Ail ddyn wedi marw yn dilyn ymosodiad ych yr afon

  • Cyhoeddwyd
Gwehelog
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle masnachol ym mhentref Gwehelog ar 5 Mai

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod ail ddyn wedi marw yn dilyn ymosodiad ych yr afon (water-buffalo) ar safle masnachol yn Sir Fynwy.

Bu farw'r dyn 19 oed o ardal Gwehelog ger Brynbuga o'i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr wedi'r ymosodiad a ddigwyddodd tua 14:50 ddydd Mawrth, 5 Mai.

Bu farw dyn 57 oed yn y fan a'r lle yn dilyn yr un digwyddiad.

Mae pobl leol wedi cadarnhau mai Ralph Jump oedd y dyn hwnnw, a'r gred yw mai ei fab, Peter, yw'r ail berson i farw.

Mae'n debyg mai ei chwaer, Isabel, yw'r fenyw 22 oed gafodd driniaeth yn yr ysbyty am anaf difrifol i'w choes.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i'r achos.

"Mae'r teulu wedi gofyn am amser i alaru ac rydym yn gofyn ar bobl i barchu eu preifatrwydd," meddai'r Ditectif Arolygydd Amanda Venn, gan gydymdeimlo â'r teulu ar ran y llu.

Ychwanegodd fod Heddlu Gwent yn trafod yr achos gyda swyddfa Crwner Gwent.