Ansicrwydd am ofal plant dros yr haf a thu hwnt

  • Cyhoeddwyd
Trystan Francis a'i ferch a'i wraig, Mimi a SiânFfynhonnell y llun, Clwb Carco
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Francis a'i ferch, Mimi a'i wraig Siân yn diddanu plant

Mae pennaeth un o gwmnïau gofal plant mwyaf Caerdydd a'r fro wedi gofyn i'r Gweinidog Addysg am fwy o gefnogaeth i'r sector, gan ddweud bod yr ansicrwydd ar hyn o bryd yn peryglu dyfodol y busnes.

Mae Clwb Carco yn cynnal naw clwb gofal plant ar ôl ysgol a chlybiau brecwast ar draws Caerdydd a'r Fro gyda dros 1,500 o blant yn mynychu bob wythnos. Mae 60 o staff y cwmni ar ffyrlo ar hyn o bryd.

Yn ôl perchennog y cwmni, Trystan Francis, mae angen sicrwydd y bydd modd ailddechrau cynnal gweithgareddau ym mis Medi, a mwy o ganllawiau i'r sector gofal plant.

"Ni di gweld hi'n anodd iawn i gael unrhyw le ar gyfer yr haf. Dyw'r ysgolion ddim wir mewn sefyllfa i osod eu hysgolion i ni.

"Y broblem sy 'da fi yw bod y llywodraeth yn dweud eu bod nhw'n gefnogol o ofal plant a bod angen i ni ailagor, ond mewn gwirionedd, o beth rwy'n ddeall dim ond rhyw 12% o wasanaethau Caerdydd fydd ar agor dros yr haf."

Roedd y cwmni'n bwriadu cynnal gweithgareddau dros yr haf am y tro cyntaf eleni.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'r sector gofal plant i sicrhau y gall canolfannau gofal plant ailagor cyn gynted ag sy'n bosibl.

Sut mae cynllunio?

Pryder pellach i'r sector yn ôl Trystan Francis yw nad oes eglurder am beth fydd modd ei wneud ar ddechrau'r tymor ysgol nesaf.

"O ran cynllunio ac ar ran rhieni, os oes disgwyl iddyn nhw fynd nôl i weithio llawn amser neu i fynd nôl mewn unrhyw ffordd, sut mae'r bobl yn mynd i neud hyn heb ofal plant? I rieni mae e mor bwysig â'r oriau ysgol ei hun. S'dim lot o bobl yn gweithio rhwng 9 a hanner awr wedi dau y prynhawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Owain Rogers gyda'i feibion, Harrison a Morgan

Mae Owain Rogers yn athro o Gaerdydd a'n dad i ddau o blant, chwech a phedair oed. Mae e a'i wraig yn dibynnu ar y Clwb Carco i ofalu am y bechgyn yn ystod y tymor ysgol.

"Mae'n hanfodol i ni fel rhieni sy'n gweithio gael gwybod bod y plant yn cael gofal yn syth ar ôl ysgol," meddai. "S'dim rhwydwaith 'da ni i ddibynnu arno, felly mae'n bwysig iawn i ni."

O ran Trystan Francis a'r Clwb Carco, mae amserlen glir i'r sector yn holl bwysig,

"Mae'n rhoi busnesau o fewn gofal plant dan fygythiad. Gaeon ni'n drysau ni ar Fawrth yr 20fed, ac mae'n edrych fel na fyddwn ni'n gallu ail agor tan Fedi yr 20fed, ac ma hynna'n 6 mis cyfan.

"Os yw'n ddigon saff i bobl fynd i dafarn a bwytai, a mynd nôl i'r ysgol, does bosib bo fe'n ddigon iawn iddyn nhw gael gofal plant er mwyn mynd i'r gwaith."

Dim clybiau gofal Mentrau Iaith

Fel mentrau iaith eraill Cymru, fydd Menter Caerdydd, Menter Bro Morgannwg na Menter Caerffili ddim yn cynnal gofal plant dros yr haf fel maen nhw fel arfer yn ei wneud chwaith.

Mae Mentrau Iaith Cymru yn dweud eu bod nhw ar hyn o bryd yn gwneud arolwg o beth fydd pob menter yn gallu ei gynnig o ran gweithgareddau plant dros yr haf. Ar hyn o bryd, mae mwy o bwyslais ar gynnal gweithgareddau ar-lein.

Ffynhonnell y llun, Menter Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Menter Caerdydd fel arfer yn cynnal clybiau plant dros yr haf

"O'ddan ni'n teimlo bod y canllawiau ddim yn ddigonol," medd Manon Rees O'Brien, pennaeth Menter Caerdydd. "Doedden ni ddim yn teimlo'n ddigon hyderus fydden ni'n gallu cynllunio a chynnal gwasanaeth gofal, ac a bod yn onest, mae'r teuluoedd wedi bod yn hynod gefnogol, yn deall yn iawn pam na allwn ni eu cynnal yr haf yma."

