Cyfnod cloi i bobl ifanc: 'Her, aberth a rhwystredigaeth'
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod cyhoeddi arolwg eang o farn plant a phobl ifanc Cymru, mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i ddau berson ifanc ysgrifennu am eu hargraffiadau nhw o fyw dan gyfyngiadau llym argyfwng coronafeirws 2020.
Mae Jonathan Powell o Wrecsam yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ac yn astudio Hanes, Saesneg Llên a Gwleidyddiaeth a Cherddoriaeth Safon Uwch, ac wedi cael cynnig i astudio'r gyfraith yng Ngholeg Iesu Prifysgol Rhydychen.
Mae Ffion Griffith yn athrawes dawns 17 oed o Faesycwmer, yn astudio ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch mewn Saesneg, Hanes, Mathemateg ac Economeg. Ei gobaith hi yw astudio'r gyfraith hefyd ar ôl blwyddyn arall o addysg uwchradd.
Ffion Griffith: 'Roedd rhaid ymdopi â newid yn gyflym iawn'
Doedd dim syniad gen i faint o newid fyddai'n dod i fy mywyd i pan ddaeth y cyhoeddiad ar Mawrth 18 bod ysgolion Cymru ar fin cau.
Roedd rhaid ymdopi â newid yn gyflym iawn - o fod mewn ystafell ddosbarth i Google Classroom ar-lein, ac o wersi dawns mewn stiwdio i alwadau Zoom yn fy 'stafell fyw.
Roedd lockdown yn wahanol iawn i unrhyw beth roeddwn i wedi ei brofi o'r blaen.
Roedd pump ohonon ni yn gweithio o adref, a hynny'n her dyddiol tan i ni sefydlu ein harferion newydd.
Daeth fy stafell fyw yn stiwdio ddawns i gynnal gwersi dros y we i grŵp o blant sydd fel arfer dan fy ngofal fel athrawes ballet. Roeddwn i hefyd yn cynnal dosbarth cadw'n heini yn fyw ar-lein bob wythnos ac yn helpu fy athrawes ballet i greu fideos i'r plant.
Roedd yn help mawr i gadw'n brysur ac i ni yn yr ysgol ddawns gadw mewn cyswllt.
Pryder am dorri rheolau
Un o'r heriau mwyaf oedd colli cyswllt wyneb yn wyneb â ffrindiau a theulu, cyswllt sy'n bwysig iawn i helpu pobl ifanc fel fi gadw iechyd meddwl da.
Er treulio oriau yn ceisio dysgu Mamgu a Tadcu i ddefnyddio WhatsApp a Facetime doedd sgwrsio dros sgrîn ddim cystal â wyneb yn wyneb. Ac yn bendant, er bod dawnsio dros Zoom yn hwyl, roeddwn i dal yn dyheu am gael gweld pobl eraill yn y cnawd.
Un peth anodd oedd gweld ambell stori yn y cyfryngau am bobl ifanc yn torri rheolau'r llywodraeth ac yn anwybyddu'r perygl mawr i ni i gyd.
Yn ffodus, mae'r mwyafrif wedi cymryd mesurau Llywodraeth Cymru o ddifrif.
Er bod rhywfaint o gymhlethdod o ran datganoli, a newyddion ffug ar y cyfryngau cymdeithasol, yr ochr bositif oedd bod nifer o bobl ifanc yn defnyddio eu platfform ar y cyfryngau cymdeithasol i addysgu neu helpu eraill.
Er yn gyfnod anodd, mae'n rhaid i mi gefnogi'r modd y gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Maen nhw wedi cymryd yr awenau a gwneud y penderfyniadau gorau i'r Cymry.
Basai llacio mesurau'r lockdown yng Nghymru yr un adeg â Lloegr wedi achosi cynnydd aruthrol yn nifer yr achosion coronafeirws a mwy o farwolaethau.
Efallai, buasai'r un canlyniad petai ysgolion yng Nghymru wedi agor yr un adeg ag ysgolion yn Lloegr hefyd.
Er bod rhai yn dadlau bod angen i'r pedair cenedl weithredu fel un er mwyn cyfleu neges clir, fasai neb wedi disgwyl i wledydd fel Ffrainc a Sbaen gydlynu â'i gilydd - gan bod y pandemig wedi cael effaith gwahanol yn y ddwy wlad.
Ond rhaid cydnabod rhai o fethiannau Llywodraeth Cymru, gyda phrofi yng Nghymru'n datblygu'n araf a phrinder PPE. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos eu cryfder wrth reoli a gweithredu yn ystod argyfwng hunllefus.
