Gofal plant yn her i weithwyr allweddol dros yr haf

  • Cyhoeddwyd
A girl holding a woman's handFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o glybiau yn ystod y gwyliau wedi'u canslo yn ystod haf eleni

Mae gweithwyr allweddol yn dweud eu bod wedi cael trafferth sicrhau gofal i'w plant wedi i ganolfannau o fewn ysgolion gau ar gyfer gwyliau'r haf.

Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i gyllido gofal ar gyfer plant gweithwyr allweddol dan bump oed, ond dim ond pedwar awdurdod lleol sy'n dweud y byddan nhw'n parhau i ddarparu gofal ar gyfer plant oedran ysgol yn y canolfannau.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru'n galw ar y cynghorau sir eraill i ailagor canolfannau gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol.

Dywed Llywodraeth Cymru fod £2.6m wedi ei roi i helpu plant bregus a darparu gweithgareddau i blant mewn ardaloedd difreintiedig.

Yr unig awdurdodau sydd wedi cadarnhau bwriad i ddarparu gofal i blant gweithwyr allweddol dros wyliau'r ha yw Caerffili, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Dim ond pythefnos cyn diwedd tymor yr haf y cafodd rhai rhieni wybod y byddai canolfannau'r ysgolion y maen nhw'n eu defnyddio yn cau.

O ganlyniad, maen nhw wedi gofod sicrhau gofal i'w plant ym mha bynnag le posib, gan fod cyfyngiadau coronafeirws yn eu hatal rhag dibynnu ar neiniau a theidiau neu'u gwarchodwyr arferol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Diane Powles o Goleg Brenhinol y Nyrsys bod nyrsys yn ei chael hi'n anodd i ddod o hyd i ofal

Dywedodd Diane Powles, Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi Nyrsio ac Ymarfer Proffesiynol RCN Cymru, fod y newid yn "her go iawn" i nyrsys a gweithwyr allweddol eraill.

"Rydym wedi cael adborth gan aelodau ei bod hi'n frwydr," meddai. "Maen nhw eisiau bod yna i roi gwasanaeth i gleifion. Ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau eu bod yn gofalu am eu plant."

Ychwanegodd fod angen sicrhau "darpariaeth deg ar draws Cymru, fel bod gweithwyr allweddol yn cael yr un cyfleoedd i gael gofal plant.

"Mae angen i nyrsys deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, nid dim ond trwy'u cyflogau, ond yn y ffordd y mae nhw'n cael eu trin."

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu gofal plant i'r rhai dan bump tan 31 Awst trwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu plant mewn ysgolion am rai wythnosau cyn gwyliau'r haf

Bydd Natasha Albinus o Hwlffordd, sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, yn cael cymorth y cynllun yn achos ei merch ddyflwydd oed tan ddiwedd Awst. Ond bu'n rhaid gwneud trefniadau eraill ar gyfer ei merch chwech oed, Ruby pan gyhoeddodd Cyngor Sir Penfro fod canolfannau'r sir yn cau.

"Ro'n i'n teimlo: beth dwi'n mynd i wneud? Heb ofal plant, fyddwn i methu gweithio, byddai hynny wedi cael effaith enfawr ar y teulu ac ar ein sefyllfa ariannol.

"Ges i le i Ruby rywle ar y funud olaf, ond ro'n i'n ffodus."

'Wedi defnyddio ein gwyliau'

Dywedodd nyrs a mam i ddau blentyn o Ben-y-bont ar Ogwr, oedd am aros yn ddienw, fod hi a'i gŵr, sydd hefyd yn gweithio i'r GIG, â dim gofal plant i'w plentyn hynaf, sy'n bump, dros yr haf.

"Ni allai gael gofal ar gyfer yr holl ddiwrnodau ry'n ni angen," meddai. "Hyn a hyn o gefnogaeth teuluol sydd gyda ni, a ni all ffrindiau edrych ar ei hôl oherwydd dydyn ni ddim yn yr un social bubble.

"Rydyn ni wedi defnyddio talp helaeth o'n gwyliau blynyddol eisoes eleni i ofalu am y plant, ac wedi gwneud y peth cywir trwy gadw'r plant gartre gymaint â phosib. Ond nawr ar drothwy gwyliau'r haf mae'r gefnogaeth wedi diflannu."

Mae Gemma Stubbs, mam sengl o Gaerdydd, yn gweithio mewn canolfan sy'n gofalu am blant cyn oedran ysgol. Mae hi wedi gorfod troi at ei rhieni, sy'n hunan-ynysu, am gymorth.

"Rwy'n gofalu am blant gweithwyr allweddol eraill, ond doedd neb yn mynd i ofalu am fy mhlant i," dywedodd. "Byddai fy merch fel arfer yn mynd i glwb gwyliau ond mae hwnnw ar gau y tro hwn.

"Rwy'n ffodus iawn fod mam yn mynd i fy helpu, ond rwy'n grac a rhwystredig. Doeddwn i ddim yn disgwyl gofal plant am ddim, ond dydy hi ddim yn iawn fod gen i unlle i'w danfon a gorfod dibynnu ar fy mam."

Disgrifiad o’r llun,

Mae chwilio am ofal plant wedi bod yn heriol iawn, medd Nia Patten o Gaerdydd

Mae Nia Patten sy'n ddeintydd o Gaerdydd yn fam i dri o blant. Dywed ei bod wedi brwydro i gael gofal i'w merch wyth oed.

"Ro'n i ar ddeall y byddai'r ganolfan ar agor dros yr haf," meddai, "Y tro cyntaf i fi glywed mai nad dyna'r sefyllfa oedd mewn cylchlythyr ysgol.

"Roedd gen i bythefnos i ddod o hyd i rywle ar gyfer fy merch.

"Ro'n i ond angen gofal ddeuddydd yr wythnos ond roedd rhan fwyaf y darparwyr gofal preifat ond yn derbyn plant yn llawn amser.

"Llwyddais i drefnu rhywbeth yn y diwedd, ond roedd yn straen eithriadol."

Ymateb

Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Jane Mudd, fod yr awdurdod wedi penderfynu rhoi pedair wythnos o ddarpariaeth i blant gweithwyr allweddol yn ystod yr haf.

"Roedden ni'n teimlo fod hi'n bwysig i wneud beth bynnag oedd yn bosib i gefnogi teuluoedd a gweithwyr allweddol yn ystod y cyfnod yma."

Dywedodd Llywodraeth Cymru er nad oedd yn fwriad i'r £2.6m ar gyfer cefnogi plant bregus fynd at gefnogi plant gweithwyr allweddol, mae rhwydd hynt i gynghorau sir roi gwasanaeth i blant gweithwyr allweddol hefyd ble mae modd gwneud hynny,

"Mae lleoliadau gofal plant a chwarae ar draws Cymru wedi cynyddu'r ddarpariaeth ers 22 Mehefin," meddai llefarydd.

"Rydym yn cydweithio gydag awdurdodau lleol a'r sector gofal plant i sicrhau y gallen nhw oll agor gynted â phosib. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllaw i gefnogi lleoliadau gofal plant wrth ailagor."