Bydd gofal ar gael i blant bregus mewn hybiau, ond bwriad Menter Caerdydd yw cynnal gweithgareddau dros y we yn yr wythnosau cyntaf. Ond mae'r fenter yn dweud eu bod yn ymwybodol bod plant o gartrefi di-Gymraeg yn enwedig heb gael cymaint o gyswllt ag arfer â'r iaith dros y misoedd diwethaf, ac maen nhw'n bwriadu cynnal gweithgareddau grŵp 'Bwrlwm' ym mhythefnos ola'r gwyliau ym mis Awst.

"Mae rhain yn gyfle i blant chwarae," medd Manon Rees O'Brien. "Mae'n wasanaeth pwysig, yn enwedig i blant sy'n dod o gartrefi lle nad Cymraeg ydi iaith y cartref. Dan ni'n cael adborth bob gwyliau am ba mor werthfawr yw rhain i'r teulu, felly dan ni'n anelu i gynnal gymaint o rhain â phosib, pan dan ni'n hyderus bod 'na wasanaeth safonol a diogel, ond hefyd yn hwyl i'r plant."

Ffynhonnell y llun, Menter Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Menter Caerdydd yn dweud bod rhieni yn deall nad oes modd cynnal clybiau haf eleni

Mae'r mentrau wedi lansio tudalen ar Facebook i hysbysebu gweithgareddau ar-lein holl fentrau Cymru, a'u gwneud yn agored i blant o bob rhan o'r wlad. Bydd amserlen lawn o'r gweithgareddau ar y we yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnos nesaf.

Fel y fenter sy'n darparu mwy o ofal plant nag un o'r lleill, mae Menter Caerffili hefyd yn ansicr pryd fydd modd ailddechrau eu clybiau carco yn y tymor ysgol nesaf. Mae 65 o staff ar gynllun arbed swyddi'r llywodraeth ar hyn o bryd.

Mae'r fenter yn sicr y bydd modd ailddechrau gofal cofleidiol i blant oed meithrin tair a phedair oed ym mis Medi, ond maen nhw wedi cael gwybod na fydd modd darparu gofal i blant sydd o amrywiaeth oedrannau.

"Y cyngor diweddaraf yw i beidio agor rheina ym mis Medi tan bod y sefyllfa wedi gwella eto," medd Lowri Jones, pennaeth y fenter a Chadeirydd Mentrau Iaith Cymru.

"Yn sicr, bydden ni'n croesawu eglurder am ofalu am gymysgedd o oedrannau, a bo ni'n cael gwybod cyn gynted a phosib pryd fydd hynna'n cael ei argymell."

Un sydd yn bwriadu ailddechrau sesiynau i blant dros yr haf yw Lleucu Ifan o gwmni Actifiti yng Ngheredigion. Mae hi'n bwriadu cynnal gweithgareddau aml chwaraeon gyda phlant mewn swigod cymdeithasol o bump, gyda dim mwy na chwech grŵp gwahanol bobl dydd.

"Dyw'r busnes ddim mewn sefyllfa i ailddechrau'n llawn gyda clybiau a gweithgareddau nawr," meddai.

"Pan fydd ysgolion yn ailddechrau fe fyddwn yn ail edrych ar y sefyllfa. Gobeithio gallwn ni ailddechrau sesiynau o fewn ysgolion sydd wedi bwcio mewn eisoes a rhai newydd yn ôl y cyngor fydd ar gael o'r llywodraeth ar y pryd a wedi siarad gyda'r ysgolion yn unigol."

Gweithgareddau plant yn cynyddu

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod canolfannau gofal plant wedi bod yn cynyddu eu gweithgareddau ers 22 Mehefin. Mewn datganiad maen nhw'n dweud bod rhai sy'n gweithio o safleoedd sy'n rhannu gofod, fel ysgolion, neuaddau capeli a chanolfannau cymunedol, ddim wedi gallu ailagor mor gyflym ag y bydden nhw yn ei ddymuno.

"Ry'n ni'n gweithio gyda awdurdodau lleol a'r sector gofal plant i sicrhau y gallan nhw ailagor cyn gynted ag sy'n bosibl, ac wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi ailagor gwasanaethau gofal plant."

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud eu bod yn gweithio gyda'u partneriaid i gynnig syniadau am sut i gymell plant o bob oed i ddefnyddio eu Cymraeg dros yr wythnosau nesaf.