Band pres Pontarddulais yn pryderu na fydd modd ymarfer
- Cyhoeddwyd
"Ni'n colli ein gilydd a does dim syniad ar hyn o bryd pryd allan ni gwrdd eto."
Chwarae'r cornet ym Mand Tref Pontarddulais - un o fandiau mwyaf llwyddiannus Cymru - y mae Neil Palmer.
Fel bandiau a chorau drwy Gymru gyfan, dyw'r criw o dros 30 o offerynwyr ddim wedi cwrdd ers mis Mawrth, ac mae Neil yn poeni na fydd y grŵp yn gallu cwrdd eto eleni.
"Mae e'n rhan o'r dre, y gymuned hon. Mae cefnogwyr 'da ni yma ym Mhontarddulais sy'n helpu ni mas ac mae e'n drist iddyn nhw, a trist i ni fel aelodau," meddai.
Poer yn bryder
"Ni yn siarad ond mae e'n galed. Gobeithio nawr, pan y ni'n dod 'nôl y byddwn ni'n gallu ymarfer rhywbryd, ac rwy'n disgwyl ymlaen i hwnna."
Ond, heblaw bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn llacio yn sydyn, a heb gyngor gan eraill yn y traddodiad, mae'n annhebygol y bydd y band yn cwrdd unrhywbryd eleni, yn ôl Neil.
"Pan y chi'n chwarae mewn band pres, yn anffodus ma 'na lawer o boer, yr un peth a chantorion, mae'n galed i ddisgwyl ar ôl hwnna. Does dim syniad ar hyn o bryd, pryd gallwn ni cwrdd eto."
Dim cyngerdd blynyddol
Wrth reswm, bu rhaid dileu cyngerdd blynyddol y band eleni, y tro cyntaf y mae Neil yn cofio bod hynny wedi digwydd ers iddo ymuno ym 1972.
Oherwydd hynny, fe wnaeth is-gadeirydd y grŵp Jayne Kinnear drefnu fideo o ganeuon y band i roi ar YouTube yn lle'r cyngerdd.
"Dyw e ddim yr un peth ond mae rhaid dweud mae Jayne wedi gwneud jobyn mor dda o drefnu'r fideo a ni mor falch bod hi wedi gwneud hwnna yn lle'r cyngerdd," meddai Neil.
Mae gan Fand Tref Pontarddulais hanes hir a chyfoethog.
Wedi'i sefydlu ar ddiwedd y 19eg ganrif gan weithwyr yn y diwydiannau tun, dur a glo lleol, mae'r band yn un o fandiau pres mwyaf llwyddiannus Cymru, yn cystadlu mewn eisteddfodau a chystadlaethau cenedlaethol ledled Cymru a'r DU.
Yn ôl Neil, mae hi wedi profi'n anodd trefnu ymarferion dros y we achos bod nifer o'r aelodau ddim wedi gallu cysylltu, ac felly mae'r offerynwyr wedi cael cyngor i ymarfer adref ar eu pen ei hunain.
"Ydw dwi wedi bod yn ymarfer ambell waith, pan ma'r tywydd mor wael ag yw e nawr. Ma' pob un o'r aelodau yn ymarfer yn y tŷ, wel, gobeithio ma'n nhw!"
Ar ôl i'r band ddileu'r cyngerdd blynyddol, ynghyd â nifer o weithgareddau eraill, maen nhw'n dioddef yn ariannol.
Oherwydd hynny, mae tudalen GoFundMe wedi ei sefydlu yn galw ar bobl i roi arian i gadw'r band i fynd yn ystod y cyfnod clo.
"Mae'r sefyllfa ariannol yn ddifrifol i ni," meddai Neil, "bydd e'n galed i ni ddechrau nôl heb help. Os yw pobl am roi arian i ni bydden ni mor mor falch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020