Coronafeirws: Galw am gael mwy o brofion mewn cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
cartref gofal

Mae arweinwyr cyngor wedi codi pryderon am y diffyg profion am Covid-19 mewn cartrefi gofal ar ddechrau'r pandemig.

Dywedodd un fod hynny'n golygu bod staff yn gweithio gyda'u "dwylo tu ôl eu cefnau."

Galwodd arweinydd y corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru am brofi preswylwyr cartrefi gofal ddwywaith wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau o ysbytai.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, sydd hefyd yn arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, y gallai fod yn angenrheidiol oherwydd "fe allech chi gael eich profi heddiw, dangos dim symptomau, cael prawf clir, cael eich rhyddhau i leoliad gofal a chael symptomau yfory."

Dywedodd y bu'n rhaid iddo "roi pwysau" ar ei fwrdd iechyd lleol yng nghamau cynnar y pandemig i beidio ag anfon preswylwyr cartrefi gofal allan o'r ysbyty heb gael eu profi.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg am ymateb.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd system olrhain cysylltiadau pobl sydd wedi'i heintio gyda'r coronafeirws ar gael yng Nghymru o "ddechrau mis Mehefin."

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Morgan ydy arweinydd y corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru eisoes wedi gofyn i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymchwilio i'r posibilrwydd fod Llywodraeth Cymru wedi torri hawliau pobl oedrannus wrth ymateb i'r argyfwng.

Dywedodd y gweinidog iechyd, Vaughan Gething nad oedd yn "cydnabod" hynny a bod polisi profi wedi'i seilio ar gyngor meddygol.

Ers dechrau'r cyfnod clo, roedd 27% o'r bobl fu farw gyda coronafeirws yng Nghymru yn byw mewn cartrefi gofal, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Nid yw'r ffigwr hwn yn cynnwys y preswylwyr cartrefi gofal hynny a fu farw ar ôl cael eu trosglwyddo i'r ysbyty.

'Trueni gweld cymaint o oedi'

Ar 16 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd profion coronafeirws yn cael eu hymestyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal yng Nghymru.

I ddechrau, dim ond unigolion â symptomau oedd yn cael eu profi mewn cartrefi gofal, cyn i hynny gael ei ymestyn i brofi mwy ar 6 Mai.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod newidiadau yn deillio o "dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a chyngor gwyddonol".

Dywedodd arweinydd Ceidwadol Cyngor Conwy, y Cynghorydd Sam Rowlands, wrth raglen Politics Wales "ei bod yn drueni gweld cymaint o oedi" wrth brofi holl staff a thrigolion y cartref gofal.

Dywedodd Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli mwy na 450 o ddarparwyr gofal, wrth raglen Wales Investigates, o'r 38 cartref gofal a ymatebodd i'w harolwg, dywedodd 16 eu bod wedi teimlo dan bwysau i gymryd cleifion a oedd naill ai wedi profi'n bositif gyda Covid-19 neu heb eu profi o gwbl.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ceredigion, Cyng Ellen ap Gwynn, Plaid Cymru, fod "oedi o hyd" gyda phrofion a "bu diffyg enbyd o gyfleuster profi dros amser."

Dywedodd Mary Wimbury, prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, ei bod am weld holl breswylwyr a staff cartrefi gofal yn cael eu profi "o leiaf yn wythnosol."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai pobl yn dychwelyd i gartrefi gofal heb gael prawf negatif.

Dywedodd llefarydd hefyd y bydd amlder ailbrofi cartrefi gofal heb unrhyw achosion o coronafeirws yn "cael ei bennu ar sail risg."

"Er enghraifft, os oes trosglwyddiad cymunedol yn yr ardal," meddai.