Aelodau'n dychwelyd i'r Senedd am y tro cyntaf ers Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd i uchafswm o 20 aelod fod yn y siambr ar unrhyw adeg

Mae Aelodau Senedd Cymru wedi dychwelyd i'r siambr ym Mae Caerdydd am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

Yn ystod y cyfnod clo cafodd cyfarfodydd y Senedd eu cynnal ar Zoom.

Sesiwn "hybrid" sy'n cael ei gynnal ddydd Mercher gyda rhai aelodau yn mynychu'r cyfarfod yn adeilad y Senedd, tra bod eraill yn cysylltu ar-lein.

Mae modd i uchafswm o 20 aelod fod yn y siambr ar unrhyw adeg, gyda'r 40 arall yn gallu ymuno ar Zoom.

Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau wedi bod yn cyfarfod ar-lein ers dechrau'r cyfnod clo

Fe wnaeth un aelod - Neil McEvoy - fynychu'r siambr yn ystod y cyfnod clo, cyn cael rhybudd gan y Llywydd "i beidio chwarae gemau gyda'ch senedd".

Fe fydd tri aelod cabinet ac wyth aelod Llafur mainc ôl yn cael mynychu'r siambr ddydd Mercher, ynghyd â phedwar aelod Ceidwadol, tri aelod Plaid Cymru, un Plaid Brexit ac un annibynnol.

Bydd busnes y Senedd yn cynnwys cwestiynau i'r Prif Weinidog, i'r Gweinidog Addysg ac i'r Gweinidog Iechyd.

Fe fydd pob aelod yn gallu pleidleisio.

Mae'r adeilad yn parhau ar gau i'r cyhoedd.