Coronafeirws: Digrifwyr yn gofyn am gymorth
- Cyhoeddwyd
Mae digrifwyr stand-yp wedi galw am gydnabyddiaeth i'w gwaith fel ffurf o gelfyddyd fel bod modd i'r diwydiant dderbyn rhan o'r £59m sydd ar gael i'r celfyddydau o achos y pandemig.
Mae dyfodol comedi byw yn edrych yn dywyll iawn yn ôl rhai, o ganlyniad i effaith coronafeirws ar y diwydiant.
Prin iawn yw'r achosion ble mae comedi yn llwyddo i ddenu nawdd ar ffurf grantiau'r celfyddydau, ond mae digrifwyr yn dadlau mae nawr yw'r amser i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn gweithredu i ateb gofynion y sector.
'Briwsion o'r bwrdd'
Yn ôl y digrifwr Mike Bubbins, mae'r diwydiant comedi'n aml yn derbyn "briwsion oddi ar y bwrdd" yn unig pan mae'n fater o arian.
"Ai snobyddiaeth yw'r rheswm pam nad yw comedi'n cael ei gydnabod fel celfyddyd?
"Mae'n anodd dweud mai nid snobyddiaeth yw e pan mae'r theatr yn cael ei ariannu, mae'r opera yn cael ei ariannu, mae celf weledol yn cael ei ariannu tra bod comedi yn aros am friwsion oddi ar y bwrdd."
Mae pecyn cymorth Llywodraeth y DU i'r celfyddydau yn werth £1.15bn yn Lloegr am mae hyn yn golygu fod £188m ar gyfer y gwledydd datanoledig.
Bydd Cymru'n derbyn £59m, gyda £97m i'r Alban a £33m i Ogledd Iwerddon.
"Rwy'n credu fod comedi wedi ei weld gan bobl sy'n rhedeg y celfyddydau fel ffurf o gelfyddyd sydd yn hunan-ariannu ei hun gan nad yw'n costio llawer.
"Ond dyw'r bobl 'ma ddim wedi cynnal cyngherddau yng Ngŵyl Caeredin sydd yn gallu costio £10,000 i berfformiwr a dydych chi ddim yn cael yr arian yna'n ôl, ond rydych yn ei wneud i roi hwb i'ch gyrfa.
"Mae'n ffurf ddrud o gelfyddyd i fod yn rhan ohono ac mae'n teimlo ein bod ni'n dioddef y cynni waethaf. Nid mater o ofyn am elusen yw hyn, ond am degwch a chydnabyddiaeth o'r hyn yw comedi.
"Nid dim ond dyn neu ddynes gyda meicroffon yn eu llaw yn dweud jôcs - rydych chi wedi treulio blynyddoedd yn cynnal gigs, teithio, ysgrifennu deunydd ag ail-ysgrifennu deunydd.
Dywed Mr Bubbins, sydd hefyd yn actor ac yn ysgrifennwr sgriptiau, fod angen i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd.
"Fe fyddwn wrth fy modd petai Mark Drakeford yn dweud ein bod am gydnabod comedi fel rhan o ddiwylliant Cymru a rhoi chwarae teg iddo.
"Fe fyddech chi wedyn yn gobeithio y byddai Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn edrych ar Gymru a dilyn yr un trywydd."
Dechrau gyrfa
Dim ond ers blwyddyn roedd Hayley Southgate wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd cyn i'r pandemig daro. Roedd hi'n gyfrifol am redeg Babi Comedi yng Nghaerdydd, gan berfformio i rieni oedd yn dwyn ar y cyfle i ddod â'u babanod i'w sioeau yn ystod y dydd.
Dywedodd ar y Post Cyntaf bod hi'n siomedig nad yw comedi yn cael ei weld fel 'celf'.
"Y ffaith yw, mae llawer o waith yn mynd mewn i wneud set, hyd yn oed set 5 munud, er enghraifft mae'n rhaid i fi ysgrifennu rhywbeth, perfformio...
"Mae llawer o ffrindiau fi yn teithio i llefydd yn Lloegr, Llundain, Manchester, llefydd fel yna i gael gigs. Ac fel pethau eraill i gyd maen nhw yn self employed hefyd. Felly mae lot o bobl wedi colli lot o arian trwy hyn," meddai.