Mae'r cyhoeddiad bod ysgolion yn mynd nôl ar 29ain Mehefin yn enghraifft o hyn.
Disgwyl 'normal newydd'
Mae rhai rhieni wedi cyhuddo'r llywodraeth o beryglu bywydau, ond petai plant wedi aros gartref tan fis Medi byddai eraill wedi cwyno am y niwed i iechyd meddwl ar ôl 23 wythnos o aros gartref.
Yn bersonol dw i'n credu y bydd cyfle i ailgysylltu gydag athrawon yn helpu pobl ifanc ymdopi'n well â'r hyn sydd i ddod ym mis Medi. Dyna fydd y "normal newydd." Beth fydd hynny? Does neb yn sicr.
Jonathan Powell: 'Mae 'na awyrgylch o rwystredigaeth'
Ers dechrau'r cyfnod clo, mae fy mywyd wedi newid yn sylweddol.
Mae angen tair gradd A arnaf i astudio yn y brifysgol yn Rhydychen, ond mae'r chweched dosbarth wedi cau a dydw i ddim wedi cael y cyfle i sefyll fy arholiadau a phrofi fy hun.
Ar ôl siarad â llawer o fy ffrindiau, mae'n ymddangos bod teimlad cryf ein bod ni yma yng Nghymru wedi bod yn araf wrth gau ysgolion, wrth benderfynu ar y broses arholi, ac wrth gyhoeddi pryd bydd ysgolion yn ailagor i bawb. Araf hefyd yw'r broses o godi'r cyfyngiadau llym.
Mae 'na awyrgylch o rwystredigaeth ymysg pobl ifanc fel fi - rhwystredigaeth nad oes dull unedig rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig wrth ddelio â'r pandemig hwn.
Rhwystredigaeth hefyd bod gan bobl ifanc dros y ffin yn Lloegr fwy o ryddid, mwy o wybodaeth, dyddiadau pendant a mwy o atebolrwydd ac eglurder llywodraethol. Mae rhai ond yn byw bum munud lawr y ffordd!
Yn ystod yr amser hwn, rwy' wedi siarad â llawer o bobl ifanc am eu meddyliau ar y cyfyngiadau. Mae nifer yn sylweddoli bod pobl wedi marw a bod rhaid bod yn ofalus. Er bod rhai yn credu na fyddan nhw yn cael eu heffeithio'n bersonol, maen nhw wedi cytuno aberthu er mwyn diogelu aelodau eu teulu.
Mae wedi bod yn rhwystredig ac yn heriol derbyn y gwahanol gyfreithiau a chanllawiau rhwng y llywodraethau datganoledig ar feysydd fel chwaraeon, cymdeithasu ag eraill a'r economi.
Ar ddiwedd y dydd y darlun llethol ymhlith pobl ifanc yw bod rhaid dilyn cyfraith Cymru ac aros gartref. Yn sicr, dyma beth rwyf i wedi bod yn ei wneud.
'Bendith mewn cuddwisg'
Mae'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod ni'n cadw'n brysur yn ystod y cyfnod hwn. Rydw i wedi mwynhau defnyddio fy amser i helpu'r gymuned, ac wedi creu a golygu fideos addysgiadol Cristnogol ar gyfer fy eglwys leol.
Yn naturiol mae peidio â gweld fy ffrindiau a fy nheulu agosaf wedi bod yn heriol ond mae wedi bod yn dda canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, gan ddefnyddio'r amser hwn yn adeiladol ac edrych yn optimistaidd i'r dyfodol pan allwn ni i gyd ymgynnull yn ddiogel unwaith eto.
Er gwaethaf y cyfnod brawychus hwn, i mi mae treulio amser gwerthfawr gyda fy mam a thad cyn mynd i'r brifysgol wedi bod yn fendith mewn cuddwisg.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y dasg o sicrhau digon o PPE wedi bod yn her ar ddechrau'r argyfwng. Ar ddechrau mis Mehefin, fe ddywedodd y dirprwy weinidog sy'n gyfrifol am gyflenwadau PPE, Lee Waters, fod rhai "amseroedd anodd" pan "dim ond diwrnodau" o gyflenwadau oedd ar ôl ond nad oedd Cymru "wedi rhedeg allan ar unrhyw adeg."
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud yn gyson bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniadau yn unol â chyngor gwyddonol er lles Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020