Pobl Cymru £2.5m ar eu colled heb ad-daliadau
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon y bydd pobol yng Nghymru yn colli dros £2.5m gafodd ei dalu tuag at wyliau a digwyddiadau, os nad ydi cwmnïau yn ad-dalu cwsmeriaid.
Mae'r argyfwng coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar y diwydiant ymwelwyr a phriodasau, gyda llawer o gwsmeriaid yn dal i aros i gael eu digolledu.
Mae Safonau Masnach Cymru wedi gweld cynnydd o 192% yn nifer y cwynion yn ystod y cyfnod cloi o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
"Mae hi'n bosib y bydd hyn yn effeithio ar bron i bawb yng Nghymru" meddai Chris Hill, sy'n arwain Safonau Masnach Cymru ar faterion masnachu teg.
"Ry'n ni'n sôn, mewn rhai achosion, am ddegau o filoedd o bunnoedd.
"Ry'n ni wedi sylwi fod y cwynion ry'n ni wedi'u cael am ganslo digwyddiadau yn cyfateb i werth £2.5m, ond dim ond pobol sydd wedi cwyno drwy Cyngor ar Bopeth yw'r rhain. Rwy'n credu bod y ffigwr cywir lawer yn uwch na hynny."
Diffyg tryloywder ydy un o'r cwynion mwyaf wrth i gwmnïau gynnig talebau i gwsmeriaid er bod hawl cyfreithiol i gael ad-daliad.
"Mae cwmnïau'n cael cynnig talebion, ond y cwsmer sydd a'r dewis os ydyn nhw eisiau derbyn hynny neu gael ad-daliad," eglurodd Chris Hill.
"Does dim hawl gan gwmni i orfodi cwsmeriaid i dderbyn taleb yn hytrach nag arian.
"Y ffordd orau i ddatrys pethau weithiau, yw cyd-weithio i ddod o hyd i gytundeb sy'n plesio pawb."
Yn ôl Safonau Masnach Cymru mae £2,665,000 o ad-daliadau yn ddyledus o'r cwynion y mae swyddogion wedi ymchwilio iddyn nhw.
Mi drefnodd Ffion Eluned o Gaerdydd drip i weld tîm pêl-droed Cymru yn chwarae ym mhencampwriaeth Euro 2020 sydd wedi cael ei symud i'r haf nesa'.
"Roedd 'na griw ohono' ni - chwech o ferched - yn mynd ar gyfer y tair gêm gyntaf a beth bynnag ddoith wedyn," meddai.
"Roedd 'na wahanol hediadau gyda gwahanol gwmnïau - i Baku, i Rufain a nôl adra.
"Dwi 'di gwario'n hun ryw £550 ar y flights a dwi heb gael yr un geiniog yn ôl eto," meddai.
Mi dalodd Tracey Kinsey, o Fagwyr, £1,029 i gwmni Love Holidays am wyliau i wlad Groeg gyda ffrind hŷn oedd yn sicr taw dyma fyddai'i gwyliau "olaf".
Ar ôl cael trafferth i gysylltu gyda'r cwmni, fe gafodd hi gynnig talebau cyn clywed wedyn y byddai'n rhaid gwneud cais am ad-daliad ar ôl 1 Gorffennaf.
"Roedd yr e-bost yn dweud 'cliciwch y linc' i ddweud be' oeddech chi am ei wneud... mi glicies i, a ddigwyddodd 'na ddim byd, do'n i ddim yn gallu cysylltu.
"Mae pobol angen yr arian yma i fwydo'u teuluoedd. 'Falle nad yw £1,029 yn lot fawr o arian, ond i rai, dyna'r gwahaniaeth rhwng prynu bwyd neu ddim."
Roedd ei chwmni cerdyn credyd wedi ad-dalu'r arian, ond ddyddiau yn ddiweddarach, fe gafodd yr arian ei gymryd oddi arni gan ddweud wrthi am gysylltu â Love Holidays.
"Ro'n i'n gandryll," meddai Mrs Kinsey, oedd wedi dweud wrth ffrind ei bod hi wedi cael ei harian a bod dim rhaid poeni.
"Does neb eisiau cymryd cyfrifoldeb. Rwy'n gwybod be' yw fy hawliau, ond dyw hynny ddim yn wir am lot o bobol."
Mae Love Holidays wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi ymchwilio i achos Mrs Kinsey a'u bod wrthi yn prosesu'r ad-daliad am y tocynnau awyren.
Ychwanegodd y cwmni y byddai'n cysylltu â Mrs Kinsey "ar frys" i ddechrau'r broses o ad-dalu'r costau gwesty.
Mae'r cwmni wedi diweddaru polisïau ers i wyliau Mrs Kinsey gael ei ganslo ac yn cynnig ad-daliadau arian neu dalebau sydd wedi'u sicrhau gan gorff y diwydiant ATOL.
I bobol eraill yng Nghymru, mae'r gost wedi bod yn llai, ond mae'r pryderon am y posibilrwydd o golli arian yn boenus.
Roedd Imogen Morgan-Ford, 16, o Abertawe yn edrych ymlaen at prom ysgol ym mis Gorffennaf. Fe gafodd y digwyddiad ei ganslo gan adael i'w mam a'i nain yn brwydro i gael blaendal o £350 am ffrog yn nol.
"Roedd y siop eisiau hanner yr arian i ddechrau," dywedodd Lynette, mam Imogen.
"Mi wnaethon nhw gymryd y mesuriadau cyn dweud y bydden nhw'n archebu'r ffrog a gadael i mi wybod."
Mae'r teulu'n dweud na wnaethon nhw glywed unrhyw beth tan iddyn nhw geisio canslo'r archeb. Fe wrthododd y cwmni ad-dalu'r arian.
"Dywedon nhw nad oedden nhw wedi torri'r cytundeb gan eu bod nhw wedi archebu'r ffrog," meddai Hillary, nain Imogen.
"Does dim tystiolaeth ganddo ni fod hynny wedi digwydd nac os gafodd y ffrog ei gwneud."
Roedd y teulu eisiau prawf bod y ffrog yn bodoli, ond roedden nhw'n "poeni" y byddai mynd a'r peth ymhellach yn arwain at orfod talu'r gweddill.
"Roedd o'n bwysig iawn i mi gan eich bod eisiau teimlo'n sbeshal ac edrych yn brydferth," meddai Imogen.
"Ro'n i wir yn hoffi'r ffrog, ond mae colli'r blaendal o £350, yn siom fawr."
Dywedodd Chris Hill fod Safonau Masnach eisiau i bobol fod yn ymwybodol o'u hawliau ond eu bod angen cydnabod bod nifer o gwmnïau bach yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda nifer y ceisiadau am ad-daliadau.
"Mae'r cwmnïau yma yn ymdrechu'n galed iawn i geisio cwblhau'u harchebion. Eu bywoliaeth nhw sydd yn y fantol," meddai.
"Ry'n ni yn poeni hefyd os nad yw pobol yn cydweithio yn rhesymol mi fydd rhai cwmnïau yn mynd allan o fusnes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020