Mae'n cytuno gyda sylwadau Mike Bubbins bod snobyddiaeth yn ffactor.
"Os ti yn meddwl am y theatr, y pethau mwyaf poblogaidd yw pantomeim neu gomedi fel Sarah Millican neu Michael McIntyre. Mae hi (Sarah) yn gallu llenwi mas theatr a gyda'r bobl yna, maen nhw yn dod mewn â pres hefyd, pethau fel cael bwyd a diod."
Diwydiant ar ochr y dibyn
Mae'r Gymdeithas Gomedi Byw wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn dweud fod 77.8% o leoliadau sydd yn cynnal gigs comedi yn y DU yn pryderu y byddant wedi cau o fewn blwyddyn, gan ychwanegu fod y diwydiant ar ochr y dibyn.
Cafodd 660 o bobl oedd yn gweithio ym myd comedi eu holi ar gyfer eu arolwg, yn gynnwys perchnogion neuaddau comedi, digrifwyr stand-yp, cynhyrchwyr a staff cyhoeddusrwydd, am effaith y pandemig coronafeirws.
Dywedodd adroddiad y gymdeithas fod tri chwarter y perfformwyr yn ennill llai na 5% o'u hincwm arferol o berfformiadau arlein.
Fe ddiflannodd mwyafrif o waith y digrifwr Ignacio Lopez o Gaerdydd yn ddi-rybudd dros nos.
"Roeddwn wedi fy mwcio i wneud sioeau ar 10 llong bleser, ond un ar ôl y llall fe gawson nhw eu canslo ac fe aeth popeth yn y canol hefyd gan fod gen i gigs wedi eu bwcio ar draws y DU.
"Mae wedi diflannu, mae'n erchyll meddwl beth sydd wedi digwydd i'r diwydiant mor sydyn.
"Rwy'n byw ar roddion o nosweithiau cwis ar y cyfryngau cymdeithasol neu docynnau i sioeau comedi arlein rwy' wedi ddechrau ers y cyfnod clo."
Cyngor y Celfyddydau
Dywedodd Nick Capaldi, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Nid yw comedi wedi bod yn rhan fawr o'n cyllid, ond o ystyried y math o anawsterau, yn enwedig y math y mae artistiaid unigol yn eu wynebu, mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni feddwl amdano.
"Rwy'n credu y byddan nhw [Llywodraeth Cymru] eisiau cefnogi'r celfyddydau a diwylliant... ond y lleoliadau llai, y lleoliadau lle mae digrifwyr iau yn ennill profiad... dyma'r lleoliadau sy'n ei chael hi'n anodd iawn ar hyn o bryd, a mae angen i ni edrych ar hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'n parhau i weithio gyda Chyngor y Celfyddydau, yr Amgueddfa Genedlaethol ac eraill i ddiwallu anghenion y sector - gyda chyhoeddiad i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf.
Galw am sicrwydd
Yn y cyfamser mae Helen Mary Jones, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd wedi galw am sicrwydd fod yr holl gyfanswm o'r £59m yn cael ei wario ar y diwydiannau creadigol:
"Mae darlledu yn y sector cyhoeddus wedi bod yn elfen hanfodol o'n brwydr yn erbyn COVID-19. Mae darlledwyr wedi darparu gwybodaeth hanfodol am iechyd y cyhoedd sy'n benodol i Gymru, cymorth addysg i blant, yn ogystal ag adloniant mawr ei angen.
"Mae amser yn brin os ydym am sefydlogi a chynnal ein diwydiannau creadigol."
Pryderon undebau
Bydd tri undeb o sector y celfyddydau yn cynnal trafodaethau gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch pryderon am faint o gefnogaeth y byddant yn ei gael o becyn cymorth coronafeirws Llywodraeth y DU.
Mae undeb Equity - sy'n cynrychioli actorion ac eraill yn y diwydiannau creadigol - yr undeb darlledu Bectu ac Undeb y Cerddorion wedi trefnu trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ddydd Mercher nesaf.
Ysgrifennodd yr undebau at Lywodraeth Cymru i leisio eu pryderon y byddai swm llawer iawn yn is na'r £59m sydd wedi ei addo yn cael ei ddosbarthu i'r celfyddydau yma yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020