Hyd at 80 achos Covid-19 yn Ysbyty Maelor Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor, Wrecsam

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau fod rhwng 70 ac 80 o achosion positif o'r coronafeirws wedi eu cofnodi yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae rhai achosion hefyd wedi'u cadarnhau yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy, Ysbyty'r Waen ac Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug.

Dywedodd cyfarwyddwr nyrsio Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gill Harris: "Rydym wedi cyflwyno sgrinio i bawb ar wardiau lle mae achos positif o Covid-19, neu lle mae un wedi bod.

"Mae hyn hyn ychwanegol i sgrinio pob claf sy'n dod i mewn i'n hysbytai. Mae pawb sy'n profi'n bositif yn cael eu hynysu'n briodol ac mae mesurau atal a rheoli heintio yn eu lle."

"Bydd dwy ganolfan brofi symudol yn cael eu sefydlu yn Wrecsam yfory [29 Gorffennaf] i gynorthwyo rheoli Covid-19 yn y gymuned. Fe fyddan nhw yng nghanolfan iechyd Parc Caia (Ffordd Tywysog Charles) a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown.

"Fe fydd pobl yn gallu cael prawf heb apwyntiad drwy fynd i'r safleoedd hynn rhwng 09:00 a 18:00 dros y dyddiau nesaf."

Ar hyn o bryd mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddau dîm yn ceisio olrhain a rhwystro'r haint rhag lledu ymhellach.

Daw yn dilyn achosion o'r feirws mewn safle prosesu bwyd yn Wrecsam yn ddiweddar.

Atal lledaenu

"Roedd yna glwstwr mewn safle prosesu cig ac mae yna ychydig o orgyffwrdd rhwng achosion yn y ffatri a'r gymuned." meddai Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru.

"Yna mae'r ysbyty. Rydym yn ymwybodol o rai achosion yna.

"Mae yna ddau dîm yn cydweithio yn agos gyda'i gilydd er mwyn sicrhau fod y mesurau mewn lle er mwyn ei atal rhag lledu.

"Rydym yn credu fod yr achosion yn y gymuned yn ymwneud â'r ddau le yna."

Ychwanegodd Dr Atherton bod rhai achosion yn y gymuned hefyd.

Wrth son am achosion Wrecsam yn benodol, dywedodd: "Mae hynny yn dueddol o fod yn yr ardaloedd difreintiedig - mae rhai ardaloedd yn Wrecsam lle rydym yn rhoi mesurau ychwanegol er mwyn ei gwneud hi yn fwy hwylus i bobl gael profion."

Unedau profi

Ar y Post Cyntaf galwodd cynghorydd lleol am esboniad o'r sefyllfa a'r unedau profi.

Dywedodd y Cynghorydd Marc Jones: "Dydyn nhw ddim wedi esbonio pam eu bod nhw eu hangen nhw yno.

"Oes 'na broblem yn lleol? Ydyn nhw yn targedu ardaloedd penodol o fewn Parc Caia achos mae'n ardal o 12,000 o bobl.

"Ydy'r cwbl lot o dan warchae fel petai?"

Yn y cyfamser, mae ffigyrau diweddara' Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos na chafodd rhagor o farwolaethau o'r haint eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

Cyfanswm y nifer tybiedig sydd wedi marw o symptomau yn gysylltiedig â'r haint yw 1,549.

Y cyfanswm sydd wedi profi'n bositif ydy 17,191.