Disgwyl mwy o blant gyda phroblemau iechyd meddwl fis Medi
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon yn dweud bod tair wythnos olaf y tymor ysgol wedi dangos yn glir bod llawer mwy o blant angen help i ddelio gyda problemau iechyd meddwl na chyn i'r cyfnod clo ddechrau.
Mae athrawon ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd wedi sylwi bod plant oedd ddim yn fregus cyn i'r pandemig daro Cymru, nawr yn cael eu hystyried fel rhai sydd angen gofal arbennig o ran eu lles meddyliol.
Roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi dweud bod pryder am les plant yn un o'r prif resymau am ailagor ysgolion cyn diwedd tymor yr haf.
Yn ôl un athrawes yn Llanelli, roedd y cyfle i ddychwelyd i'r ysgol, hyd yn oed am dridiau'n unig, wedi cael effaith aruthrol ar blant ei hysgol hi.
"Mae wedi bod fel tri diwrnod Nadolig i'r plant," medd Zoë Jermin-Jones, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gynradd Bryn Sierfel.
Mae'n dweud i'r ysgol fynd i ymdrech fawr i baratoi yn drylwyr ar gyfer yr ailagor, ac i'r plant fwynhau'r profiad o gael desgiau ac offer dysgu personol i'w hunain, yn ogystal a chwmni eu hathrawon drwy gydol y dydd.
"Roedd cymaint o waith wedi mynd mewn ar gyfer cyn lleied o amser, ond roedd e wir werth e.
"Ma Nadolig ond yn un diwrnod, ond yn cael cymaint o impact drwy'r flwyddyn. Dyna fel odd hi. Roedd plant oedd wedi bod yn ymgilio yng nghysgod y feirws wedi sgipio mewn trwy'r drws erbyn yr wythnos olaf, ac roedd e'n wych i'w weld."
Mae Ysgol Bryn Sierfel wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith o ran lles plant, ac roedd nifer o'r disgyblion bregus yn derbyn sesiynau cwnsela drwy brosiect Area 43 yn Sir Gâr a Cheredigion.
Bu'r sesiynau rheiny yn parhau dros Zoom yn ystod y cyfnod clo, ond bu'n rhaid i'r athrawon gyfeirio rhagor o blant at y gwasanaeth wedi i'r ysgol gau i'r mwyafrif.
"Ni wedi cyfeirio plant o'r newydd. Mae anxiety levels wedi mynd lan", meddai Zoë Jermin-Jones.
"Roedd rhai wedi datblygu ffobia o bethau annisgwyl. Roedd un ferch fach 10 oed wedi dechrau ofni tyllau. Roedd hi'n ferch mor hyderus, yn happy go-lucky a'n hwylio drwy fywyd.
"Aeth hi i'w chragen yn annsigwyl. Dechreuodd hi freuddwydio am bethau erchyll. Roedd hi'n poeni gymaint bod y wlad yn cloi.
"Fasech chi byth wedi disgwyl y byddai hi angen cymorth cyn hyn."
Dychwelyd i'r ysgol
Ddaeth pob un o'r plant ddim nôl i'r ysgol dros yr wythnosau olaf. O'r 207 o ddisgyblion, 133 ddaeth nôl erbyn y drydedd wythnos.
Gyda rhai teuluoedd yn profi cyfnod anodd yn ariannol, mae'r athrawon wedi sicrhau bod y banc bwyd lleol yn Llwynhendy yn cludo cyflenwadau i rai teuluoedd mewn angen yn ystod y cyfnod clo.
Ond roedd hi'n amlwg i'r athrawon bod y plant oedd wedi dychwelyd i'r ysgol wedi cael budd mawr.
Profiad tebyg oedd hi o ran disgyblion oed uwchradd hefyd yn ôl Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Garth Olwg, Aled Rogers.
Roedd canran uchel o'r disgyblion wedi cymryd mantais o'r cyfle i ddychwelyd dros y dair wythnos olaf, a disgyblion TGAU yn enwedig yn ddiolchgar,
"O ran yr ochr gwaith maen nhw wedi gweld elw, ond hefyd o ran lles," meddai.
"Mae gweld eu ffrindiau wedi cael effaith cadarnhaol."
Ond yma hefyd, roedd enghreifftiau o blant oedd heb broblemau iechyd meddwl amlwg cyn y cyfnod clo, nawr yn dioddef.
"Be ni wedi gweld yw ma 'da ni grŵp newydd o blant sydd yn fregus nad oedd yn fregus o'r blaen."
Roedd yr ysgol wedi rhannu holiadur lles ymysg y disgyblion, a'r canlyniadau wedi dangos bod disgyblion ychwanegol angen cymorth.
"Beth ry'n ni wedi gweld yw problemau o ran gorbryder, lle nad on nhw'n pryderu o'r blaen - falle o ran lles, sgiliau ymdopi, a phryderon cymdeithasol am beth maen nhw'n cael neud a beth dyn nhw ddim yn cael neud. Ond gwaith ysgol yn fwy na dim.
"Oherwydd hynny, ni wedi adnabod nhw, a rhoi cymorth iddyn nhw" meddai Mr Rogers.
"Felly mae mwy o gymorth un i un yn digwydd - cwnsela mewn ffordd, a chymorth lles. Felly pan fyddan nhw'n dychwelyd ym mis Medi bo nhw'n teimlo bo nhw mewn lle iawn i ddychwelyd i'r ysgol."
Elusen
Mae elusen Barnardo's hefyd yn dweud eu bod yn disgwyl y bydd lles plant yn gwaethygu dros y misoedd nesaf. Maen nhw yn pryderi fwyaf am blant sy'n dioddef o amddifadedd cymdeithasol dwys.
"Ni'n gwybod bod pethau yn mynd i waethygu o ran yr effaith economaidd sy'n mynd i fod ar y teuluoedd hyn," meddai Menna Thomas, Cyfarwyddwr Polisi Cynorthwyol Barnardo's Cymru.
Mae Barnardo's wedi gwneud gwaith ymchwil gafodd ei wneud ar effaith trychinebau fel Corwynt Katrina yn New Orleans a daeargryn Christchurch yn Seland Newydd ar iechyd meddwl plant.
Maen nhw'n dweud bod gwasanaethau oedd yn helpu'r teulu cyfan - y plant yn ogystal a'r rhieni - wedi datrys problemau yn gynt na thrin y plant yn unig.
"Mae ysgolion yn cynnig mwy o gefnogaeth i rieni nawr," medd Menna Thomas.
"Ond dwy ddim yn siŵr os yw e'n gyson dros bob ysgol."
Arian ychwanegol
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau £5m o bunnau ers mis Ebrill i helpu plant ymdopi'n feddyliol a phroblemau yn deillio yn sgil coronafeirws.
Ym mis Mai fe ddywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Mae coronafeirws yn achosi pryder ychwanegol i bobl o bob oed, plant a phobl ifanc hefyd. Mae'n rhaid i ni ragweld cynydd yn y galw am gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc.
Ry'n ni'n gwybod y gallwn atal problemau rhag gwaethygu wrth eu taclo yn gynnar. Ry'n ni'n estyn y cymorth sydd ar gael i blant dan 11 oed er mwyn iddyn nhw hefyd gael cymorth emosiynol os ydyn nhw ei angen e."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020