n credu fod yna deimlad anhygoel o undod wedi bod led led y DU. "

Ond dywedodd y gallai'r berthynas rhwng Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gael ei "roi dan straen" pe bai mwy o wahaniaethau yn ymddangos yn y modd mae'r gwahanol lywodraethau yn ymateb i'r haint.

"Yn fras, y cynharaf rydym yn dod yn ôl at bedair gwlad sy'n gweithio gyda'n gilydd, y gorau.

"Oherwydd dw i ddim yn credu fod cael gwahanol ymateb mewn gwahanol rannau'r o'r DU yn mynd i'n helpu datrys yr argyfwng.

"Rwy'n credu fod y cyfrifoldeb am hynny yn bennaf gyda'r Prif Weinidog (y DU)".

Ychwanegodd ei fod o'r farn y dylai Mr Johnson fod wedi ystyried y gwahanol oblygiadau cyn gwneud ei araith nos Sul diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson wedi cael ei gyhuddo o beidio ymgynghori â gwledydd eraill y DU wrth wneud newidiadau

Yn ei ddarledidad cyhoeddus nos Sul fe wnaeth Mr Johnson gyhoeddi y gallai pobl yn Lloegr yrru "i wahanol lefydd" er mwyn hamddena.

Yng Nghymru dyw pobl ddim yn cael teithio o'u cartrefi er mwyn ymarfer corff.

Mae prif weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud nad oedd yna ymgynghorid gydag ef cyn i Lywodraeth y DU newid eu slogan o "Arhoswch gartref" i "Byddwch yn wyliadwrus"

Dyw'r neges heb ei newid yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart: "Ni alla'r un rhan o'r DU wynebu y pandeig hwn ar ben ei hunain, ac mae llywodraeth y DU wedi rhoi cefnogaeth ddigynsail i bob rhan o'r DU.

"Fe wnaethom ddod i'r frwydr hon fel Deyrnas Unedig, a byddwn yn ei diweddu'r un mor unedig."