'Dylai gwisgo mygydau fod yn orfodol mewn siopau'

  • Cyhoeddwyd
Menyw yn gwisgo mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolau'n amrywio ar draws y DU o ran gorfod gwisgo mwgwd

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu'n "bellach ac yn gyflymach" mewn cysylltiad â gorchuddion wyneb a'u gwneud yn orfodol mewn siopau, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd Adam Price wrth BBC Radio Wales bod "dim rheswm i oedi rhagor", gan ychwanegu y dylai mygydau fod ar gael ymhob man.

Ond yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, "ychydig iawn sydd wedi newid" o ran y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, sy'n awgrymu nad ydyn nhw'n gwneud gymaint â hynny o wahaniaeth.

Bydd gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru o 27 Gorffennaf.

Maen nhw eisoes yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, tra bydd gofyn i bawb orchuddio'u hwynebau mewn siopau ac archfarchnadoedd yn Lloegr o 24 Gorffennaf ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fwy o frys, medd Adam Price

Fe alwodd Mr Price ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fwy o frys, gan ddadlau fod y dystiolaeth wyddonol wedi newid ac yn awgrymu bod y feirws yn cael ei gario yn yr awyr.

"Rwy'n meddwl weithiau fod [gweithredu'n] araf yn gallu bod yn dda - yn nhermau llacio cyfyngiadau'n araf ac yn bwyllog, rwy'n meddwl fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gywir," dywedodd wrth raglen Claire Summers.

"Ond mae [symud yn] araf hefyd weithiau'n gallu bod yn elyn… os oes angen i ni symud yn ystwyth.

"Os yw'r wyddoniaeth yn newid, fel y mae wedi newid yn achos gorchuddion wyneb, yna mae angen i Lywodraeth Cymru symud yn gyflym."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dystiolaeth wyddonol yn dal yn wan, yn ôl Dr rank Atherton

Dywedodd Dr Atherton, hefyd ar raglen Claire Summers, fod y dystiolaeth o blaid gwneud gwisgo mygydau'n orfodol "yn eithaf gwan", er bod "mantais fach" yn bosib.

Ychwanegodd Dr Atherton na fyddai byth yn diystyru'n llwyr y posibilrwydd o orchymyn i'w gwisgo, ond ei fod yn credu eu bod yn anaddas ac yn llai pwysig na'r canllawiau i olchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol.

Pan ofynnwyd ddydd Llun pam nad yw gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus, atebodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mewn llefydd sy'n orlawn, yna cyngor Llywodraeth Cymru yw i wisgo gorchuddion wyneb. Ble nad yw'r mannau'n orlawn, mae'n fater i'r person unigol benderfynu."

Ychwanegodd fod coronafeirws bellach "ar ei isaf" ers dechrau'r pandemig, gan bwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru ymateb "yn gymesur".

Dywedodd hefyd y gallai staff siopau a busnesau ofyn i gwsmeriaid wisgo mygydau.

'Ymyrryd ar hawliau sifil'

Mewn cyfweliad wedi hynny ar orsaf Times Radio, dywedodd fod Cymru wedi oedi'n hirach na gwledydd eraill y DU cyn penderfynu gan fod gorchymyn gwisgo mygydau'n "ymyrryd ar hawliau sifil pobl".

Ychwanegodd: "Dyw e ddim yn syml oherwydd mae yna bobl na all eu gwisgo - pobl â thrafferthion anadlu, pobl sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau, plant...

"Dydych chi ddim yn ei wneud e, rwy'n meddwl, heb fod yn sicr iawn y bydd yn gwneud gwahaniaeth o ddifri'."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi galw am wneud hi'n orfodol i wisgo mygydau mewn siopau, gan ei alw'n elfen allweddol o gynllun 10-pwynt y cyhoeddodd y blaid yr wythnos ddiwethaf.

Ddydd Llun fe ddywedodd Dr David Bailey - cadeirydd cymdeithas feddygol BMA Cymru: "Rydym hefyd yn parhau â'n galwadau i'r cyhoedd wisgo gorchuddion wyneb yn yr holl fannau ble nad yw pellter cymdeithasol yn bosib, nid dim ond ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac i barhau â hylendid dwylo da."

Yn ôl yr Athro Sian Griffiths, un o gadeiryddion pwyllgor arbenigwyr SARS yn Hong Kong, mae'n "synnwyr cyffredin" i wisgo mygydau.

"Mewn ffordd, mae'n wych fod llywodraethau gwahanol yn gosod amserlenni a gosod mwy o ganllawiau gorfodol, ond ar yr un pryd, gallen ni ein hunain gymryd camau a gwisgo mygydau nawr, oherwydd rydym yn gwybod eu bod yn cyfrannu at leihau lledaenu'r haint," meddai.

"O wybod fod hyd at 30% o achosion coronafeirws yn ansymptomatig ond yn heintus, mae'n synnwyr cyffredin i warchod pobl eraill, o ran potensial pasio'r haint iddyn nhw."