Syr Tom yn 80: 'Atgofion gwych yn cadw'r henaint draw'
- Cyhoeddwyd
Ag yntau'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ddydd Sul, mae Syr Tom Jones wedi addo y bydd yn dal i ganu tra bydd "anadl yn fy nghorff".
Dywedodd y canwr byd-enwog, gafodd ei eni ar 7 Mehefin 1940, nad yw'n hidio ynglŷn â mynd yn hen am fod ganddo gymaint o atgofion gwych.
Dywedodd bod cyfyngiadau coronafeirws yn ei atgoffa o'r amser y bu'n rhaid iddo ef ynysu am ddwy flynedd pan oedd yn 12 oed, ar ôl dioddef â'r diciâu.
"Rwy'n cydymdeimlo gyda phobl ifanc sy'n methu mynd mas i chwarae," meddai.
Cafodd Syr Tom, sy'n dod o Bontypridd yn wreiddiol, lwyddiant ysgubol yn y 1960au gyda recordiau cynnar fel It's Not Unusual a What's New Pussycat? a dros y degawdau nesaf datblygodd i fod yn un o sêr adloniant mwya'r byd.
Llwyddodd ei berfformiadau byw chwedlonol yn Las Vegas i ennyn edmygedd a chyfeillgarwch nifer o fawrion y byd adloniant, gan gynnwys Frank Sinatra ac Elvis.
Trwy gydol ei yrfa mae Syr Tom wedi gallu addasu i'r tueddiadau diweddaraf ym myd adloniant, yn adeiladu ar ei gryfderau lleisiol amlwg, ac yn symud yn rhwydd rhwng gwahanol genres: o bop, roc, a chanu gwlad, i soul, blues a gospel, a hyd yn oed i gerddoriaeth dawns ac electronig.
Tra'n sgwrsio gyda'i ffrind, y gantores Cerys Matthews, ar gyfer rhaglen radio i'r BBC - Sir Tom's Musical Years - dywedodd y canwr: "Mae'r atgofion yn wych a dwi ddim eisiau stopio.
"I gyrraedd 80 oed, ac i gael atgofion mor rhyfeddol ac i fod yn dal i wneud hyn ac yn dal i wneud pwynt, neu'n ceisio gwneud hynny - diolch i bawb sydd wedi bod gyda mi, y gynulleidfa.
"Allwch chi ddim mynegi eich hun yn iawn os nad oes pobl yno i wrando arnoch chi.
"Mae Duw wedi bod yn dda wrthyf, ac mae fy llais yn dal yno. Tra'i fod o'n parhau dwi eisiau codi a chanu'n fyw i bobl."
Mae'r rheolau presennol yn golygu y bydd dathliadau pen-blwydd Syr Tom yn gyfyngedig, ond mae'n cyfeirio at y cyfnod pan gafodd y diciâu.
"Mi ddysgodd i mi beidio â chymryd fy iechyd yn ganiataol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2014