Gweithwyr allweddol: Ymuno â chynllun profi y DU

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething: Ystyriaethau data 'wedi cael eu datrys'

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymuno yng nghynllun y DU ar gyfer archebu profion coronafeirws ar y we ar gyfer gweithwyr allweddol, gan roi'r gorau i safle ar-lein eu hunain.

Roedd gweinidogion Bae Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag Amazon i ddatblygu safle ar wahân.

Cafodd y safle ond ei ddefnyddio fel rhan o gynllun ar gyfer de ddwyrain Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, y gweinidog iechyd fod ystyriaethau data o ran system y DU wedi "cael eu datrys" ac felly doedd dim angen system ar wahân i Gymru.

Roedd Cymru wedi penderfynu datblygu system eu hunain, tra bod llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cytuno i rannu porth llywodraeth y DU.

Dywedodd Mr Gething wrth raglen Politics Wales BBC Cymru: "Ar y dechrau nid oeddem yn gallu manteisio ar raglen brofi'r DU oherwydd byddwn ond wedi cael gwybod a oedd pobl wedi cael prawf - roedd gwybodaeth arall ddim yn cael ei roi nôl i'n system iechyd, felly roedd gwerth y peth yn gyfyngedig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd canlyniadau yn mynd ar gofnodion y claf, a bydd clinigwyr yn gallu eu gweld a'u defnyddio.

"Nawr mae gennym ffordd o weithio sy'n gyson gyda rhannau eraill o'r DU, gyda gwybodaeth yn dod yn ôl i ni. Gallwn ddefnyddio'r un safle."

Pan ofynnwyd i Mr Gething faint oedd wedi ei wario ar y cynllun gydag Amazon, dywedodd nad oedd y ffigyrau ganddo ar hyn o bryd.

Ychwanegodd nad oedd ganddo ddiddordeb i fynd ar ôl "faint oeddem wedi gwario ar ddatblygu safle ar wahân mewn un cyfnod mewn amser".

Profion cartefi gofal

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi trydar ei fod e'n croesawu'r newyddion fod Cymru yn ymuno â safle we Llywodraeth y DU ar gyfer archebu profion i weithwyr allweddol.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddant yn ehangu cynllun profion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal yng Nghymru.

Roedd rhai wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio gwneud hyn, yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth y DU i wneud hyn yn Lloegr rai wythnosau yn ôl.

Ddiwedd Ebrill, roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud na fyddai "unrhyw werth" wrth roi profion i bawb mewn cartrefi gofal.

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Pam ry'n ni wedi bod yn y sefyllfa yma lle mae yna ddryswch wedi bod am allu systemau Cymru a Lloegr i siarad â'i gilydd?

"Faint mae hyn wedi costio? Faint o amser sydd wedi ei golli o ganlyniad i hyn?"

Dywedodd Paul Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, ei fod yn croesawu'r penderfyniad ond ychwanegodd "unwaith eto maen nhw ar ei hôl hi".

Dywedodd Mr Gething wrth raglen Politics Wales fod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail wyddonol sy'n "gallu newid yn ddyddiol ac yn sicr yn wythnosol a dyna pam fod llunio polisïau mor anhygoel o ddeinamig ar hyn o bryd".

Ar 30 Ebrill, dywedodd Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru: "Pe bai ni i lunio polisi am brofi pobl oedd yn asymptotig mewn cartrefi gofal, yna byddai'n rhaid bod yn glir - a ydym am eu profi unwaith, neu pa mor aml rydym am eu hailbrofi?"

Er y newid yn y polisi doedd Mr Gething ddim yn gallu dweud pa mor aml y byddai profion o'r fath yn cael eu cynnal.

"Bydd yn rhaid i ni gael mwy o gyngor a thystiolaeth o hynny oherwydd does yna ddim rhaglen ar hyn o bryd sy'n dweud pa mor aml ddylwn ni fod yn ailbrofi."